Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

'Nid dewis ychwanegol yw poeni am y celfyddydau a’r diwylliant yma, maen nhw’n elfennau sylfaenol i hunaniaeth Gymreig.’ Araith y Prifathro Helena Gaunt ar rôl diwylliant yng Nghymru

Ar ôl cael ei hethol yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, canolbwyntiodd araith ar ôl cinio Helena Gaunt, Prifathro CBCDC, yn y Cinio Blynyddol a gynhaliwyd yn y Coleg ar bŵer diwylliant i wella, cysylltu, grymuso, a llunio dyfodol mwy dynolgar i bob un ohonom:

I mi, mae cael fy ethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn foment arbennig iawn; mae’r ffaith y gallaf berthyn yma yng Nghymru yn golygu llawer iawn. Mae llawer o bobl wedi gofyn i mi pam ddes i i Gymru ac mae’n rhaid i mi ddweud, pan gyhoeddais fy mwriad gyntaf roedd sawl un wedi’i synnu. Ond wrth i mi agosáu at ddiwedd fy wythfed blwyddyn yn y Coleg, nid oes amheuaeth bod y genedl fach ac arbennig iawn hon wedi llwyr gydio yn fy nghalon a’m henaid.

Rydw i wedi bod yn gerddor gydol fy oes, er bod fy ngradd gyntaf mewn Saesneg, ac roeddwn yn chwaraewr obo proffesiynol am flynyddoedd lawer, gan berfformio ledled y byd. Addysgais mewn conservatoire arall, y Guildhall School of Music and Drama yn Llundain, am dros 25 o flynyddoedd, ac yn araf adeiladu gyrfa academaidd ac arweinyddiaeth yno ochr yn ochr â pherfformio.

Ond roedd rhywbeth yn fy mhoeni – ‘Gwyliwch y bwlch’.

Mae conservatoires Llundain yn ganolfannau rhagoriaeth sy’n adnabyddus yn fyd-eang yn y celfyddydau perfformio, ac er fy mod yn hynod falch o weithio yno, roeddwn i’n teimlo fy mod eisiau dod o hyd i ymdeimlad o benodoldeb diwylliannol, a chysylltiad gwirioneddol â phobl a lle a fyddai ond yn bosibl y tu allan i brifddinas y DU.

Roeddwn i hefyd yn anesmwyth gyda’r modd yr oedd ein cymdeithas fel petai’n gynyddol yn trin y celfyddydau fel nwyddau, ac yn colli golwg ar werthoedd y ffurf gelf, ac aliniad sylfeini’r celfyddydau mewn gweithgareddau cymdeithasol mewn cymunedau a chymdeithasau.

Roeddwn i hefyd yn dechrau – er yn araf – sylweddoli ar rai o’r anghydraddoldebau o fewn y diwydiannau eu hunain, gan gynnwys yr heriauyroeddwn i wedi’u hwynebu fel cerddor, athro, ymchwilydd ac uwch arweinydd benywaidd.

Diwylliant a’r celfyddydau: sylfaen hunaniaeth Gymreig

Felly, penderfynais wneud rhywbeth gwahanol, hyrwyddo dull gwahanol, a dod i Gymru. Prin oedd fy nghysylltiadau yma, ond roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n genedl â gwreiddiau creadigol a diwylliannol dwfn yn rhedeg drwy iaith, cerddoriaeth, stori, a chymuned - Gwlad y Gân.

Nid dewis ychwanegol yw poeni am y celfyddydau a’r diwylliant yma, maen nhw’n elfennau sylfaenol i hunaniaeth Gymreig, yn allweddol i dwf economaidd ac ecosystem y diwydiannau creadigol, yn allweddol i lesiant, democratiaeth fyw a beth yw bod yn ddynol. Ac maen nhw’n newid bywydau pobl ifanc - rydyn ni’n gweld hynny bob dydd yma yn y Coleg. Fel y dywedodd Raymond Williams “mae diwylliant yn rhywbeth cyffredin”, mae’n perthyn i bawb.

Er bod cyllido diwylliant fesul pen yng Nghymru wedi llithro i waelod tablau cynghrair Ewrop, mae cyfle gwirioneddol nawr, wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd yn y Senedd, i’r celfyddydau a’r diwylliant ddisgleirio’n llachar i’r genedl nodedig hon, o’r llwyfan byd-eang i bob ystafell fyw, o bob ysgol i bob cartref gofal, a chanolfannau celfyddydau rhagorol rhyngddynt. 

Rydw i, yn fwy nag erioed, yn barod i gefnogi ac ymladd dros y celfyddydau a’r cenedlaethau nesaf o artistiaid yma i greu dyfodol llewyrchus - un sy’n seiliedig ar ragoriaeth a chynhwysiant, nid y naill na’r llall, ond y ddau, a gydag elfennau esthetig a chymdeithasol ymarfer artistig yn cydblethu’n llwyr. Dyna’r hyn yr ydym yn ei gynrychioli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ac mae’n teimlo i mi fel pe na bai erioed wedi bod amser mor bwysig ar gyfer hyn yng Nghymru.

Iechyd creadigol: Cydweithio a Chymru

Sy’n fy arwain at fy ail bwynt – cydweithio.

Mewn cyfnod tywyll ac ansicr fel hwn yn fyd-eang, mae angen mwy nag erioed i ni i gyd ddod at ei gilydd ar draws disgyblaethau a ffiniau: mewn parch i’n gilydd, a gyda dychymyg a gweithredu cyfunol.

Un agenda benodol rwy’n credu a allai fod yn drawsnewidiol i Gymru yw iechyd creadigol.

Mae’n gwbl amlwg bod Cymru eisoes wedi gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn a gallai fod yn arweinydd byd – gan ddatblygu’r ymchwil, yr arfer, y gweithlu, y polisi cyhoeddus, yr effaith gymdeithasol ac economaidd mewn ffyrdd nad oes llawer o leoedd eraill mewn sefyllfa i wneud hyn. O ragnodi cymdeithasol ac ymyriadau wedi’u targedu i heneiddio’n iach, mesurau atal, a chefnogi ymgysylltiad pobl ifanc ag addysg, mae’r dystiolaeth bellach yn ddiamheuol – i unrhyw un sydd heb ddarllen llyfr newydd yr Athro Daisy Fancourt, ‘Art Cure’, mynnwch gopi.

Mae llawer o fy nghyd-aelodau o’r Gymdeithas Ddysgedig eisoes yn cyffwrdd â’r agendâu hyn ar draws meysydd meddygaeth, cymdeithaseg, iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol, data a pholisi. Ond mewn sawl ffordd, dim ond dechrau crafu’r wyneb rydym wedi’i wneud. A’r hyn sydd ar goll – ac sydd ei angen ar frys yng Nghymru (fel ym mhobman) – yw mwy o gydlynu, uchelgais a rennir, a chynllunio strategol cydweithredol.

Os gallwn ddatgloi’r rhain, bydd yr effaith yn enfawr, oherwydd bod Cymru’n fach a gall fod yn hyblyg. Yma yn y Coleg, conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn barod i chwarae ein rhan.

Pŵer diwylliant i lunio dyfodol mwy dynolgar i bob un ohonom

Mae fy mhwynt olaf yn dychwelyd at rai o’r heriau rydw i wedi’u hwynebu, yn ymwneud â rhwystrau strwythurol a phersonol o fewn fy sector proffesiynol.

Hyd yn oed nawr, ychydig iawn o brif oböyddion benywaidd sydd mewn cerddorfeydd yn y DU - neu yn wir yn Ewrop. Mae ein conservatoires yn dal i gael eu harwain yn bennaf gan ddynion, neu efallai’n bwysicach fyth, yn cael eu dominyddu gan strwythurau gwaith a chydnabyddiaeth a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer dynion.

Am lawer o fy mywyd gweithiol, fel mam i bump o blant, rydw i wedi ceisio cydbwyso bywyd gwaith a chartref, heb allu siarad am y mater.

Yr hyn rydw i’n ei weld nawr, fodd bynnag, wrth i mi ddod trwy fwy na 30 mlynedd o fod yn fam, yw nad yw arwriaeth yn gynaliadwy. Rwy’n falch o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni - ond rydw i hefyd yn ddigon gonest, gobeithio, i ddweud nad yw derbyn strwythurau a diwylliannau gwaith presennol fel pris y i’w dalu am uchelgais yn fodel rydw i eisiau ei drosglwyddo i’m plant nac i’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.

Mae yna lawer o haenau a chymhlethdodau yma, ond mae un peth yn glir: rydym yn dal i fod ymhell o fod wedi mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd, heb sôn am fathau eraill o anghydraddoldeb, yn ein sefydliadau.

Rhaid i mi fod yn rhan o newid hynny, o gefnogi menywod ac eraill o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chefndiroedd llai breintiedig i ddatblygu eu gyrfaoedd, ac i wneud hynny’n gynaliadwy heb deimlo bod yn rhaid iddynt ddiflannu neu dorri eu hunain yn y broses.

Felly mae’n amser i feddwl yn uchelgeisiol ac i weithio ar y cyd, mewn ffyrdd a fydd yn mynd â’r genedl wych hon allan i’r byd ac yn dod â’r byd yn ôl i Gymru. Wrth wneud hynny, gadewch i ni gofio mai diwylliant – cyffredin, anghyffredin, a rennir – sydd â’r pŵer i wella, i gysylltu, i rymuso, ac i lunio dyfodol mwy dynolgar i bob un ohonom.

Storïau eraill