Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: Diwrnodau Offeryn Ieuenctid CBCDC yn dod â cherddorion ifanc ynghyd

Mae ein Diwrnodau Offeryn Ieuenctid am ddim yn rhoi cyfle i gerddorion ifanc o’r gymuned ehangach archwilio eu hofferyn mewn amgylchedd gweithdy creadigol, ymarferol a chydweithredol.

Gweithio mewn partneriaeth i gyrraedd mwy o bobl ifanc

Rydym wedi croesawu’r Gwanwyn y tymor hwn gyda’n pum Diwrnod Offeryn Ieuenctid cyntaf, gan ddod â cherddorion ifanc o bob rhan o Gymru a’r DU ynghyd i greu cerddoriaeth a dysgu ochr yn ochr â’n myfyrwyr, tiwtoriaid ac artistiaid gwadd.

Fel rhan o CBCDC Agored, mae’r diwrnodau am ddim hyn yn rhan bwysig o genhadaeth y Coleg, i ehangu cyfranogiad, meithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion, a chynnig dysgu creadigol sy’n ysbrydoli pobl ifanc yn gynnar yn eu teithiau cerddorol.

Gan weithio gyda darparwyr cerddoriaeth eraill o Gymru, mae’r Diwrnodau Offeryn cyntaf hyn wedi canolbwyntio ar y Gitâr, Chwythbrennau, y Corn Ffrengig, a’r Delyn, gyda myfyrwyr ifanc yn gweithio, yn rhyngweithio ac yn perfformio gyda cherddorion blaenllaw sydd wedi cynnwys Zoran Dukić, Lumas Winds, Ben Goldscheider, a Joel Von Lerber, cyn rhannu perfformiad olaf gyda theulu a ffrindiau yn Neuadd Dora Stoutzker.


‘Un o rolau pwysicaf y Coleg yng Nghymru yw datblygu talent gerddorol ymhlith pobl ifanc, gan ehangu cyfleoedd, amrywiaeth a mynediad. Mae’r digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd am ddim hyn yn cynnig cyfleoedd i brofi cerddoriaeth a pherfformiadau byw, gan gyfeirio llwybrau ar gyfer datblygiad pellach a meithrin uchelgais greadigol.


Hyfrydwch y model hwn yw bod artistiaid gwadd rhyngwladol a thiwtoriaid rhagorol CBCDC yn perfformio ac yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr CBCDC i ddarparu profiadau trochol i ddysgwyr cynnar, mentora a hyfforddiant i ddysgwyr mwy datblygedig, a chyfleoedd perfformio gwych gyda myfyrwyr a staff CBCDC.
Kevin PriceCyfarwyddwr CBCDC Agored

Camau nesaf: Dod â gyrfa yn y celfyddydau yn fyw

Mae’r Diwrnodau Offeryn yn cefnogi cerddorion ifanc wrth iddynt adeiladu eu datblygiad cerddorol, eu hyder a’u cymhelliant trwy amrywiaeth o weithdai, chwarae mewn ensemble a pherfformio gydag artistiaid blaenllaw a myfyrwyr y Coleg.

Maent yn cael blas cyntaf ar brofiad cydweithredol cerddoriaeth, dysgu ar lefel conservatoire, a hefyd profiad o fod yn rhan o deulu cerddorol. Er enghraifft, roedd y Diwrnod Corn Ffrengig yn boblogaidd iawn gyda’r artistiaid gwadd Ben Goldscheider yn denu dros 50 o chwaraewyr i gyd-chwarae ar lwyfan Dora Stoutzker.

Dod â dros 50 o chwaraewyr Corn Ffrengig ynghyd ar lwyfan Dora Stoutzker

Mae gweithio a chysylltu â’n myfyrwyr, a allai fod ond ychydig yn hŷn na hwy, yn dangos i bobl ifanc y camau posibl a pherthnasol nesaf yn eu taith gerddoriaeth.

Mae adborth y rhiant hwn yn cyfleu sut y gall y profiad fod o fudd i gerddor ifanc:

‘Roedd gennym ddisgwyliadau uchel oherwydd bod fy mab arall newydd gymryd rhan yn eich diwrnod ymgysylltu Pres gyda Band Cory. Ond ni wnaeth dim ein paratoi ar gyfer y lefel o falchder a hapusrwydd y daeth ein mab adref ag ef!

Mae eich tiwtoriaid yn rhyfeddol. Mae’n fraint wirioneddol i ddysgwr ifanc dreulio amser yn eu cwmni. Roedd eu hangerdd dros eu hofferynnau a’u hegni i ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr mor amlwg.

