
‘Llais wedi’i drwytho â glo Cymru:’ Dathlu canmlwyddiant yr arwr o actor, Richard Burton

Llais wedi’i drwytho â glo Cymru
Yn 2025 mae Cymru, a’r byd, yn dathlu canmlwyddiant geni Richard Burton, yr actor theatr a seren Hollywood a aned yng Nghymru, sy’n adnabyddus am ei bresenoldeb pwerus a’i lais graeanog nodedig, a honnodd oedd wedi’i drwytho â glo Cymru.
Mab i löwr o Gymru, arwr Shakespeare, seren Hollywood
‘Fel seithfed mab i löwr o Gymru, roeddwn i’n gwbl gyfarwydd â chaledi,’ meddai. Yn un o dri ar ddeg o blant, ganwyd ef ym Mhort Talbot fel Richard Jenkins. Enillodd ysgoloriaeth i Rydychen, newidiodd ei enw i Richard Burton, ac mae’r gweddill yn hanes ym myd y theatr a’r sinema.
Wedi’i ddisgrifio fel actor pwerus ac amryddawn, roedd yn berfformiwr Shakespeare aruthrol, gan roi perfformiad cofiadwy o ‘Hamlet’ a daeth ei dalent i’r amlwg mewn ystod eang o rolau, o gymeriadau deallusol a chymhleth i brif actorion rhamantus. Cafodd ei alw’n olynydd naturiol i Laurence Olivier, a ystyrid yn un o’r actorion gorau erioed. Ond yna fe’i denwyd gan Hollywood - ac Elizabeth Taylor – a sylw gwyllt yn y cyfryngau.
Yn y 1960au daeth yn seren enfawr ac erbyn diwedd y degawd roedd yn un o’r actorion â’r cyflog uchaf yn y byd, gan briodi’r actores Brydeinig-Americanaidd Elizabeth Taylor nid unwaith ond dwywaith, a dod yn ‘gwpl enwog’ cyntaf y cyfryngau. Cafodd eu perthynas gychwynnol ar set ‘Cleopatra’ ei chondemnio gan y Pab ei hun fel ‘crwydreiaeth erotig’.
Yr actor gorau i ddod o Gymru
Mae ei ffilmiau mwyaf canmoladwy yn cynnwys ‘Who’s Afraid of Virginia Woof?’, yr enillodd wobr Actor Gorau BAFTA amdani, ochr yn ochr â’i wraig ar y pryd, Elizabeth Taylor, a enillodd yr Actores Orau. Y flwyddyn ganlynol enillodd wobr Actor Gorau BAFTA am ‘The Spy who came in from the cold.’
Cafodd ei enwebu am saith Gwobr Academi, Golden Globe am y Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol am ‘My Cousin Rachel’, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ‘Equus’, a Gwobr Tony am ei berfformiad yn ‘Camelot’.
Caiff Richard Burton ei ystyried yn eang fel yr actor gorau i ddod allan o Gymru, ac un o actorion gorau ei genhedlaeth, a thu hwnt.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 2013, ar ôl ymgyrch a arweiniwyd gan Gymru, derbyniodd ei seren Hollywood, ar y Walk of Fame, wrth ymyl seren Liz Taylor.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Richard Burton is widely regarded as the greatest actor to come out of Wales, and one of the best actors of his generation, and beyond.
On St David’s Day 2013, after a campaign led by Wales, he finally received his Hollywood star, on the Walk of Fame, next to the star for Liz Taylor.
Enwi’r Burton - Dod â Burton yn ôl i Gymru
Pan agorodd y Coleg ei adeiladau newydd gwerth £22.5 miliwn yn 2011, cymeradwyodd a chefnogodd teulu Burton enwi ein theatr newydd, a’r cwmni theatr mewnol a fyddai’n perfformio yno, er anrhydedd iddo.
