
Er cof am yr Pamela Howard OBE

Gyda thristwch mawr y clywsom heddiw am farwolaeth ein cyfaill, yr artist a’r cynllunydd theatr Pamela Howard.
Fel cefnogwr i’r Coleg ers tro byd ac Athro Cadair Rhyngwladol mewn Cynllunio, ysbrydolodd Pamela genedlaethau o fyfyrwyr a staff. Gwnaeth ei haelioni, ei gweledigaeth, ei brwdfrydedd di-ben-draw a’i hymrwymiad i senograffi ac addysg cynllunio helpu i siapio nid yn unig ein gwaith ni yn CBCDC, ond hefyd y gymuned fyd-eang o gynllunwyr theatr ac addysgwyr.
‘Mae’n bosibl mai Pamela oedd yr addysgwr cynllunio mwyaf dylanwadol yn y wlad. Ers i mi ei chyfarfod am y tro cyntaf yng Ngwobr Linbury ym 1999, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth sylweddol i fyfyrwyr a staff.
‘Mae llwyddiant ei gwaith gyda’n myfyrwyr wedi bod yn amlwg yn ein llwyddiant rhyfeddol ni yng Ngwobr Linbury ar gyfer Cynllunio Llwyfan. Byddwn yn gweld eisiau ei chynhesrwydd, ei gofal, ei thalent a’i phersonoliaeth unigryw a lliwgar yn CBCDC, ac yn y gymuned ryngwladol ehangach o senograffwyr ac addysgwyr cynllunio.
Bydd ei dylanwad yn parhau i gael ei deimlo trwy’r nifer o artistiaid, athrawon a myfyrwyr, a’r gymuned ryngwladol ehangach o senograffwyr ac addysgwyr cynllunio, y cyffyrddodd hi â’u bywydau trwy gydol ei gyrfa ryfeddol.’Sean CrowleyCyfarwyddwr Cynllunio
Prosiect mwyaf diweddar Pamela gyda’r Coleg oedd ‘Croeso i Gymru’, un a oedd yn dathlu straeon mewnfudwyr sydd wedi teithio i Gaerdydd ac oddi yno, ac a helpodd eraill i adrodd eu straeon eu hunain mewn ffordd mor gadarnhaol a chreadigol â phosibl. Disgrifiodd Pamela y prosiect fel ‘prosiect fy mywyd: mae’r byd yn fwy na dim ond y man lle rydych chi’n sefyll. Mae’n ymwneud â phob un ohonom. Trwy gydol hanes, celfyddyd yw’r grym mawr sy’n creu cymdeithas wâr.’
Disgrifiwyd Pamela unwaith fel ‘arwr’ gan y Prague Quadrennial, y dathliad mwyaf nodedig o gynllunio theatr a senograffi, ac mae wedi gweithio fel cynllunydd i’r National Theatre, yr RSC, a’r Old Vic, ymhlith llawer mwy.
Efallai yn bwysicaf oll i ni yng Nghymru, hi helpodd i greu’r Dalek cyntaf, ond yn ystod gyrfa a rychwantodd saith degawd, creodd Pamela Howard hefyd nifer di-rif o gynyrchiadau, yn ogystal â hyfforddi rhai o gynllunwyr llwyfan gorau’r DU.
Cynhaliodd CBCDC arddangosfa yn edrych yn ôl ar waith Pamela, o’r enw ‘The Art of Making Theatre’, yn 2022.
Mae ein meddyliau gyda’i theulu, ei ffrindiau, ei chydweithwyr a phawb ledled y byd a gafodd y fraint o’i hadnabod a gweithio gyda hi.









