Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Amy Reynolds

MMus Perfformio Cerddoriaeth (Piano)

Blwyddyn graddio: 2023

Gweld eu gwaith:

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Dewisais barhau â’m hastudiaethau yn CBCDC i gael mwy o brofiad o weithio gyda chantorion, yn enwedig er mwyn dyfnhau fy nealltwriaeth o opera a rôl répétiteur.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau o ran gyrfa?

Gyda chefnogaeth Zoe Smith, Pennaeth Rhaglenni Ôl-radd, roeddwn yn gallu teilwra’r cwrs i weddu i’m diddordebau penodol. Yn hytrach na dilyn y llwybr piano cydweithredol, canolbwyntiais ar gyfeilio ar gyfer y llais ac opera yn unig. Rhoddodd y modiwl Prosiect Proffesiynol y cyfle i mi drochi fy hun yn y broses o lwyfannu opera, o’r camau cynnar i berfformio ar y piano a celeste mewn perfformiad.

Trwy gydol y prosiect chwaraeais ar gyfer nifer o wersi llais, a helpodd fi i ddeall proses y canwr tra’n derbyn adborth gwerthfawr ar fy hyfforddi lleisiol. Fe wnes i hefyd gyfeilio i ddosbarthiadau iaith a dysgu am dechneg lleisiol, i gyd tra’n gweithio ar wella fy sgiliau darllen ar yr olwg gyntaf. Caniataodd y profiad hwn i mi ddatblygu fy ngallu i chwarae lleihadau cerddorfaol, gan wneud penderfyniadau ar beth i’w hepgor neu ei gynnwys i greu effaith lawn cerddorfa wrth y piano.

A gawsoch chi unrhyw berfformiadau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?

Fe wnes i wir fwynhau gweithio ar brosiect a arweiniwyd gan y myfyrwyr a roddodd gyfle i mi berfformio Rhapsody in Blue Gershwin gyda cherddorfa. Mae hynny’n bendant yn uchafbwynt fy nghyfnod yn CBCDC.

Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?

Rhoddodd y cwrs yr hyblygrwydd oedd ei angen arnaf i gydbwyso gwaith ac astudio, gan ganiatáu i mi feithrin perthynas broffesiynol gref ag athrawon - yr wyf bellach yn gweithio ochr yn ochr â llawer ohonynt! Heb y ddwy flynedd ychwanegol hynny o astudio, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Rhoddodd le diogel i arbrofi a gwthio fy hun, a oedd yn golygu pan wnes raddio fy mod yn barod iawn i ddod o hyd i waith. Ers hynny, rydw i wedi dechrau addysgu’r piano yn The King’s School yng Nghaerloyw ac rwy’n gweithio fel arweinydd côr a chyfeilydd ledled De Cymru.

I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?

Pawb! Gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau mor gul neu mor eang ag y dymunwch ar bwnc o’ch dewis, dyna wir fantais y cwrs. Mae Zoe yn fentor gwych ac yn gweithio gyda phob myfyriwr yn bersonol i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr amser gorau yn CBCDC.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill