Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Carlo Rizzi a Justina Gringytė gyda WNO Orchestra

Tocynnau: £10 - £26

Ymunwch ag Arweinydd Uchel ei Fri y WNO, Carlo Rizzi, y mezzo-soprano arobryn, Justina Gringytė (La Forza Del Destino, Roberto Devereux) a Cherddorfa WNO ar gyfer cyngerdd a fydd yn swyno calonnau a’r meddyliau.

Mae’r cyngerdd yn agor gydag Adoration gan Florence Price. Cafodd y darn hwn ei gyfansoddi gyntaf yn 1951 ar gyfer yr organ, ond rhoddwyd bywyd newydd iddo mewn trefniant cryf ar gyfer y ffidil a’r gerddorfa linynnol.  Er mai darn byr o dri munud ydyw, mae ei effaith emosiynol yn amlwg, gyda melodi cryf a harmonïau trymion.

Mae cân gylchol Berlioz, Les Nuits dété, sy’n seiliedig ar chwe cherdd, yn archwilio cynnydd cariad, gan gyfuno lliwiau bywiog cerddorfaol gyda ‘thechneg syfrdanol’ Gringytė (The Times) a fydd yn eich tywys ar daith angerddol o gariad a cholled.

Daw’r cyngerdd i ben gyda Symffoni Rhif 4 Bruckner, a gyfansoddwyd gyntaf yn 1874. Cafodd y darn ei addasu sawl gwaith dros y blynyddoedd er mwyn gweddu â ffasiwn pob cyfnod yn ei dro. Er bod Beauty yn para dros awr, bydd y darn yn sicr o’ch bywiogi.

Florence Price Adoration

Hector Berlioz Les Nuits dété (Summer Nights)

Interval

Anton Bruckner Symphony No.4

Arweinydd Carlo Rizzi

Mezzo Soprano Justina Gringytė

Digwyddiadau eraill cyn bo hir