Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Llinynnau CBCDC: tymor o ddosbarthiadau meistr a pherfformiadau

Er gwaethaf yr heriau digynsail a gafwyd y tymor hwn, mae’r adran Llinynnau wedi llwyddo i gynyddu nifer eu cyfleoedd i berfformio – fel y dywed y feiolinydd Rosie Olver:

Y tymor hwn bu adran Llinynnau CBCDC yn ddigon ffodus i gael gweithio gyda nifer o artistiaid proffesiynol ar ymweliad, gan gynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr gyda pherfformwyr megis Philip Higham, Carmine Lauri a Rachel Podger, yn ogystal â hyfforddiant siambr gan Bedwarawd Albion a gweithdy gyda’n staff Llinynnau ni yma yn y Coleg.

'Hanfod ein rhaglen ers erioed fu integreiddio cymaint o berfformio â phosibl drwy weithio gyda cherddorion proffesiynol a dysgu drwy gyfranogi.

Rwy’n falch ein bod wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng hwn – a’n bod wedi llwyddo i gynyddu nifer y prosiectau y tymor hwn.’
Simon Jones

Uchafbwynt penodol oedd ymweliad gan Carmine Lauri ym mis Hydref a fu’n arwain yr ensemble Unawdwyr Llinynnol. Mae Carmine, sy’n berfformiwr rhyfeddol ac yn flaenwr Cerddorfa Symffoni Llundain, hefyd yn Gyngerddfeistr gyda Cherddorfa Ffilharmonig Rhydychen.
Matilde Viegas, sydd yn ei phedwaredd flwyddyn, oedd yn arwain yr adran soddgrwth ac eglurodd sut y bu’r prosiect o gymorth i’w datblygiad fel chwaraewr:

‘Roedd y prosiect hwn yn brofiad dysgu cyfoethog dros ben.

Nid yn unig y gwnes i ddatblygu fy sgiliau fel arweinydd adran a’m gwybodaeth am chwarae cerddorfaol, dysgom hefyd lawer am yr hyn sy’n digwydd mewn rihyrsal cerddorfa fyd enwog.’
Matilde Viegas

Ar ôl y cyngerdd cynhaliodd Carmine ddosbarth meistr. Emma Abrams oedd un o’r chwaraewyr feiolin a oedd yn perfformio yn Neuadd Dora Stoutzker:

‘Hwn oedd y tro cyntaf i mi berfformio unawd yn y Dora felly doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Ond roedd Carmine yn llawn ysbrydoliaeth a rhoddodd lawer o syniadau i mi er mwyn gwneud fy mherfformiad yn fwy trawiadol a diddorol.

‘Roedd y dosbarth meistr yn brofiad aruthrol. Gadewais yr ystafell yn llawn hyder ac ysgogiad.

Roedd yn brofiad a fydd yn aros yn fy nghof am byth.’
Emma Abrams

‘Rydw i wedi bod wrth fy modd gyda’r ysbryd o gydweithio gwych sydd wedi disgleirio ymhlith ein myfyrwyr Llinynnau yn ystod y tymor anodd hwn,’ meddai Simon Jones.

‘Roedd gweld ein myfyrwyr yn gweithio wyneb yn wyneb â chymaint o athrawon a pherfformwyr ysbrydoledig yn cadarnhau fy nghred mewn grym cerddoriaeth yn ystod cyfnodau o adfyd, ac mae’n amlygu ethos hyfryd o gadarnhaol a chefnogol ein hadran Llinynnau.’
Simon Jones

Storïau eraill