Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles

Yn CBCDC rydym yn credu bod eich iechyd meddwl a’ch lles yr un mor bwysig â’ch hyfforddiant. Yn ystod eich amser yma rydym am wneud yn siŵr bod gennych y gefnogaeth, yr offer a’r amser sydd eu hangen arnoch i ofalu am eich hun.

Adnabod pryd mae angen cefnogaeth arnoch

Rydym yn gwybod y gall anawsterau iechyd meddwl weithiau fod yn fwy cyffredin mewncymunedau creadigol. Mae ymdrechu am ragoriaeth yn rhan o fod yn berfformiwr, artist neu dechnegydd, ond pan na chyrhaeddir y safonau uchel hynny, gall effeithio ar sut rydym ynteimlo. Dyna pam ei bod mor bwysig adnabod pryd mae angen cefnogaeth arnoch ac i estynallan yn gynnar.

Mae ein Rheolwr Cymorth Myfyrwyr, Kate Williams, wedi rhannu rhai ffyrdd defnyddiol o gael mynediad at gefnogaeth, p’un a ydych chi’n chwilio am rywun i siarad â nhw neu eisiauarchwilio adnoddau ar eich pen eich hun.

Cefnogaeth yn CBCDC

  • Mae cwnsela ar gael i bob myfyriwr yn CBCDC. Am ragor o wybodaeth, neu ihunangyfeirio, ewch i’r HyB.
  • Gallwch hefyd e-bostio StudentServices@rwcmd.ac.uk i drefnu cyfarfod lles neu iganfod pa gefnogaeth arall sydd ar gael.
  • Oeddech chi’n gwybod, fel myfyriwr neu aelod o staff, eich bod chi’n gymwys igael tanysgrifiad am ddim i ap Headspace? Mae’n offeryn gwych i archwilioymwybyddiaeth ofalgar a chynnwys eiliadau bach o dawelwch yn eich diwrnod.
  • Fe welwch chi hefyd fanylion am opsiynau eraill o gefnogaeth i gyfeirio atynt ar ddrwsswyddfa Gwasanaethau Myfyrwyr.

Adnoddau allanol y gallwch chi gael mynediad atynt

Cofiwch, nid dim ond gofyn am gymorth pan fydd pethau’n mynd yn anodd yw gofalu am eich iechyd meddwl. Mae’n ymwneud â chymryd camau bach, rheolaidd i ddiogelu eich llessy’n amrywio o siarad â ffrindiau a thiwtoriaid i ddod o hyd i amser i orffwys ac ystyried.

Os ydych chi am siarad, rydym yma i wrando.

Storïau eraill