Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gabriella Alberti

MMus Perfformio Cerddorfaol (Fliwt)

Blwyddyn graddio:

Gweld eu gwaith:

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Dewisais y cwrs MMus yn CBCDC oherwydd ei fod yn un o’r ychydig sefydliadau yn y DU ac Ewrop sy’n cynnig rhaglen gradd meistr yn canolbwyntio’n benodol ar berfformio cerddorfaol. Mae’r cynllun lleoliadau unigryw a’r cyfleoedd i eistedd i mewn gyda cherddorfeydd proffesiynol yn ei wneud yn wahanol i golegau eraill.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau o ran gyrfa?

Gan mai perfformio cerddorfaol oedd fy nyhead o ran gyfra, fe wnes deilwra fy mhrofiad trwy ddewis modiwlau a oedd yn cefnogi’r nod hwn. Er enghraifft, dewisais bynciau megis Clyweliad Proffesiynol i baratoi’n well ar gyfer gofynion y proffesiwn.

Bu un foment gofiadwy iawn yn ystod fy nghyfnod lleoliad cyntaf yn y BBC. Byddwch fel arfer yn chwarae am gyfnodau byr ar leoliad gwaith, ond y tro hwn bu ychydig o gymysgwch gyda’r rota ac ni fynychodd yr ail ffliwtydd i sesiwn tair awr o hyd yn y bore. Gofynnwyd i mi chwarae’r sesiwn gyfan yn sedd yr ail ffliwt a phicolo, a chefais hefyd fy nhalu am y gwaith. Roedd yn brofiad gwefreiddiol, heriol ac annisgwyl, a gwnaeth i mi sylweddoli hyd yn oed yn fwy ofynion bod â sedd mewn cerddorfa.

Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?

Mae’r cwrs wedi bod yn hynod fuddiol i fy ngyrfa. Darparodd y ddwy flynedd o leoliadau gyda BBC NOW a WNO brofiad amhrisiadwy, gan arwain at waith cerddorfaol gyda’r ddwy gerddorfa ar ôl graddio. Rydw i hefyd wedi bod yn ffodus i gael fy ychwanegu at restrau chwaraewyr ychwanegol y ddwy gerddorfa.

I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?

Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd am ddilyn gyrfa mewn perfformio cerddorfaol. Dyma’r cwrs i chi. Mae’n gyfle gwych i gael profiad cerddorfaol mewn amgylchedd cefnogol fel myfyriwr.

Sut brofiad yw astudio yng Nghaerdydd?

Mae Caerdydd yn ddinas gyfeillgar iawn i fyfyrwyr, heb fod mor llethol neu orlawn â Llundain. Mae popeth yn agos ac yn hawdd i’w cyrraedd ar droed, sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar eich astudiaethau a bod ond tafliad carreg o dirwedd hardd Cymru.

Disgrifiwch y cwrs hwn mewn 3 gair:

Ysgogol, ysblennydd a chefnogol

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill