
Shiyu Zheng
Blwyddyn graddio: 2024

Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs MMus yn CBCDC?
Cefais fy nenu at CBCDC oherwydd ei amgylchedd cydweithredol a’r cyfuniad unigryw o ddrama a cherddoriaeth, sy’n darparu llwyfan cyfoethog ar gyfer twf artistig.
Sut wnaethoch chi deilwra’ch profiad i gyd-fynd orau â’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Rwy’n credu bod pob eiliad, pob cyfarfyddiad a phob profiad yn siapio fy mhroses greadigol. Manteisiais ar bob cyfle gan gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr, cystadlaethau, a chydweithio ag ystod amrywiol o gerddorion.
A fu unrhyw adegau nodedig yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?
Fe wnes berfformio fel unawdydd a phianydd cydweithredol ledled Caerdydd, gan gynnwys yn Neuadd Dewi Sant, Eglwys Gadeiriol Llandaf a Phier Penarth. Cefais gyfle i ymddangos gyda Cherddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â chydweithio ag amrywiaeth o unigolion ac ensembles siambr.
Roedd derbyn y Wobr Gyntaf yng Ngwobr Cyfeilio Bryan yn 2023 yn uchafbwynt, ochr yn ochr â chymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad pianyddion o fri megis Ingrid Fliter, Lise de la Salle a Llŷr Williams.
Sut wnaeth y cwrs eich helpu yn eich llwybr gyrfa ar ôl graddio?
Nid dim ond gwella fy sgiliau fel pianydd wnaeth y cwrs, cyfrannodd hefyd at fy natblygiad fel cerddor cyflawn, gan roi profiadau a haenau amhrisiadwy i fy siwrnai artistig.
Beth oedd eich hoff ran o’r cwrs?
Mwynheais yn arbennig y rhyddid i deilwra’r cydbwysedd o ran modiwlau a’r ystod eang o gyfleoedd oedd ar gael i gymryd rhan mewn rhaglenni eraill. Caniataodd hyn i mi archwilio amrywiaeth eang o lwybrau.
Darganfod mwy am astudio MMus Music Performance

MMus Perfformio Cerddoriaeth

Piano

CBCDC: Conservatoire Steinway yn Unig Cyntaf y Byd
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy