

Ymgeisiwch nawr i hyfforddi ar gyfer gyrfa gefn llwyfan gyda gradd sylfaen mewn celfyddydau golygfaol, adeiladu setiau neu gynhyrchu technegol
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer ein graddau sylfaen dwy flynedd mewn celfyddydau golygfaol, adeiladu setiau a chynhyrchu technegol. Mae'r cyrsiau ymarferol hyn, sydd wedi'u cynllunio ar y cyd â'r diwydiannau creadigol, yn eich paratoi ar gyfer rolau cefn llwyfan mewn theatr, teledu, ffilm a digwyddiadau byw. Byddwch yn ennill profiad ymarferol, yn adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol, ac yn graddio yn barod i weithio.
Gwireddwch eich uchelgais - Lansiwch eich gyrfa gefn llwyfan mewn conservatoire blaenllaw yn y DU
Mae Cymru wedi dod yn hyb creadigol gyda Netflix, NBCUniversal, Lucasfilm ac eraill yn ffilmio yma, a chwmnïau cynhyrchu fel Bad Wolf a Severn Screen yn helpu i roi Caerdydd ar y map.
Graddau sylfaen Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw'r unig gyrsiau o'u math yng Nghymru, sydd wedi'u cynllunio ar y cyd â'r diwydiant, i ateb y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus y tu ôl i'r llwyfan, ac i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o dechnegwyr theatr a sgrin.
Byddwch yn gweithio ar sioeau byw yn ein theatrau proffesiynol, yn dysgu gan diwtoriaid profiadol yn y diwydiant, ac yn datblygu’r sgiliau technegol a datrys problemau sy'n hanfodol yn y byd hwn sy'n symud yn gyflym. Mae llawer o'n myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau â thâl neu’n gwneud gwaith llawrydd wrth iddynt astudio.
Mae graddedigion o'n cyrsiau yn mynd ymlaen i weithio ar draws y diwydiannau creadigol - o'r West End a gwyliau cerddoriaeth i stiwdios teledu, setiau ffilm a pharciau thema.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ein cyrsiau sylfaen
Archwiliwch ein cyrsiau sylfaen
Gallwch ddewis o blith tri cwrs gradd sylfaen arbenigol, a byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol ac yn gweithio y tu ôl i'r llwyfan ar berfformiadau cyhoeddus fel rhan o'ch cwrs.

Gradd Sylfaen mewn Celf Golygfeydd

Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol
Barn ein myfyrwyr
Archwiliwch straeon graddedigion

Dysgwch sut mae ein cyrsiau sylfaen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer diwydiannau sgrin sy'n tyfu yng Nghymru.

Cewch glywed gan ddau o raddedigion Celfyddydau Golygfeydd sy'n gweithio ym myd ffilm, teledu a'r theatr.

Darllenwch sut y trodd Hannah ei sgiliau gwaith coed yn yrfa gefn llwyfan gyda'n Gradd Sylfaen Adeiladu Golygfeydd.
Astudiwch ar gwrs gradd sylfaen yng Nghaerdydd - prifddinas Cymru

Byw yng Nghaerdydd

Llety: ble i fyw tra byddwch yn astudio yn CBCDC
