
Matthew Rhys yn dychwelyd i CBCDC ac yn rhannu ei brofiad o actio ar y llwyfan a’r sgrin gyda’n hactorion

O Chwarae Burton i weithio gyda Chwmni Richard Burton
Er iddo ennill Emmy am chwarae Rwsiad yn chwarae Americanwr yn ‘The Americans’, mae Matthew Rhys yn Gymro balch. Mae newydd gael ei enwebu am Wobr Golden Globe am chwarae rhan Americanwr arall, Niles Jarvis yn ‘The Beast in me’ ar Netflix.
Yn Athro Cadair Rhyngwladol Drama yn y Coleg, mae Matthew wedi bod yn ôl yn y DU yn teithio theatrau gan ddod â’r actor o fri, Richard Burton, yn fyw fel rhan o’r dathliadau canmlwyddiant.
Treuliodd amser yn gweithio gyda’n myfyrwyr sydd, pan fyddant yn eu blwyddyn olaf, yn rhan o Gwmni Richard Burton – gan drosglwyddo ei brofiad amhrisiadwy, o raddio a gweithio yn y theatr, i symud i’r Unol Daleithiau, gweithio ym myd teledu a ffilm, ac ennill Emmy …
Drosodd atat ti, Matthew.
Gwnewch y gwaith paratoi – Dilynwch Syr Anthony Hopkins a dysgu eich llinellau
Cadwch araith Shakespeare ac araith gyfoes yn barod bob amser - dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd cyfarwyddwr yn gofyn amdani.
Ewch drwy’ch llinellau tra’n gwneud pethau eraill er mwyn ymarfer canolbwyntio, fel y gallwch barhau i gyflwyno’r testun yn gywir er gwaethaf pethau a allai dynnu eich sylw - ffonau symudol yn y theatr, rheolwyr llwyfan yn eich chwistrellu â gwaed - beth bynnag fo hynny.
Dechreuais fy ngyrfa ar y llwyfan, a helpodd hyn fi’n fawr i baratoi ar gyfer paneli clyweliad, oherwydd gwnaeth feithrin fy hyder mewn perfformio o flaen cynulleidfa fyw.
Pan symudais i waith ffilm a theledu, roeddwn yn gwybod bod gen i’r cryfder theatr hwnnw a, chyn belled fy mod wedi dysgu fy llinellau’n drylwyr, gallwn ddefnyddio’r profiad i ddarganfod beth fyddai’n gweithio.
Fel y dywed Anthony Hopkins (actor gwych arall o Gymru, ac Is-lywydd y Coleg), bydd gwybod y sgript yn gwbl drylwyr yn eich gwneud yn gadarn, ac yn rhoi’r rhyddid i chi fod yn greadigol gyda’ch partner actio, neu’r cyfarwyddwr.
Beth ddylai actor ifanc ei gyfrannu i’w swydd gyntaf? Cofiwch eich hyfforddiant
Nid disgyblaeth y cof yn unig sy’n bwysig, ond popeth a wnewch fel actor. Ac mae’n fyd bach, felly mae enw da yn cyfrif.
Cofiwch bob amser, ‘os ydych chi’n brydlon, rydych chi’n hwyr’. Mae cyfarwyddwyr yn hoffi gweithio gyda graddedigion actio oherwydd eu bod wastad ar amser, maen nhw bob amser yn canolbwyntio, a gallant gymryd cyfarwyddyd tra’n dal i fod yn greadigol.
Dylech hefyd bob amser fod â moesau da o ran gweddill y cast a’r criw - a ddylai fod yn rhywbeth greddfol, ond caiff ei werthfawrogi’n fawr.
Byddwch mor ddilys â phosibl: dewch o hyd i’r cymeriad, a chi’ch hun
Wrth i chi ddatblygu yn eich hyfforddiant a’ch gyrfa, mae’n bwysig eich bod yn dysgu gan eich camgymeriadau.
Gall rhai cymeriadau fod yn anoddach mynd dan eu croen nag eraill, ond dyma lle dylech ddefnyddio’r blwch offer helaeth y mae’r hyfforddiant drama hwn wedi’i roi i chi, gwneud y gwaith caib a rhaw a bod mor ddilys â phosibl.
Dyna’r safon aur. Gwnewch i’r stori fod yn berthnasol i chi, bod yn fwy personol i chi, yna bydd yn llwyddo ac yn ddilys.Matthew Rhys
Datblygwch wydnwch creadigol, dysgwch gan eich camgymeriadau, a byddwch yn adroddwr straeon
Mae bod yn storïwr yn draddodiad Cymreig, ac mae ffocws gwirioneddol ar ddod o hyd i’ch llais creadigol yma yn CBCDC, gyda’ch gwaith a hunan-arweinir a’r ŵyl ysgrifennu NEWYDD. Mae hyn yn helpu i feithrin eich hyder i siarad â’r cyfarwyddwr am ddewisiadau creadigol, er enghraifft, os nad ydych chi’n teimlo bod rhywbeth yn gweithio.
Hyd yn oed pan nad ydych chi’n gweithio (yn enwedig pan nad ydych chi’n gweithio), manteisiwch ar y cyfle i ddatblygu eich crefft. Defnyddiwch eich amser segur i gadw ar ben eich actio; gwnewch ddarlleniadau gyda’ch gilydd, crëwch eich gwaith eich hun a gallwch chwarae’r rhannau na fyddech chi fel arfer yn eu chwarae, a chadw ar ben eich gwaith llais.
Neu rhowch gynnig ar sgiliau newydd - jyglo, marchogaeth. Mae’n wych i’ch iechyd meddwl, sydd mor bwysig, ond byddwch hefyd yn barod am unrhyw beth - dydych chi byth yn gwybod pryd y gallai fod angen reidiwr ceffyl sy’n gallu jyglo ar gyfarwyddwr!
Mae dysgu gwydnwch yn eich helpu i aros yn driw i’ch dewisiadau ac yn eich helpu i ddod o hyd i’ch llais creadigol eich hun - a gallwch fwydo’ch ideoleg eich hun i’ch gwaith.
Diolch yn fawr, Matthew. Os na lwyddoch i’w weld yn portreadu Richard Burton, mae i’w weld ar ein sgriniau ar hyn o bryd yn The Beast in Me ar Netflix.







