
Dan Ellis
Tiwtor Offerynnau Taro Masnachol a West End
Rôl y swydd: Is-lywydd Drama
Shwmae! Fi yw Deio, eich Is-lywydd Drama eleni. Rwy’n Gymro Cymraeg balch sydd yn fy nhrydedd, a’m blwyddyn olaf, ar y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio yma yn CBCDC.
Fy nod yw sicrhau bod pob llais ar draws yr adran Ddrama yn cael ei glywed a’i werthfawrogi - p’un a ydych chi ym maes Actio, Theatr Gerddorol, Rheoli Llwyfan, Cynllunio, Adeiladu Golygfeydd neu’r Celfyddydau Golygfaol. Mae eich syniadau a’ch profiadau’n bwysig, ac rydw i yma i’ch cynrychioli chi cystal ag y gallaf.