Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Croeso i’n Haelodau Cyswllt cerddoriaeth a drama newydd, CBCDC 2023

Llongyfarchiadau i Aelodau Cyswllt Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 2023. Bob blwyddyn mae'r Coleg yn gwobrwyo graddedigion cerddoriaeth a drama diweddar fel Aelodau Cyswllt y Coleg, gan ddathlu cyfraniadau sylweddol i'r celfyddydau a chymdeithas yn gynnar yn eu gyrfa ddewisol.

Croeso i Aelodau Cyswllt CBCDC 2023

O gynllunydd sain gemau i brif offerynnwr taro, o gyfarwyddwr lleoliad i rownd derfynol BBC Canwr y Byd Caerdydd, mae Aelodau Cyswllt eleni yn enghreifftiau gwych o’r rhagoriaeth nodedig, y meddwl beiddgar a’r uchelgais sy’n adlewyrchu hyfforddiant proffesiynol trylwyr y Coleg.

'Mae hyfforddiant creadigol ac yn y grefft hon yn grymuso ein graddedigion newydd i wneud gwahaniaeth go iawn wrth iddynt gamu ar lwyfan byd-eang fel artistiaid cydweithredol ac arloesol, a chyfranwyr gweithredol a chyfrifol i'r gymdeithas ehangach.

Rydyn ni’n falch ohonyn nhw i gyd, ac rydyn ni’n dathlu eu llwyddiant haeddiannol.’
Helena GauntHelena Gaunt, Pennaeth

Mae ein Haelodau Cyswllt o 2023 yn cynnwys Jessica Robinson, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd, y canwr jazz Hannah Grace, y cyfansoddwr a’r cerddor traddodiadol o Gymru, Patrick Rimes, yr actorion Callum Scott Howells ac Alexandria Riley, a’r dylunydd sain, Kina Miyamoto.

Patrick yn arwain myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cadwyn o gerddoriaeth Gymraeg yn y Coleg, gan ddathlu lansiad ymddiriedolaeth Cronfa Syr Bryn Terfel.

Mentora’r myfyrwyr

Mae’r gwobrau hyn yn adeiladu ar y berthynas gref a pharhaus sydd gan y Coleg â’i raddedigion, gydag Aelodau Cyswllt yn ymweld drwy gydol y flwyddyn i rannu eu profiadau a mentora’r myfyrwyr presennol.

Mae’r actor gwobrwyedig Callum Scott Howells a’r cerddor Patrick Rimes eisoes wedi dychwelyd y tymor hwn i rannu eu profiadau gyda’r myfyrwyr.

Aelodau Cyswllt Cerddoriaeth CBCDC 2023

Llongyfarchiadau i’n Haelodau Cyswllt cerddoriaeth: y canwr jazz Hannah Grace, y perfformiwr, cyfansoddwr a chwaraewr llinynnau David Grubb, y peiriannydd sain ac artist Kina Miyamoto, y fiolydd Ben Newton, y cyfansoddwr a’r cerddor traddodiadol Cymreig Patrick Rimes, y gantores opera Jessica Robinson, y cyfansoddwr ac artist sain Daniel Soley, y prif offerynnwr taro Paul Stoneman, yr is brif drombonydd Dafydd Thomas, a’r prif drympedwr Matthew Williams.

Aelodau Cyswllt Drama CBCDC 2023

Llongyfarchiadau i’n Haelodau Cyswllt drama newydd: y Rheolwr yn y Celfyddydau Carys Bradley-Roberts, y cynllunydd set a gwisgoedd April Dalton, y cyfarwyddwr lleoliad Alysha Gibson, y rheolwr cwmni Sam Griesser, yr actorion theatr gerddorol Eric Hallengren a Teleri Hughes, yr actor a enwebwyd am BAFTA Alexandria Riley, enillydd gwobr BAFTA Cymru Callum Scott Howells, a’r cynllunydd set a gwisgoedd Elin Steele.

Storïau eraill