Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Maggie Lamelas

MMus Llwybr Cerddorfaol - Dwys (Fiola)

Blwyddyn graddio: 2023

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Dewisais barhau â’m hastudiaethau ar y cwrs MMus Dwys oherwydd y cyfleoedd unigryw yr oedd yn eu cynnig. Roedd llwybr Cerddorfaol CBCDC yn cynnig profiadau diguro o gymharu ag unrhyw gyrsiau cerddorfaol eraill yn y DU, gan gynnwys cynlluniau lleoliad gyda cherddorfeydd BBC NOW a WNO. Hefyd, roedd y cwrs yn cynnwys gwersi gydag athrawon fiola rhagorol ac yn cynnig profiad cerddorfaol helaeth, fel blaenwr a chwaraewr adran. Roedd y ffaith y gallwn i gwblhau’r cwrs mewn blwyddyn, gyda ffioedd is, hefyd yn ffactor pwysig yn ariannol.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau/nodau gyrfa/cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Mae’r cwrs ei hun wedi’i fapio’n dda iawn o ran sut i’n meithrin ni a chaniatáu i ni ddewis pa sgiliau rydym am barhau i’w datblygu. Cynlluniais fy newisiadau o ran modiwlau i wneud yn siŵr y gallwn, yn ogystal â datblygu’r arbenigedd mewn gwaith cerddorfaol oedd yn rhan o’r cwrs, ehangu fy sgiliau a mireinio diddordebau eraill. Trwy ddewis ein modiwlau ein hunain, mae gennym yr hyblygrwydd i gydbwyso gwaith academaidd ac ymarferol yn ôl ein hanghenion. Roeddwn hefyd yn gallu trefnu fy nghyngerdd fy hun o’r dechrau i’r diwedd a ddysgodd i mi sut i gysylltu â lleoliadau, hyrwyddo digwyddiadau, amserlennu ymarferion, trefnu chwaraewyr ac ati trwy’r Modiwl Prosiect Creadigol.

Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?

Roedd y cwrs wedi fy mharatoi’n drylwyr ar gyfer gyrfa fel cerddor cerddorfaol. Roedd chwarae ochr yn ochr â cherddorfeydd y WNO a BBC NOW wedi rhoi sgiliau a phrofiad amhrisiadwy i mi. Hefyd, fe wnaeth cymryd rhan ym mhrosiectau amrywiol y Coleg fy nghyflwyno i ystod eang o repertoire, a oedd yn hynod fuddiol. Roedd cael cyfle i chwarae offerynnau cyfnod a chymryd rhan mewn prosiectau Perfformiad wedi’i Lywio gan Hanes (HIP), megis chwarae’r fiola baróc a Viola da Gamba, yn brofiad pleserus ac addysgiadol. Roedd y fformat blwyddyn ddwys yn golygu bod yn rhaid i mi ragori mewn rheoli amser a blaenoriaethu, sgiliau a ddysgais er mwyn llywio’r trwy’r flwyddyn heriol. Mae’r holl brofiadau hyn wedi bod yn ddefnyddiol i adeiladu fy ngyrfa.

I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?

Byddwn yn argymell y cwrs hwn i rywun sydd â diddordeb mewn cael cipolwg ar sut beth yw chwarae mewn cerddorfa broffesiynol, sydd wedi ymrwymo i fireinio eu sgiliau fel cerddor cerddorfaol, ac sydd eisiau bod yn chwarae repertoire amrywiol ac mewn ensembles amrywiol bob wythnos.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill