Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Canlyniadau chwilio

Canlyniadau chwilio ar gyfer ' ' | 1725 o ganlyniadau wedi’u canfod.

Digwyddiad

Chwyth Siambr CBCDC

Cyfansoddodd Jonathan Dove ei ‘Figures in the Garden’ ym 1991 fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Mozart yn Glyndebourne, i’w chwarae yn yr awyr agored mewn arddull harmoniemusik go iawn fel rhagarweiniad i berfformiadau ‘The Marriage of Figaro’. Yn y cyngerdd hwn byddwch yn clywed pytiau o themâu Mozart yn treiddio trwy’r gwaith hyfryd dyfeisgar hwn cyn cael eich gwir drochi yn Mozart, yn ei serenâd chwyth fawr yn C leiaf.
Digwyddiad

Lucy Gould ac Unawdwyr Llinynnol CBCDC

Lucy Gould sy'n arwain chwaraewyr llinynnol ifanc gwych CBCDC ar daith ar draws Ewrop - o dirwedd aeafol Ynysoedd Shetland Sally Beamish, i ehangder mawr gwastatir Hwngari yn Serenâd ar gyfer Cerddorfa Linynnol Dohnanyi.
Digwyddiad

Alexander Boldachev

Mae'r chwaraewr arbennig Swis-Rwsaidd Alexander Boldachev yn perfformio campweithiau'r delyn gan Vivaldi, Rachmaninoff, Arvo Pärt…ac One Republic.
Digwyddiad

Orsino Ensemble

Gall pum cerddor adrodd mil o straeon. Gallwch fwynhau hyn i gyd – a mwy – pan fydd chwaraewyr penigamp Ensemble Orsino yn dod â swing i Gaerdydd yr awr ginio hon.
Digwyddiad

Band Pres CBCDC: Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi

Bydd Band Pres CBCDC dan arweiniad Dr Robert Childs yn dathlu ein nawddsant gyda rhaglen o gerddoriaeth Geltaidd.
Digwyddiad

Gwobr Beethoven Eric Hodges

Mae sonatas piano Beethoven yn grynodeb eang ac amrywiol o brofiad dynol, ac yn her dechnegol a cherddorol anferth i unrhyw bianydd. Mae myfyrwyr CBCDC yn cael eu gwir herio wrth iddynt fynd i’r afael â’r sonatâu aruthrol hyn wrth gystadlu am Wobr Eric Hodges flynyddol.
Digwyddiad

Rownd Gynderfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker

Ymunwch â ni i chwilio am unawdwyr lleisiol 2025 a fydd yn cystadlu yn rownd cynderfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker y coleg.  
Digwyddiad

Band Catrawd yr Awyrlu: Ensemble Pres

Mae Ensemble Band Pres Catrawd yr Awyrlu yn cyflwyno rhaglen sy’n cynnwys gweithiau gan Ralph Vaughan Williams a Charles Ives.
Digwyddiad

Pedwarawd Carducci

Byddwch yn barod am emosiwn pur gan y Pedwarawd Carducci rhyngwladol gwobrwyedig, sy'n cyflwyno rhaglen arbennig o gerddoriaeth Shostakovich, Rebecca Clarke, Fanny Mendelssohn a Caroline Shaw. 
Digwyddiad

Sioe Arddangos Theatr Gerddorol

Cyfle i weld y dosbarth theatr gerddorol ’25 yn dangos eu doniau.