Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Rownd Derfynol Gwobr Syr Ian Stoutzker 2021

Llongyfarchiadau i Elena Zamudio, enillydd gwobr fawreddog Syr Ian Stoutzker eleni.

Dyfernir y wobr gwerth £10,000 yn flynyddol i offerynnwr neu ganwr mwyaf rhagorol y Coleg ac amlygodd gwobr eleni y cantorion eithriadol sy’n astudio yn y Coleg.

Roedd Elena, a enillodd Wobr Opera Janet Price y Coleg yn 2020, yn cystadlu ynghyd â’i chyd-soprano Jessica Hackett a’r mezzo-soprano Marienella Phillips, a’r bariton Lluís Calvet i Pey yn y rownd derfynol a gynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf yn Neuadd Dora Stoutzker.

Mae Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC Tim Rhys-Evans, y beirniad Roberta Alexander a'r rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cymeradwyo Elena fel enillydd Gwobr Stoutzker

Er nad oedd modd croesawu cynulleidfa, roedd teulu a ffrindiau’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn gallu gwylio o bob rhan o’r byd gan i’r digwyddiad gael ei ffrydio’n fyw am y tro cyntaf.

Roeddem hefyd yn falch iawn bod sylfaenydd y Wobr Syr Ian Stoutzker wedi gallu ymuno â ni o’i gartref yn Salzberg, yn enwedig gan fod yr wythnos hon yn nodi 10 mlynedd ers agor Neuadd Dora Stoutzker, a roddwyd yn hael i’r Coleg gan Syr Ian a’i henwi er anrhydedd i’w fam Dora a oedd yn athrawes cerddoriaeth.

Roedd y panel beirniaid i fri yn cynnwys Neal Davies a Roberta Alexander, y ddau yn garedig yn rhoi eu gwasanaeth ar eu hunig noson o seibiant o feirniadu Canwr y Byd Caerdydd, a Della Jones a ymunodd â’r rownd derfynol ar Zoom.

‘Mae wedi bod yn fraint anhygoel clywed cerddoriaeth fyw a chlywed talent mor gryf ar ôl 18 mis mor llwm a digalon.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn obeithiol iawn at ddyfodol mwy disglair a cherddorol.’
Neal DaviesBarnwr

Oherwydd cyfyngiadau Covid nid oedd modd i Gerddorfa Siambr CBCDC gyfeilio yn ôl ei harfer ond roedd y pianydd James Southall yn ddewis amgen gwych, gan weithredu fel cerddorfa un dyn am y noson.

'Rwy’n teimlo mor ddiolchgar ac wrth fy modd fy mod wedi derbyn Gwobr Ian Stoutzker nos Wener diwethaf. Roedd yn syndod llwyr i mi ac yn anrhydedd i gael fy ystyried yn enillydd teilwng y gystadleuaeth eleni.

Mae’r wobr hon yn sicr yn gam enfawr yn fy ngyrfa, fel artist ac fel person. Ni allaf feddwl am ddiwedd hapusach i’m cyfnod yn y Coleg ac am hynny hoffwn ddiolch a diolch eto i bob athro, hyfforddwr a pherson sydd wedi fy helpu a’m cefnogi ers i mi ddechrau yn CBCDC. Ni fyddai wedi bod yn bosibl hebddoch chi i gyd … Gracias.‘
Elena ZamudioEnillydd y wobr

Ymhlith enillwyr blaenorol Gwobr Ian Stouzker mae’r clarinetydd Laura Deignan, y bariton Emyr Wyn Jones a’r tenor Rhodri Jones.
Darganfyddwch fwy am astudio Opera yn y Coleg ac Ysgol Opera David Seligman

Diolch o galon i’n myfyriwr lleoliad MA Rheolaeth yn y Celfyddydau, Tilly Scott, am ysgrifennu’r blog hwn.

Storïau eraill