Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Penodiadau newydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi penodi Kathryn Rees yn bennaeth newydd Adran y Delyn yn dilyn ymddeoliad Caryl Thomas.

Rhannu neges

Categorïau

Y delyn

Dyddiad cyhoeddi

Published on 23/08/2022

Kathryn is a passionate advocate of exploring the varied potential of the harp, drawing on its traditional/classic roots but looking outwards at its contemporary possibilities.

'Rydym wrth ein bodd bod yr awenau’n cael eu trosglwyddo o ddwylo Caryl i Kathryn Rees sydd eisoes â pherthynas waith agos â CBCDC, yn ein Conservatoire Iau a’r Coleg Hŷn. Mae gan Kathryn enw gwych fel athrawes gyda’i myfyrwyr yn ennill clod a llwyddiant yn rhyngwladol. Rydym wedi ein cyffroi gan ei gweledigaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o delynorion yn CBCDC; un a fydd yn dathlu offeryn cenedlaethol Cymru a hefyd yn cofleidio ehangder o genres ac arddulliau amrywiol.

Mae Caryl Thomas wedi bod yn Bennaeth llawn ysbrydoliaeth ac angerddol ar Adran y Delyn yn CBCDC a bydd colled fawr ar ei hôl, mae ei phroffil fel chwaraewr ac fel athrawes, ei gwybodaeth a’i harbenigedd wedi gadael gwaddol gwych, a welwyd ar raddfa ryngwladol. Ni allai fod wedi bod yn fwy addas mai ei rôl olaf yn rhedeg yr adran oedd dod â Chyngres Telynnau’r Byd i’r Coleg. Yn ei hwythnos olaf yn y Coleg, croesawodd Caryl Gyngres Telynau’r Byd i CBCDC fel cadeirydd y pwyllgor lletya. Daeth Cyngres Telynau’r Byd, â thelynorion o 42 o wledydd ynghyd, gan hyrwyddo cerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol gyda chyngherddau, gweithdai a seminarau yn cynnwys pob agwedd ar gerddoriaeth a pherfformiad y Delyn. Hwn oedd y tro cyntaf i’r Gyngres ymweld ag Ewrop mewn 14 o flynyddoedd.'

Tim Rhys-Evans
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC

'Rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i arwain yr Adran y Delyn yn CBCDC. Ar ôl meithrin perthynas mor agos â’r adran dros nifer o flynyddoedd, mae’n arbennig o gyffrous gallu ysbrydoli a meithrin y genhedlaeth nesaf o delynorion blaenllaw.'
Kathryn ReesPennaeth y Delyn

'Yn dilyn ymadawiad Angela Livingstone fel Pennaeth Perfformio Opera a Lais a John Fisher fel Cyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman, mae’r Coleg wedi penodi James Southall yn Gyfarwyddwr Cerdd Dros Dro Ysgol Opera David Seligman, a Mary King yn Bennaeth Dros Dro yr Ysgol. Astudiaethau Llais ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23. Mae cysylltiad James â CBCDC a’i brofiad yn y proffesiwn opera yn ei wneud yn benodiad cyffrous iawn ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ef dros y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd James yn cymryd blwyddyn sabothol o’i rôl gyda staff cerddoriaeth WNO i’w alluogi i ymgymryd â’r rôl hon, sy’n arwydd arall o gryfder y berthynas rhwng ein dau sefydliad.


Mae profiad Mary fel cantores, perfformiwr, addysgwr a darlledwr, ynghyd â’i hangerdd am lais a datblygiad cantorion, yn ei gwneud yn berson delfyrdol i ymgymryd â’r rôl hon. Mae ei henw da yn un rhyngwladol ac rydw i wrth fy modd i allu ei chroesawu i CBCDC yn fuan. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i Angela Livingstone am bopeth y mae hi wedi’i wneud ar gyfer Perfformio Opera a Llais yn CBCDC. O dan ei harweinyddiaeth, mae’r adran wedi mynd o nerth i nerth i ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant lleisiol ac operatig.'

