Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Mae’r actor Callum Scott Howells bellach yn Aelod Cyswllt o CBCDC yn 2023

Llongyfarchiadau i’r actor a’r myfyriwr graddedig arobryn Callum Scott Howells, sydd nawr wedi ennill Aelodaeth Gyswllt Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Daeth yn ôl i’r Coleg i dderbyn ei wobr a rhannu ei brofiadau ar y llwyfan a sgrin gyda myfyrwyr actio a theatr gerdd.

Mae'r Coleg yn gwobrwyo Aelodau Cyswllt bob blwyddyn, gan ddathlu graddedigion cerddoriaeth a drama sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r celfyddydau yn eu dewis faes. 

Gallwch ddarllen mwy am ein Haelodau Cyswllt o 2023 ar ddiwedd y neges hon.

Callum gyda myfyrwyr actio a theatr gerdd yr ail flwyddyn, a’r Cyfarwyddwr Drama, Jonathan Munby

Dros y flwyddyn nesaf bydd yr Aelodau Cyswllt yn dod yn ôl i'r Coleg i fentora'r myfyrwyr a siarad â nhw. 

Y tymor hwn, fe wnaethom groesawu Callum, a raddiodd yn 2020, sydd heb wastraffu unrhyw amser yn gadael ei ôl ar y diwydiant celfyddydau, gan ffilmio ‘It’s a Sin’ Channel 4 tra’r oedd yn ei ail flwyddyn, a syfrdanu cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd yn y West End fel yr Emcee yn sioe wobredig ‘Cabaret’ (a ddyluniwyd gan y cyd-fyfyriwr graddedig a chyd-gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Tom Scutt)

Trochi eich hun mewn actio yn y Coleg

Mae Callum eisoes wedi ymddangos mewn sawl rôl wahanol ar lwyfan a sgrin, ac mae’n cydnabod hyfforddiant safon diwydiant y Coleg o ran ei helpu i ddatblygu ‘y grym i fod yn actor cyflawn, sy’n barod i ddechrau fy ngyrfa.’

‘Mae actio yn swydd mor amlochrog a’r hyn y mae’r Coleg yn ei wneud mor wych yw eich cael i ymgolli yn y cyfan – gan weithio gyda chynifer o arbenigwyr, o radio i sgrin a phopeth yn y canol.’
Callum Scott Howells

Pam mae hyfforddiant i actorion mor bwysig?

Roedd Callum eisoes yn gweithio’n broffesiynol cyn iddo ddod i’r Coleg, gan berfformio yn y Menier Chocolate Factory. Yna cymerodd amser allan yn ei ail flwyddyn i ffilmio ‘It’s a Sin’ ond daeth yn ôl i orffen ei hyfforddiant. Felly pam mae hyfforddiant i actorion mor bwysig?

Callum Scott Howells as Colin in Channel 4’s It’s a Sin

‘Pan wnes i siarad ag actorion eraill am hyn, maen nhw wedi dweud ei bod yn teimlo mai ‘gwneud siapiau’ yn unig oedden nhw cyn hyfforddi. 

Nad oedd unrhyw sylwedd na chysylltiad gwirioneddol â'r hyn roeddech chi'n ei wneud - bron fel pe bai'n ffugio bod yn rhywun arall.  Mae’r hyfforddiant yn rhoi’r dyfnder hwnnw i chi, a’r cyfle i ddarganfod eich hun fel actor, gan gysylltu â’r emosiwn rydych chi’n ceisio ei gyfleu.

Dewisais Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oherwydd dyma’r ysgol orau! Roedd y Coleg yn gwneud pethau roeddwn i eisiau eu gwneud ac roedd ganddo raddedigion gwych fel Anthony Boyle (Actor o ‘Harry Potter and the Cursed Child’ sydd wedi ennill gwobr Olivier)

Person graddedig Callum Scott Howells, Motortown, Hydref 2019

'Doeddwn i ddim yn barod ar gyfer Llundain. Roedd yn teimlo fel gormod a doeddwn i ddim yn teimlo bod angen bod yno.  

Fe wnaeth Caerdydd fy ngalluogi i anadlu a chanolbwyntio ar fy hyfforddiant - gan wybod y byddai'r byd i gyd yn aros amdanaf wedyn.'

Beth oedd rhai o uchafbwyntiau dy hyfforddiant?

'Roedd yr effaith fwyaf yn gynnar yn fy hyfforddiant. Roedd llawer iawn o waith cyswllt llygad, gan ddysgu ymgolli yn y funud gydag actor arall yn hytrach na dim ond ‘gwneud siapiau.’ Roedd hyn yn enfawr. Doeddwn i erioed wedi gwybod sut beth oedd hynny o’r blaen.

Dwi’n meddwl mai dyna sy’n gwneud actor proffesiynol – mae’n ymwneud â’r cysylltiad â phobl eraill. Yna byddwch yn ychwanegu testun at hynny, ac yna’n canolbwyntio ar yr holl bethau newydd sy’n deillio o’r broses honno.'

Callum fel yr Emcee yn Cabaret, yn y West End

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i dy hun fel myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru?

'Mwynha'r foment, paid â phoeni am yr amser pan fyddi di’n gadael. Mwynha'r ffaith dy fod yn rhan o’r grŵp blwyddyn anhygoel yma a mwynha'r dysgu a’r perfformiadau.

Bydda’n uchelgeisiol a gobeithiol – ond paid â chymryd yn ganiataol y bydd unrhyw beth yn digwydd. Dwyt ti ddim o reidrwydd yn mynd i gael yr hyn rwyt ti’n ei ddisgwyl. Ond paid â phoeni amdano gan nad oes rhesymeg dros sut mae’n gweithio.

Gwna’n siŵr dy fod yn edrych ar ôl dy hun – y meddwl a’r corff. Dechreua nawr a bydd yn dy helpu drwy’r cyfnod anodd.'

Beth am pan fyddi di’n gadael y Coleg?

Edrycha ar ôl dy hun. Dos i drefn arferol, gyda rhythm a strwythur. Dalia ati i weithio’n galed gan fod hynny’n gwneud gwahaniaeth. Rydw i’n darllen llawer, dro ar ôl tro – ac yna mae pethau a chysylltiadau newydd yn codi, sy’n helpu i’w gadw’n ffres, yn enwedig pan wyt ti’n gwneud wyth sioe o ‘Cabaret’ yr wythnos.'

Diolch, Callum.

Rydym yn edrych ymlaen at weld Callum yn ôl yn y Coleg yn fuan. Ond yn y cyfamser, cadwch lygad amdano mewn ffilmiau sydd ar y gweill, sef ‘The Beautiful Game’ ar Netflix am gwpan y byd a’r gyfres deledu ‘The Way’, dan gyfarwyddyd Michael Sheen. Ei brosiect nesaf yw chwarae rhan Holly Johnson, prif ganwr Frankie Goes to Hollywood, yn y biopic ‘Relax’.

Storïau eraill