Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Myfyrwyr Cerddoriaeth yn Cydweithio gyda’r Manchester Collective

Mae’n wythnos gyntaf y tymor a dechreuodd y myfyrwyr Cerddoriaeth ar eu gwaith ar unwaith wrth i’r Manchester Collective gyflwyno wythnos o weithdai gyda blas Affricanaidd a llawn ysbrydoliaeth.

Aeth y Collective â‘r myfyrwyr ar daith gerddorol o gemau rhythm, Gwaith byrfyfyr, ioga, trefniannau corawl a hyd yn oed gwersi calabash digymell.

Gweithdy gyda’r Manchester Collective

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Cafodd myfyrwyr Cerddoriaeth yn flwyddyn gyntaf gyfle i fwynhau sesiynau llais a rhythm yng nghwrt Canolfan Anthony Hopkins yn haul cynnes canol Medi.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Bu’r soddgrythorion ôl-radd yn archwilio’r soddgrwth fel offeryn llinynnol a tharo, gan uno chwarae clasurol gyda rhythmau gwerin Affricanaidd a’r llais.

Arweiniwyd y gweithdy gan y soddgrythor Abel Selaocoe, ynghyd â’r offerynnwr taro Sidiki Dembele a’r chwaraewr bas trydan Alan Keary o Chesaba, gan weithio gyda’r myfyrwyr i ddatblygu eu gallu i feddwl yn gerddorol ‘tu allan i’r bocs’.

‘Roedd ymweliad Manchester Collective gydag Abel Selaocoe yn wych ac yn ysbrydoliaeth!

Roedd cael y cyfle i weithio gydag ef a’i gydweithwyr yn brofiad a roddodd foddhad mawr i mi a chaniatáu i mi chwarae y tu allan i’r ‘traddodiad clasurol’ arferol.

Arweiniodd hyn fi i archwilio posibiliadau di-ben-draw y soddgrwth, a hyd yn oed ei ddefnyddio fel dyfais taro!’
James Mcbethsoddgrythor pedwaredd flwyddyn

Arweiniodd y gweithdai ffocws yr adran Llinynnau ar wthio ffiniau arddulliau cerddorol traddodiadol mewn sesiynau hwyliog a chydweithredol.

'Cawsom ein gwthio allan o’r sefyllfaoedd yr ydym yn gyfforddus ynddynt, ac roedd hynny’n wych.

Roedd y modd yr oeddent yn dangos pa mor rhydd y dylem fod gyda’n cerddoriaeth a sut y dylem arbrofi mwy gyda’n hofferynnau yn ddiddorol dros ben ac yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio o’r gweithdy.’

Roeddent mor ddawnus a llawn ysbrydoliaeth ac rydw i’n awchu i ddysgu mwy!

Fe fyddaf yn sicr yn mynychu’r cyngerdd nos fory.

Fel cerddorion clasurol mae angen i ni gael mwy o weithdai fel hyn, er mwyn ein helpu i feddwl y tu allan i’r bocs.'
Charlotte Frostsoddgrythores pedwaredd flwyddyn

Roedd y gweithdai a’r perfformiad yn ddechrau llawn ysbrydoliaeth i fywyd Coleg ar gyfer myfyrwyr Cerddoriaeth y flwyddyn gyntaf, gyda’r ffocws ar ehangu meddyliau o ran cerddoriaeth a Diwylliant.

'Rwy’n credu y byddai pawb a gymerodd ran yn cytuno bod y gwaith grŵp mor swreal a diddorol. Roedd clywed pawb yn canu nodau ar hap o’u dewis ac yn creu ton o harmoni ddigymell gyda’i gilydd yn brofiad rhyfeddol.

Fe wnaeth ein helpu i wrando a chysylltu â’n gilydd drwy sain, yn yr un modd ag y gwnaeth canu pedwarawd Hadyn!

Fe wnes i hefyd fwynhau’r elfen cerddoriaeth byd a natur ddyrchafol rhythm a chân Affricanaidd. Roedd yn deimlad cyffrous iawn bob tro yr oeddem yn haenu rhythmau clapio a llafarganu cân ddathlu draddodiadol Affricanaidd.

Mae gweithdai’r Collective yn arloesol, gan helpu i ddod â diwylliannau ynghyd mewn ffordd mod glyfar a diddorol.'
Georgina HamiltonBMus blwyddyn gyntaf

Allow Facebook content?

Lorem ipsum doler sit amet Facebook seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Cyfunodd y Collective eu hymwelid â’r Coleg gyda lansiad Sirocco, sioe sy’n creu unawdau soddgrwth o glasuron gan Stravinsky a Haydn tra’n uno gyda chaneuon gwerin Affrica a Denmarc.

'Roedd hwn yn gyngerdd mor anhygoel!! Roedd hi mor gyffrous eistedd ar y llwyfan i weld y weithred!'
Abi PetticanMyfyrwyr Chwythbrennau

Storïau eraill