Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyrsiau Cerddoriaeth Ôl-raddedig yn y Coleg

Yn yr adran gerddoriaeth yma yn CBCDC, mae’r ffocws arnoch chi a’r cerddor yr hoffech fod. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn, artist cydweithredol ac fel cerddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas.

Darganfyddwch ein cyrsiau isod neu darllenwch bopeth am ein Graddedigion Cerddoriaeth MMus.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio yn CBCDC?

Parod ar gyfer y diwydiant
Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio mewn cydweithrediad agos â’r diwydiant ac mae iddynt ffocws cryf ar ddatblygiad proffesiynol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant. Gyda phwyslais ar ddysgu ymarferol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd, mae ein cyrsiau’n aml yn cynnwys cyfleoedd ochr yn ochr â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, cerddorfeydd a chwmnïau opera, yn ogystal â dosbarthiadau meistr a gweithdai

Cyfleusterau addysgu arbenigol
Mae gennym gyfleusterau addysgu arbenigol a phwrpasol ar gyfer y meysydd hyfforddiant penodol sydd eu hangen ar fyfyrwyr. Yn y Coleg, mae’r rhain yn cynnwys theatrau Richard Burton a Bute, stiwdios dawns a drama, ystafelloedd ymarfer a’n neuadd gyngerdd o’r radd flaenaf Neuadd Dora Stoutzker – yr unig neuadd ddatganiad siambr a adeiladwyd at y diben yng Nghymru.

Dosbarthiadau bach ac oriau cyswllt uwch nag mewn prifysgol
Mae meintiau bychan ein dosbarthiadau yn golygu y gellir rhoi sylw personol lle gall myfyrwyr fireinio eu crefft.
Rydym yn un o dri conservatoire yn y DU sy’n cynnig hyfforddiant mewn cerddoriaeth a drama gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar draws disgyblaethau.
Fel canolfan gelfyddydau weithredol, rydym hefyd yn cyflwyno dros 500 o berfformiadau’r flwyddyn, gan roi cyfle i fyfyrwyr berfformio, cynhyrchu a chymryd rhan mewn ystod eang o waith ar gyfer y cyhoedd.

Sgiliau perfformio gwell
Mae cerddorion yn CBCDC yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o bresenoldeb llwyfan, symud a chysylltiad â chynulleidfa trwy ryngweithio agos â myfyrwyr ac addysgu arbenigol ym maes drama. Boed hynny’n dysgu bod yn berchen ar y lle neu’n mynegi eich hun yn gorfforol, mae’r profiadau hyn yn meithrin hyder a sgiliau perfformio, gan eich helpu i dyfu fel cerddor integredig.

Persbectif artistig ehangach
Mae astudio mewn conservatoire a gweithio ochr yn ochr ag actorion a chyfarwyddwyr yn helpu cerddorion i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o adrodd straeon, cyflymder a strwythur dramatig. Mae’r rhain i gyd yn elfennau sy’n cyfoethogi dehongliad cerddorol, yn enwedig ym meysydd opera, theatr gerddorol, a pherfformio cyfoes.
Rydym yn annog prosiectau trawsddisgyblaethol, gan roi’r cyfle i chi gydweithio ag actorion ar gynyrchiadau, datganiadau a gweithiau dyfeisiedig. Mae’r profiadau hyn yn adlewyrchu lleoliadau proffesiynol yn y byd go iawn, gan eich helpu i feithrin sgiliau hollbwysig mewn gwaith tîm, hyblygrwydd a datrys problemau creadigol.

Gyrfa amrywiol
Mae cerddorion sy’n deall egwyddorion dramatig wedi’u harfogi’n dda ar gyfer rolau amrywiol, o berfformiadau unigol a cherddoriaeth siambr i waith pwll mewn theatr a chyfansoddiadau amlgyfrwng. Yn CBCDC, mae ein hyfforddiant integredig yn eich helpu i ehangu eich opsiynau gyrfa ac yn meithrin meddwl entrepreneuraidd.

Darganfyddwch ein cyrsiau...

Ein cyrsiau Llais Ôl-raddedig...

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

(Gofynnol)

(Gofynnol)

(Gofynnol)

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth: