Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Teulu

Theatr Little Angel: The Paper Dolls

  • Trosolwg

    Sad 22 - Sul 23 Tach

  • Lleoliad

    Theatr Richard Burton

  • Prisiau

    £7.50 plant | £10 Oedolyn

  • Oedran

    3 - 8 oed

Tocynnau: £7.50 plant | £10 Oedolyn

Gwybodaeth

Mae merch fach yn torri llinyn o ddoliau papur, yn cydio yn eu dwylo a gyda’i gilydd maent yn mynd ar antur llawn rhyfeddod sy’n troelli trwy eu cartref a’u gardd. Mae Ticky, Tacky, Jackie the Backie, Jim gyda dau drwyn a Jo gyda’r bwa yn hedfan trwy amser ac yn gwibio ar draws bydoedd o hwyl a chyffro.

Maent yn wynebu crafangau Jwrasig deinosor tegan a genau perygl maneg popty ar ffurf crocodeil, ac yna mae bachgen go iawn gyda siswrn go iawn yn bygwth torri ar eu hantur…

Cyd-gynhyrchiad Theatr Little Angel a Theatr Polka, yn seiliedig ar y llyfr gwreiddiol gan Julia Donaldson a Rebecca Cobb

Digwyddiadau eraill cyn bo hir