Choro Choro Cymru yn cynnwys Maria Pia de Vito a Huw Warren
Bydd Huw Warren, y pianydd jazz o Gymru, yn dod â synau Rio i Gaerdydd gyda’i deyrnged i Choro – calon fywiog cerddoriaeth Brasil. Bydd artistiaid gwadd, y canwr jazz o fri Maria Pia de Vito a’r offerynnwr taro o Frasil Adriano Adewale, yn ymuno â Huw.