Tim Rhys-Evans 

Nodiafau golygyddion

Mae Kathryn Rees wedi bod yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers pedair blynedd ar ddeg, gan arbenigo mewn techneg y delyn. Mae ei chynfyfyrwyr a’i myfyrwyr presennol wedi cael llwyddiant mawr mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ar ôl graddio o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, astudiodd Kathryn ei gradd Meistr mewn Perfformio a Llenyddiaeth y Delyn yn Ysgol Gerdd Eastman, Rochester, Efrog Newydd. Cwblhaodd ei hastudiaethau gydag Ysgoloriaeth Llysgenhadol Rhyngwladol y Rotari. Ar ôl tymor fel y Prif Delynor yng Ngŵyl Opera Heidelberg, bu Kathryn yn gweithio fel telynores gerddorfaol ar ei liwt ei hun yn nhalaith Efrog Newydd a bu’n addysgu fel Uwch Hyfforddwr y Delyn yn Academi Celfyddydau Interlochen ym Michigan.

Mae Kathryn wedi mwynhau gyrfa berfformio amrywiol, yn cyflwyno datganiadau yng Nghanada, UDA, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar ac yn gweithio ar ei liwt ei hun yn gerddorfaol yma yng Nghymru, yn fwyaf nodedig gyda Sinffonia Cymru. Mae Kathryn yn addysgu carfan helaeth o fyfyrwyr preifat ac mae galw mawr amdani yn aml ar gyfer dosbarthiadau meistr ac fel beirniad mewn cystadlaethau.

Mae’n frwd dros archwilio potensial amrywiol y delyn, gan dynnu ar wreiddiau traddodiadol/clasurol yr offeryn ond hefyd edrych allan ar ei phosibiliadau cyfoes. Rhagor am y ffynhonnell hon.

James Southall
Mae James wedi arwain gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L’orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé. Ochr yn ochr â’i waith gyda’r WNO, mae James wedi bod yn hyfforddwr yn CBCDC ers 2013, gan arwain y Gala Opera gyda Cherddorfa’r WNO yn 2018.Yn y WNO mae wedi bod yn arweinydd cynorthwyol i Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.

Mae’n bianydd gwobrwydedig ac wedi perfformio datganiadau yn Neuadd Wigmore, Neuadd Cadogan ac yn fyw ar BBC Radio 3. Mae hefyd wedi cydweithio â Syr Bryn Terfel CBE, Rebecca Evans, Elizabeth Watts ac Ailish Tynan.

Roedd James yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg y Frenhines Caergrawnt ac mae’n gynfyfyriwr y Coleg Cerdd Brenhinol.

Mary King
Mae gyrfa Mary wedi cwmpasu ystod eang o rolau, gan gynnwys perfformiwr, athrawes, hyfforddwr, darlledwr ac awdur. Mae Mary yn mezzo soprano poblogaidd a hynod brofiadol ac wedi gweithio gydag arweinwyr blaenllaw a nifer o gerddorfeydd ledled y byd ac wedi gwneud nodwedd arbennig o’r repertoire clasurol cyfoes. Mae profiad Mary o arwain sefydliadau wedi canolbwyntio ar hyfforddi cantorion ifanc gan gynnwys Knack Opera Cenedlaethol Lloegr, Voicelab Canolfan Southbank ac Academi Glyndebourne.

Mae hi’r un mor gartrefol ym maes Theatr Gerddorol ac yn addysgu’r ddisgyblaeth hon yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Arts Ed ac mae’n ymgynghorydd llais ar gyfer sawl sioe yn y West End. Mae hi hefyd yn ddarlledwr rheolaidd ar radio a theledu ac yn 2027 chyd-ysgrifennodd The Singer’s Handbook, a gyhoeddwyd gan Faber.

Negeseuon newyddion eraill