Dadorchuddiodd ei ferch, Kate Burton, yr actores wobrwyedig a chyfaill i’r Coleg, ei benddelw yn y seremoni agoriadol:
‘Rwy’n credu y byddai’n teimlo’n hapus iawn y bydd cymaint o bobl ifanc sydd eisiau bod yn actorion yn mynd trwy theatr sydd wedi’i henwi ar ei ôl.’Kate BurtonActores a Merch yr actor Richard Burton
Cafodd y cerflun efydd o’r actor o Gymro, sydd bellach yn eistedd wrth fynedfa’r theatr sy’n dwyn ei enw, ei roi i’r Coleg fel rhodd gan y Fonesig Elizabeth Taylor.
Cyflwynodd yr arwres Hollywood y penddelw i’n Noddwr ar y pryd, ac sydd bellach yn Llywydd, cyn EUB Tywysog Cymru mewn Gala’r Coleg a gynhaliwyd ym Mhalas Buckingham y flwyddyn flaenorol.
Rhoddodd y diweddar actor a chyfaill Burton, Robert Hardy, a chwaraeodd Laertes yng nghynhyrchiad enwog Burton o ‘Hamlet’ (a Cornelius Fudge yn y gyfres Harry Potter), anerchiad yn y digwyddiad agoriadol, gan ddweud:
‘Mewn un ffordd mae’n mynd yn ôl i Gymru, man lle na adawodd erioed mewn gwirionedd, pa bynnag lefydd y teithiodd iddynt, i theatr ar gyfer y myfyrwyr hyn, a fydd yn dwyn ei enw, ac rwy’n dychmygu y bydd ei ysbryd yn preswylio ynddi.’Robert Hardy
Dathlu canmlwyddiant Richard Burton
Mae’r Coleg yn cynnal arddangosfa barhaol o lythyrau, ffotograffau, dogfennau ac eitemau eraill cofiadwy nas gwelwyd o’r blaen, a roddwyd i ni gan y teulu, ac sy’n taflu goleuni newydd ar yr actor o fri.
Fel rhan o ddathliadau Richard Burton 100 y Coleg, cynhaliwyd dangosiad o’r ffilm yn Theatr Richard Burton, ac yna sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Marc Evans, y cynhyrchydd Ed Talfan, a’r cyfansoddwr a Phennaeth Cyfansoddi John Hardy.
Ac fel teyrnged, roedd cynhyrchiad Cwmni Richard Burton y tymor hwn yn cynnwys fersiwn o ‘Hamlet’, un o brif ddramâu Shakespeare a gysylltir â Burton.
Cwmni Richard Burton - yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o actorion
Yn un o gwmnïau theatr sefydlog mwyaf toreithiog Cymru, mae Cwmni Richard Burton yn ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw.
Fel cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae’n dwyn ynghyd actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg.
Gan lwyfannu cynyrchiadau i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Llundain, mae’n grymuso ein myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.
Actorion arloesol sydd â lleisiau unigol
Mae cwrs drama’r Coleg wedi canolbwyntio erioed ar hyfforddi actorion sydd â lleisiau unigol cryf. Mae’n arddangos actorion sydd, fel Burton, ar flaen y gad yn y celfyddydau, yn chwyldroadol, ac yn arloesol, mewn rolau heriol ac sy’n procio’r meddwl.
Roedd Shaking up Shakespeare yn The Globe yr haf hwn yn fersiwn newydd bryfoclyd o ‘Troilus and Cressida,’ sy’n archwilio cwlt enwogrwydd a’r egos sy’n rhoi tanwydd i ryfeloedd, gan uno’r graddedig diweddar Kasper Hilton-Hille, a gafodd ei enwebu am wobr Stage Debut ar gyfer ‘That Face’ gan Polly Stenham, gyda’i gyd-raddedig Charlotte O’Leary i chwarae rhan y cariadon trychinebus, gyda Tadeo Martinez fel Patroclus, a’r gwaith cyfarwyddo ymladd gan y graddedig a’r tiwtor ymladd, Kevin McCurdy.
Gan ennill gwobr Stage Debut am ei ‘pherfformiad dewr a dwys’ fel y rôl deitl ‘I, Joan’ yn The Globe, mae Isobel Thom, a gafodd y rôl yn syth ar ôl graddio, yn rhoi llais i stori o hynodrwydd a gwrthryfel yn y ddrama arloesol a heriol hon.
Gan gwblhau cylch cyfan stori actio CBCDC, cyflwynwyd ei gwobr iddi gan un o’i chyd-raddedigion actio Callum Scott Howells, a wnaeth ei ymddangosiad gwobrwyedig cyntaf ar y teledu gyda’r ddrama gyfres ddadleuol a phryfoclyd am AIDS, ‘It’s a Sin’ ar Channel 4, y gwnaeth ei ffilmio tra’n dal yn y Coleg.
Yna dychwelodd i’r Coleg i ymuno â Chwmni Richard Burton a chwblhau ei hyfforddiant fel actor. Gan ennill gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol a BAFTA Cymru am yr Actor Gorau am ei bortread o Welsh Colin, aeth yna ati i swyno cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd yn y West End yn chwarae rhan yr Emcee yn y ‘Cabaret’ (a gynlluniwyd gan ei gyd-raddedig a Chymrawd CBCDC Tom Scutt).
Meddai Callum am ei hyfforddiant yn y Coleg:
‘Wrth siarad ag actorion eraill am hyn, maen nhw wedi dweud eu bod, cyn iddyn nhw hyfforddi, yn teimlo fel eich bod chi ‘dim ond yn gwneud siapiau’, nad oedd yna unrhyw sylwedd na gwir gysylltiad â’r hyn yr oeddech chi’n ei wneud - bron fel pe bai’n ddynwarediad.
Mae hyfforddiant yn rhoi’r dyfnder hwnnw i chi, a’r cyfle i ddarganfod eich hun fel actor, gan gysylltu â’r emosiwn rydych chi’n ceisio’i gyfleu.
Dewisais CBCDC oherwydd mai dyma’r ysgol orau! Roedd y Coleg yn gwneud pethau roeddwn i eisiau eu gwneud ac roedd ganddo raddedigion gwych fel Anthony Boyle.’Callum Scott Howells
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd yn ymuno â’i gyd-raddedig actio o Gymru, Annes Elwy, ar gyfer ffilm gyffro wedi’i lleoli yng Nghymru ar gyfer Channel 4, ‘Deadpoint’.
Yn siaradwr Cymraeg fel Callum, mae Annes wedi ymddangos mewn llawer o ddramâu Cymraeg gan gynnwys cyfres o ‘Hidden/Craith’ yn ogystal â llawer o rolau ffilm, teledu a theatr eraill.
Mae hi newydd fod yn perfformio yn yr opera Gymraeg newydd, ‘Tanau’r Lloer’/ ‘Fires of the Moon’, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin.
Wedi’i disgrifio fel archwiliad sy’n plygu genres o alar, cof a salwch meddwl a grym creu, mae’n dod â llu o ddoniau o Gymru ac o’r Coleg ynghyd, gan gynnwys y graddedig theatr gerddorol Levi Tyrell Johnson a’r graddedigion opera y soprano Elin Pritchard, y bariton Emyr Wyn Jones a’r tenor Huw Ynyr.
Mae wedi’i hamserlennu i’w dangos ar S4C a Channel 4 yn ystod 2026.
Yn ogystal â’i gwaith gyda National Theatre Wales, mae Alexandria Riley i’w gweld yn gyson ar y teledu mewn dramâu sy’n dod â llu o raddedigion ynghyd, nid yn unig yng nghyfres ddwyieithog S4C ‘Bang,’ gyda Jacob Ifan, Alexander Vlahos, Tim Preston, Catrin Stewart, Suzanne Packer - i enwi dim ond rhai - ond yn ‘The Pembrokeshire Murders’ ITV, y cafodd ei henwebu am BAFTA Cymru amdani.
Yn ‘The Pact’ y BBC, perfformiodd ochr yn ochr â Rakie Ayola, Heledd Gwynn, Aneurin Barnard a Ben McGregor, y bu’n serennu ag ef yn y ddrama gomedi ‘The Tuckers’, ochr yn ochr â Kimberley Nixon, a gafodd ei henwebu hefyd am wobr BAFTA Cymru.
