
Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?
Ar ôl treulio peth amser allan o addysg roeddwn yn teimlo’n barod i wthio fy hun a fy chwarae. Ar ôl dilyn fy astudiaethau gradd mewn prifysgol, roedd mynd i gonservatoire ar gyfer gradd Meistr yn teimlo ychydig yn frawychus ond gwnaeth CBCDC i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m cefnogi drwy gydol y broses ymgeisio.
Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Roeddwn am i gymaint â phosibl o ddrysau fod yn agored i mi ar ôl graddio felly ceisiais gytuno i gymaint o bethau â phosib! Bu gennyf ddiddordeb mewn perfformio cerddoriaeth gyfoes ac arbrofol erioed, ac rwy’n mwynhau dod o hyd i ffyrdd o wthio fy hun yn greadigol fel feiolinydd. Yn fy mlwyddyn gyntaf dewisais yr opsiwn ‘Perfformio Cyfoes’ fel rhan o’m Prif Astudiaeth a pherfformiais Violin Phase gan Steve Reich gyda thraciau cefndir roeddwn i wedi’u recordio yn stiwdio’r coleg. Roedd y profiad hwn yn gyfle gwych i weithio mewn stiwdio recordio a pherfformio gyda thraciau wedi’u recordio ymlaen llaw, i gyd mewn amgylchedd cefnogol gydag arweiniad arbenigol.
A fu unrhyw adegau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?
Roeddwn yn arbennig o falch o fod wedi arwain yr ensemble ar gyfer cynhyrchiad Opera’r Haf o Die Fledermaus dan gyfarwyddyd Alice Farnham ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf yn CBCDC. Gan mai dyma fy nhro cyntaf mewn rôl blaenwr, roedd yn teimlo fel cam arwyddocaol i mi. Teimlais i mi gael cefnogaeth dda gan fy nghyfoedion a’r holl staff a gymerodd ran yn y prosiect, a drawsnewidiodd yr hyn a oedd yn teimlo’n frawychus ar y cychwyn i fod yn brofiad gwych a chofiadwy.
Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?
Roedd astudio yn CBCDC wedi rhoi’r amser a’r cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau fel offerynnwr a rhoddodd brofiad eang i mi mewn perfformio fel unawdydd ac mewn ensemble. Fe wnaeth y cwrs fy ngalluogi i greu cysylltiadau sydd wedi arwain at gyfleoedd gwaith proffesiynol ers graddio. Yn bwysicaf oll, rhoddodd fy nghyfnod yn CBCDC hwb sylweddol i’m hyder yn fy ngallu fel cerddor a gweithiwr proffesiynol, a’m grymuso i fod yn greadigol yn y mathau o waith rwy’n chwilio amdanynt.
I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?
Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n edrych am amgylchedd cefnogol i ddatblygu eu hymarfer a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Dysgwch fwy am astudio MMus Perfformio Cerddoriaeth a'r adran Llinynnau

MMus Perfformio Cerddoriaeth

Llinynnau

Simon Jones
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy