Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Andrew Nesler

MMus Perfformio Cerddoriaeth (Piano)

Blwyddyn graddio: 2024

Gweld eu gwaith:

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn dechrau ar y cwrs MMus?

Roeddwn yn addysgu cerddoriaeth yn breifat ac yn yr ystafell ddosbarth, perfformio’n helaeth fel unawdydd ac ar y cyd ag eraill, a gweithio fel pianydd i gwmni bale a sefydliad celfyddydau’r llais.

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?

Yn anad dim des i yma i astudio gyda fy athro, Mei Yi Foo. Roedd hyblygrwydd y cwricwlwm hefyd yn fy nghyffroi, a oedd yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar addysgeg, yn ogystal â diwylliant cefnogol a chreadigol y Coleg. Roedd ei leoliad yng Nghaerdydd, sef ddinas werdd ganolig ei maint, yn fonws ychwanegol.

Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch dyheadau o ran gyrfa?

Defnyddiais fy ymchwil mewn addysgeg a phrofiad personol ym mhob un o’m haseiniadau ysgrifenedig, yn enwedig yn y modiwl 60 credyd Addysgu Celfyddyd. Hefyd, manteisiais ar bob cyfle i berfformio, cyfeilio, addysgu, rhwydweithio a datblygu sgiliau proffesiynol y byddaf yn eu defnyddio trwy gydol fy ngyrfa.

A gawsoch chi unrhyw gyflawniadau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?

Cefais y fraint o ennill y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth John Ireland, a des i hefyd yn Gyfarwyddwr Cerdd cwmni opera. Perfformiais dros 60 o weithiau o fewn a thu allan i’r Coleg, mewn lleoliadau megis Neuadd Dora Stoutzker, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Eglwys Gadeiriol Casnewydd a Phafiliwn Pier Penarth. Cefais y fraint o gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda phianyddion enwog fel Jayson Gillham, Louis Lortie, Steven Osborne a Llŷr Williams, ac rydw i wedi mwynhau’n fawr gweld fy natblygiad personol a phroffesiynol ar hyd y ffordd.

Disgrifiwch y cwrs hwn mewn 3 gair:

Dwys, hyblyg, trawsnewidiol.

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Proffiliau myfyrwyr eraill