Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cwmni Richard Burton

The Adventures of David Copperfield

  • Trosolwg

    Gwe 5 - Mer 10 Hag

  • Lleoliad

    Theatr Bute

  • Prisiau

    £9 - £18

  • Oedran

    10 +

Tocynnau: £9 - £18

Lleoliad: Theatr Bute

Gwybodaeth

Y Nadolig hwn gallwch ddilyn anturiaethau rhyfeddol David Copperfield.‘To begin my life with the beginning of my life, I record that I was born…’O dorcalon i ddoniolwch llwyr, ymunwch â ni ar y wibdaith hon o hanes personol ac arsylwadau David Copperfield. Mae’r addasiad cyffrous a hudolus hwn gan Simon Reade yn mynd i fyd lled-hunangofiannol Charles Dickens mewn noson llawn hwyl mewn neuadd gerddoriaeth Fictoraidd. Yn cynnwys cymeriadau llawn bywyd a bythgofiadwy, bydd Cwmni Richard Burton yn mynd â chi ar ddarganfyddiad cerddorol trwy ganeuon gan Chris Larner

Cyfarwyddwr Jac Ifan Moore
Gan Charles Dickens
Adapted by Simon Reade
With Songs by Chris Larner

Cwmni Richard Burton

Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw. Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir