Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Nina Martin

Rôl y swydd: Is-lywydd Cerddoriaeth

Rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn ar y cwrs BMus Cyfansoddi ac yn llawn cyffro i fod yn Is-lywydd Cerddoriaeth UM eleni! Er mai myfyriwr cyfansoddi ydw i, rydw i hefyd yn berfformiwr-gyfansoddwr brwd, ac enillais Wobr Cyrs Sengl Howarth ar y Sacsoffon yn ddiweddar.  

Fi fydd yn gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr ar draws yr adran gerddoriaeth, a’m ffocws yw hwyluso cysylltiad rhwng cyfansoddwyr a pherfformwyr a fydd yn parhau i’r byd proffesiynol, annog ymatebion cerddorol creadigol i’r argyfwng hinsawdd, a gwella profiadau cerddorion niwroamrywiol.   

Proffiliau staff eraill