Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dathlu Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yng Ngwlad y Gân

Daeth cantorion talentog o bob rhan o’r DU i’r Coleg i gymryd rhan yng Ngwobr y Gân Syr Bryn Terfel. Arweiniodd preswyliad o ddosbarthiadau meistr a gweithdai at y rownd derfynol fawreddog, gan ddathlu pŵer adrodd straeon a diwylliant trwy gân.

Hyrwyddo creadigrwydd a chefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg

Ymunodd y fyfyrwraig Llais sydd yn ei blwyddyn olaf, Charlotte Crane, ag wyth o ymgeiswyr terfynol eraill a oedd yn cynrychioli holl brif ysgolion cerdd y DU a threulio amser gyda chymuned ein Coleg, gan ddysgu a rhannu gydag arbenigwyr a’n myfyrwyr, fel rhan o Wobr y Gân Syr Bryn Terfel gyntaf erioed.

Wedi’i chynnal o flaen rheithgor rhyngwladol o arbenigwyr ym maes opera a llais – dan gadeiryddiaeth Syr Bryn ei hun – roedd yn gystadleuaeth oedd nid yn unig yn beirniadu talent lleisiol, ond celfyddyd, cyfathrebu ac adrodd straeon.

‘Roedd gweithio gyda Bryn yn brofiad anhygoel. Fe helpodd fi i drawsnewid y gân Gymraeg roeddwn i wedi bod yn gweithio arni mewn deg munud. Helpodd fi i feddwl yn wahanol, mireinio pethau a chysylltu’n wirioneddol ag ystyr.

Ac er ei fod yn enw enfawr, mae mor wylaidd, fe wnaeth i ni deimlo’n hollol gartrefol - ac roedd yn rhan fawr o’r Coleg tra roedd yma.
Charlottte CraneMyfyriwr Llais CBCDC a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel

Cefnogaeth, hyfforddiant ac angerdd: Preswyliad trawsnewidiol

Yn ogystal â dathlu eu talent a’u hangerdd, helpodd y preswyliad i feithrin hyder y myfyrwyr, a’u cefnogi i gymryd eu camau nesaf i’r byd proffesiynol.

Gwnaethant dreulio tri diwrnod yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda’r soprano Rebecca Evans CBE, Richard Hetherington, Pennaeth Cerddoriaeth y Tŷ Opera Brenhinol, a sesiwn Holi ac Ateb gyda pherfformwyr adnabyddus a oedd yn cynnwys April Koyejo-Audiger a’r Tenor o Gymro Ryan Vaughan Davies yn ogystal â sesiynau mentora a chael gwersi iaith.

Cynrychioli treftadaeth trwy gerddoriaeth

Roedd rhan ganolog o’r gystadleuaeth yn gofyn i’r cystadleuwyr ganu yn eu hiaith eu hunain ac o’u diwylliant eu hunain, a disgrifio pam mae’r gân a ddewiswyd ganddynt yn arbennig iddynt.

I ddathlu treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddyd, perfformiodd pob canwr raglen o dri darn, a oedd yn cynnwys cân yn dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Gymraeg, Pan ddaw’r nos gan Meirion Williams.

Dewisodd yr enillydd David y gân Armenaidd, Կռունկ, (Y Crëyr) gan Komitas sydd ag ystyr personol iawn iddo:

‘Roedd yn arbennig iawn canu yn fy iaith fy hun. Mae cân Armenaidd yn rhan o fy niwylliant nad yw’n cael ei chlywed yn aml yn y byd perfformio ehangach, felly roedd cael y cyfle i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd yn brofiad arbennig iawn.

Roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol falch o gynrychioli rhan o fy nhreftadaeth trwy gerddoriaeth, ac roedd gwybod bod pobl yn gysylltiedig â’r geiriau a’r alawon a basiwyd i lawr trwy genedlaethau wedi gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.

Gan fy mod yn dod o wlad fechan sydd â hanes mor gyfoethog, mae’n golygu llawer i helpu i gadw ein diwylliant a’n hiaith yn fyw trwy gân.’
David KarapetianEnillydd Gwobr y Gân gyntaf Syr Bryn Terfel

Ar ôl ennill y wobr, siaradodd hefyd am y cyffro o berfformio

‘Roeddwn wedi fy amgylchynu gan y cantorion anhygoel eraill, ac felly roedd gennym ni i gyd gyfle mawr i ennill.

Mae fy hyfforddiant bob amser wedi pwysleisio bod yn rhaid i chi gael y gynulleidfa i ddod gyda chi bob cam. A’r noson honno, gyda’r chwa o adrenalin a ddaeth gyda pherfformio yn y man hardd hwnnw, roeddwn wedi gallu rhoi popeth i geisio sicrhau hynny.’

Cymuned Coleg cydweithredol a chefnogol

Er bod y wobr yn gystadleuol, datblygodd y cystadleuwyr berthynas glós â’i gilydd oherwydd eu cariad at y gwaith, a denu’r gorau o’i gilydd a’u colegau.

‘Roedden ni i gyd yn dod ymlaen mor dda, ac er ei bod yn wobr mor fawr, roedd pawb yn cefnogi ein gilydd, a byddwn yn cadw mewn cysylltiad wrth i’n gyrfaoedd ddatblygu’, meddai Charlotte.

‘Mae fy athrawon yma yn CBCDC wedi rhoi cymaint o angerdd i mi am yr hyn rwy’n ei wneud. Maen nhw wir yn deall eich bod chi’n astudio yma oherwydd eich bod chi wrth eich bodd.

‘Gan fod ffocws mor gryf gan ein Pennaeth Astudiaethau Llais, Fiona McAndrew, ar ein potensial a’n twf, rydw i wedi dod yn llawer mwy hyderus, fel cantores ac fel person.’
Charlotte Crane

Gwaith caled, ymroddiad a rhagoriaet

Mae’r Wobr yn agored i gantorion israddedig sydd yn eu dwy flynedd olaf a bydd yn dychwelyd yn 2027 – gyda chynlluniau i gynnwys ysgolion cerdd rhyngwladol.

‘Gwaith caled, ymroddiad a rhagoriaeth fydd nod terfynol y myfyrwyr o hyd, ond bydd un ohonynt yn ennill y wobr nodedig hon a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu breuddwydion a’u dyheadau ymhellach fyth mewn cyfnod o ansicrwydd eithriadol yn y celfyddydau.

Rydw i wrth fy modd yn meddwl fy mod i, o’r diwedd, yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl.’
SIr Bryn Terfel

I David, mae ennill y wobr yn gam mawr ymlaen ar gyfer ei yrfa:

‘Bydd yr arian yn fy helpu i astudio, teithio, dysgu a pharhau i ddatblygu – gwrando ar holl ddoethineb a gwybodaeth athrawon ledled y byd. Rwy’n gobeithio y byddaf yn sefyll ar un o’r prif lwyfannau opera un diwrnod – dyna’r freuddwyd.’

Storïau eraill