Ond yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arno oedd pa mor hyfryd yw eich myfyrwyr - nid yn unig eu bod yn gerddorion gwych ond maent yn fodelau rôl ysbrydoledig iawn hefyd.

O ganlyniad i’r ddau ddiwrnod anhygoel hyn i chwaraewyr ifanc mae gennym ni nawr blentyn 13 oed ac un 11 oed sy’n awyddus i ddod i fod yn fyfyrwyr yn CBCDC rhyw ddydd.’
Rhiant cerddorion ifanc a fynychodd y Diwrnodau Offeryn Ieuenctid

Mae’r Diwrnodau Offeryn Ieuenctid yn adeiladu ar lwyddiant ein gweithdai jazz tri diwrnod, a lansiodd ein partneriaeth Jazz Ieuenctid Cenedlaethol Cymru gyda Chelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Jazz Explorers Cymru llynedd.

Gan ddod ag artistiaid ifanc ynghyd o bob rhan o Gymru, ysbrydolodd hyn yr artist ifanc Lucas Tyldesley i wneud cais i CBCDC, lle mae bellach yn astudio piano Jazz. Bydd dau gerddor ifanc arall a wnaeth gais i’r Coleg o ganlyniad i’r sesiynau ysbrydoledig hyn yn ymuno ag ef y flwyddyn nesaf.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Myfyrwyr Cerddoriaeth CBCDC: Dysgu bod yn gerddorion mewn cymdeithas

Rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr cerddoriaeth CBCDC yw eu datblygiad fel cerddorion unigol, gan werthfawrogi pwysigrwydd defnyddio eu sgiliau eu hunain i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Mae’r Diwrnodau Offeryn yn rhoi profiad trochol iddynt mewn lleoliad addysgol, gan eu galluogi i gynnig mentora, cyngor ac ysbrydoliaeth, ac i fod yn fodelau rôl i gerddorion iau.

‘Roeddwn i eisiau eich llongyfarch unwaith eto ar ddiwrnod hynod lwyddiannus! Roedd hi’n braf dros ben gweld yr holl blant, yn enwedig y rhai o grŵp Penarth, gyda gwên ar eu hwynebau wrth ddysgu a chwarae Dragon Boy. Diolch i chi am fod yn wych a rhoi’r diwrnod llawn ysbrydoliaeth hwn iddynt! Diolch hefyd am yr holl gefnogaeth rydych chi wedi’i rhoi i mi i ganiatáu i mi deimlo’n fwy hyderus yn y sefyllfaoedd hyn.

Roedd y cyngerdd yn wych, ac roedd y dosbarth meistr yn wirioneddol ystyrlon i mi.’
Beth CooperMyfyriwr Gitâr Ôl-raddedig

Athrawon ac addysgwyr: cryfhau a chefnogi partneriaethau

Ymunodd athrawon ac addysgwyr cerddoriaeth â’r artistiaid gwadd, tiwtoriaid a myfyrwyr CBCDC i rannu dulliau ar gyfer meithrin talent ifanc, gan ffurfio partneriaethau dyfnach, hirdymor â’r Coleg.

‘I’r holl oedolion oedd yn rhan o’r dyddiau rhannu hyn, rydym wedi gwerthfawrogi’r cyfeillgarwch rydym wedi’i ddatblygu a’r cysylltiadau rydym wedi’u gwneud â’n gilydd.

Gall y Coleg helpu’n fawr trwy gynnig yr amser a’r lle i ni gael y sgyrsiau hyn, i edrych ar sut y gallwn gefnogi ein gilydd, a sut mae hyn yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr. Mae’n teimlo fel ein bod yn adeiladu cymuned, sef y canlyniad gorau posibl.’
Helen SandersonPennaeth Perfformio Gitâr
RWCMD Head of Guitar, Helen Sanderson, introduces the audience to the young guitar players, and the whole of the guitar department, performing together on the Dora Stoutzker stage

Edrych ymlaen: cyrraedd ledled Cymru

Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, mae’r Coleg yn cynllunio digwyddiadau ledled y wlad yn y dyfodol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i barhau i ddarparu mwynhad, cyfle ac arbenigedd, ac i rannu ein hymrwymiad hirdymor i gerddoriaeth Cymru.

Archebu ar gyfer ein diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz am ddim: https://www.rwcmd.ac.uk/young-rwcmd

Dysgu mwy am CBCDC Agored:

Storïau eraill