Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sbarduno’r dychymyg: yr artist preswyl Errollyn Wallen yn dychwelyd i CBCDC

Y tymor diwethaf gwnaethom groesawu Errollyn Wallen, Artist Preswyl ac un o’n Cymrodyr Er Anrhydedd mwyaf newydd, yn ôl i’r Coleg.

Cynhaliodd y Coleg y perfformiad cyntaf yng Nghymru o’i opera newydd, The Paradis Files, gan arwain ymlaen at gam nesaf y cyfnod preswyl, gwaith newydd sy’n dathlu pen-blwydd y Coleg yn 75 oed, ar gyfer 2024.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle y delfrydol i ymchwilio sut beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.

Mae’n brofiad cwbl ysbrydoledig i fod yn rhan o hynny ac mae eisoes yn cyfoethogi fy mywyd mewn ffyrdd gwych.’  
Errollyn Wallen

Bu Errollyn yn gweithio gyda myfyrwyr, gan roi dosbarth meistr ar ei opera newydd, a threuliodd amser gyda myfyrwyr cyfansoddi a oedd yn cyflwyno Awyrgylch ‘22, arddangosfa o’u gwaith diweddaraf.

‘Mae gan CBCDC ei stamp unigryw ei hun, ac rydych yn teimlo hynny cyn gynted ag y byddwch yn camu i mewn i’r adeilad.

Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, a chredaf fod hynny oherwydd ymrwymiad gwirioneddol staff a myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch o gefnogaeth aruthrol.

Gallwch weld sut y byddai’r myfyrwyr yn mynd â hynny i’w bywydau proffesiynol.'
Errollyn Wallen

'Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’

Rydym yn edrych ymlaen at weld Errollyn yn dychwelyd i Gymru yn fuan iawn, ac at weithio gyda hi ar ei chyfansoddiad newydd:

‘Rydw i wedi bod wrth fy modd yn cael y cyfleoedd i gyfarfod a gweithio gyda’r staff a’r myfyrwyr, ac i weld yr ystod anhygoel o dalent sydd yma.

Mae’n bwysig i mi rannu fy mhrofiad o’r prosiectau rwy’n gweithio arnynt – sy’n rhan o ethos y Coleg, ochr yn ochr â’u staff addysgu sydd allan yna yn ymarfer eu crefft yn ogystal â throsglwyddo eu sgiliau.’
Errollyn Wallen

Fel rhan o’i chyfnod preswyl mae Errollyn yn bwriadu dod i’r Coleg bob tymor, gan weithio gyda myfyrwyr ar draws yr adrannau cerddoriaeth i ddatblygu ei gwaith newydd ac ymgysylltu â’r gymuned leol.

Errollyn Wallen yn gwrando ar rihyrsal o Chrome
‘Mae gweld perfformiadau’r myfyrwyr wedi sbarduno fy nychymyg, gan wneud i mi feddwl am yr amrywiaeth o ffyrdd y gallaf gydweithio â nhw.

Mae bod yn rhan o gonservatoire mor wych yn anrhydedd ac rydw i wrth fy modd i fod yn Artist Preswyl Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.'
Errollyn Wallen

Fe wnaeth The Paradis Files Errollyn Wallen, gan gwmni theatr blaenllaw’r DU a arweinir gan bobl anabl: Cynhyrchiad Cwmni Theatr Graeae mewn partneriaeth â Cherddorfa Gyngerdd y BBC a Curve Theatre, agor Gŵyl Awyrgylch eleni.

Mae’r prif lun yn dangos Errollyn gyda Llywydd newydd UM a myfyriwr cyfansoddi Natalie Roe, a’r myfyriwr cyfansoddi Oliver Trigg.

Storïau eraill