Yn fwy diweddar mae hi wedi ymddangos yn ‘Men Up’, ‘Baby Reindeer’ a ‘Death Valley’ y BBC.
Life-changing training
Mae Lola Petticrew a raddiodd yn 2017, yn serennu yn ‘Trespass’ a fydd i’w gweld yn fuan ar Channel 4, ochr yn ochr ag un o gyn-fyfyrwyr CBCDC Tom Cullen. Yn ddiweddar, enillodd Lola wobr nodedig IFTA (Gwobr Ffilm a Theledu Iwerddon) ochr yn ochr â’i ffrind hirdymor ac un o’i chyd-raddedigion Anthony Boyle, sydd, pan nad yw’n ysbrydoli’r Callum Scott Howells ifanc, i’w weld yn serennu gyda James Norton fel un o deulu ‘House of Guinness’ ar Netflix.
Ar ôl ennill enwebiad am wobrau Olivier a Tony am ei rôl fel Scorpius Malfoy yn ‘Harry Potter and the Cursed Child’ yn syth ar ôl graddio, mae wedi gweithio gyda Tom Hanks a Stephen Spielberg, ac roedd yn un o brif actorion y gyfres ‘Shardlake’ ar Disney+ ochr yn ochr â’i gyd-raddedig Arthur Hughes a oedd yn chwarae’r rôl deitl.
Meddai Anthony Boyle am ei hyfforddiant, pan oedd yn ymddangos yn Harry Potter.
‘Newidiodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy mywyd. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb yr hyfforddiant a roddodd i mi.
Fe wnaeth ganiatáu i mi fynd i’r diwydiant proffesiynol gyda’r hyder oedd ei angen arnaf.’Anthony Boyle
Ar y sgrin fawr, fe fydd hi’n anodd methu Tom Rhys-Harries y flwyddyn nesaf, wrth iddo serennu yn y rôl deitl yn ‘Clayface’.
Gwnaeth Tom ei ymddangosiad cyntaf yn y West End yn ‘Mojo’ gan Jez Butterworths gyda Ben Wishaw a Daniel Mays, ac yn fwy diweddar roedd yn ‘The Seagull’ yn y National Theatre gydag Emilia Clarke ac Indira Varma, ac mae wedi bod mewn ffilmiau megis ‘The Return’ gyda Ralph Fiennes a Juliette Binoche, ‘The Gentleman’ Guy Ritchie a ‘Suspicion’ ar Apple TV gydag Uma Thurman.
Allow Instagram content?
Lorem ipsum doler sit amet Instagram seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Mae ei rôl newydd wedi cael ei gweld fel llwyddiant castio: ‘Cawsom ein syfrdanu gan y gŵr hwn,’ meddai Cyfarwyddwr Batman, Matt Reeves, a chyd-greawdwr DC Universe, James Gunn. Gallwch weld drosoch eich hun pan fydd yn cyrraedd y sinemâu yn 2026.
Ac wrth gwrs, mae Lewis Cope yn dod â sglein i’n sgriniau bob wythnos ar Strictly, wrth iddo arddangos creadigrwydd llawn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan ddawnsio’n ysgafn droed tuag at y belen ddisglair Nadoligaidd, gyda’i berfformiadau sy’n gwthio ffiniau ac yn mynd yn fwyfwy ysbrydoledig.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Mae’r BBC yn cynnal tymor Burton ym mis Tachwedd, gan arddangos ‘Wild Genius’, rhaglen ddogfen newydd am fywyd a blynyddoedd Burton yng Nghymru.
Byddant hefyd yn dangos y ffilm, ‘Mr Burton’, sy’n cynnwys cerddoriaeth gan ein Pennaeth Cyfansoddi, John Hardy, nai yr actor Robert. Mae’r ffilm yn dilyn bywyd ifanc Burton, o fab i löwr, Richard Jenkins, i’r perfformiad ‘Henri VI’ a’i gwnaeth yn seren fel Richard Burton yn y Royal Shakespeare Company.







