

Cwmni Richard Burton
Tartuffe, The Imposter
Trosolwg
Sad 6 - Iau 11 Rhag
Lleoliad
Prisiau
£8 - £16
Tocynnau: £8 - £16
Gwybodaeth
Mae gan Orgon bopeth: teulu hardd, arian a grym. Pan fo’n gadael y twyllwr rhagrithiol Tartuffe i mewn i’w fywyd daw twyll, hudoliaeth ac anhrefn yn ei sgil. Ond beth sy’n wir a beth sy’n ffug, ac a yw’r dieithryn hwn y dihiryn y mae’n ymddangos i fod? Mae fersiwn ffyrnig John Donnelly o gampwaith comig Molière yn edrych ar y graddau yr awn i ddod o hyd i ystyr.
Gan Jean Baptise Molière
Fersiwn gan John Donnelly
Cyfarwyddwr Claire Brown
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.