Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Amy Fletcher

MMus Perfformio Cerddorfaol (Llinynnau)

Blwyddyn graddio:

Beth wnaethoch chi cyn dechrau’r cwrs MMus?

Cyn astudio yn CBCDC, graddiais o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gyda gradd BMus (Anrh) mewn Perfformio Feiolin.

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Dewisais astudio’r cwrs MMus yn CBCDC oherwydd bod ei lwybr perfformio cerddorfaol yn addo cyfoeth o brofiadau cerddorfaol proffesiynol. Roedd y cwrs yn cynnig mentoriaeth gan arbenigwyr yn y maes, gan roi hyfforddiant gwerthfawr a mewnwelediad i’r diwydiant i mi.

Gydag arweiniad y tiwtoriaid hyn roeddwn yn gallu datblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach, gan ennill yr hyder a’r profiad oedd eu hangen ar gyfer gyrfa gerddorfaol lwyddiannus.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch nodau o ran gyrfa?

Mae’r arweinwyr cwrs yn CBCDC yn barod iawn eu cymorth ac yn hyblyg, gan ganiatáu i fyfyrwyr flaenoriaethu gigs a pherfformiadau cerddorfaol proffesiynol tra’n parhau i sicrhau digon o amser ar gyfer dysgu yn y Coleg. Yn ogystal, roedd chwarae mewn pedwarawd dan arweiniad myfyrwyr wedi fy helpu i fagu hyder a defnyddio fy ngwybodaeth fel aelod allweddol o dîm.

A gawsoch chi unrhyw leoliadau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?

Yn fuan iawn ar ôl dechrau’r cwrs cefais fy lleoliadau cyntaf gyda cherddorfeydd BBC NOW a WNO. Roedd y rhain yn brofiadau gwych a ddysgodd gymaint i mi am sut beth yw gweithio mewn cerddorfa broffesiynol.

Yn dilyn fy lleoliad cyntaf gyda BBC NOW cefais wahoddiad i aros ymlaen a pherfformio yn y cyngherddau dilynol fel chwaraewr ychwanegol llawrydd. O hynny ymlaen dechreuais weithio’n llawrydd yn rheolaidd gyda’r gerddorfa, a doedd hi ddim yn hir nes fy mod hefyd yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfa’r WNO.

Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?

Ar ôl gorffen y cwrs yn CBCDC, roeddwn i’n teimlo fy mod wedi fy mharatoi’n dda i fynd i’r byd proffesiynol fel feiolinydd llawrydd. Erbyn i mi raddio, roedd gen i amserlen lawrydd oedd bron yn llawn ac yn teimlo’n hyderus yn fy ngalluoedd diolch i’r profiad gwerthfawr a gefais ar y cwrs.

Fe wnaeth yr hyfforddiant nid yn unig wella fy sgiliau cerddorol ond gwnaeth hefyd fy nysgu sut i reoli fy amser yn effeithiol gydag amserlen brysur. Mae’r sgil hon wedi bod yn hanfodol er mwyn cynnal gyrfa lawrydd llawn amser gyda cherddorfeydd sy’n cynnwys BBC NOW, WNO a CBSO. Rwy’n hynod ddiolchgar i staff CBCDC am eu cefnogaeth a’u harweiniad, a gyfrannodd yn uniongyrchol at fy nghyflawniadau yn y diwydiant cerddoriaeth.

I bwy fyddech chi’n argymell y cwrs hwn?

Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd ag angerdd am chwarae cerddorfaol a breuddwyd o ddod yn gerddor cerddorfaol proffesiynol. Mae gan y Coleg gymaint i’w gynnig gan gynnwys amgylchedd dysgu hyblyg a hamddenol, lleoliad campws hardd, ac athrawon offerynnol o’r radd flaenaf, y daw llawer ohonynt o gerddorfeydd BBC NOW a WNO.

Roedd staff CBCDC yn hynod gefnogol a hyblyg, gan fy arwain a chaniatáu i mi symud ymlaen yn uniongyrchol i’r diwydiant proffesiynol.



Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill