
Mae'r 'Puppetry Takeover' Techniquest Yma
Mae cydgasgliad unigryw yn cymryd lle wythnos yma, wrth i bypedwyr y dyfodol dadorchuddio eu creadigaethau yn y canolfan eiconig, ac yn dod â gwyddoniaeth i fyw am ymwelwyr Techniquest mewn ffyrdd annisgwyliadwy. Fel rhan o bartneriaeth newydd gyda’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bydd y ‘Puppet Takeover!’ — sy’n cymryd lle ar ddydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Gorffennaf — yn dangos dau berfformiad pypedau wedi’i enwi Tîm Bywyd a Thîm Gofod, yn ogystal â chreadigaethau o gwmpas yr arddangosfa.
Dwedodd Sue Wardle, Prif Weithredwr Techniquest: 'Rydym ni wedi edrych ymlaen at yr wythnos hon ers dechrau’r flwyddyn, oherwydd dydyn ni fyth wedi llywyddu unrhyw beth fel hyn yn Techniquest o’r blaen — o leiaf, nid yn fy nghof! Mae’r bobl ifanc o CBCDC wedi gwneud ymdrech wych, yn cydweithio â’n rheolwr ymrwymiadau ar y wyddoniaeth a’n tîm gweithrediad ar unrhyw beth cyflenwol, i ddod â’r wyddoniaeth i fyw mewn ffyrdd newydd. Dydyn ni ddim yn gallu aros tan gall ein hymwelwyr gweld y perfformiadau dros y penwythnos nesaf.'
Bydd disgyblion Cynllunio ar gyfer Perfformiad yn perfformio dwy sioe newydd — Tîm Bywyd a Thîm Gofod — wedi’u creu yn arbennig fel rhan o’r Haf o Ddyfais Techniquest. Mae Tîm Bywyd yn dilyn y daith o glaf arferol, o enedigaeth i henaint, ac yn archwilio gwyddoniaeth feddygol ar hyd y ffordd; tra bod Tîm Gofod yn cymryd golwg ar dreulio amser ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, ac yn archwilio bywyd fel gofodwr.
Wedi’u creu am blant rhwng 7–9 mlwydd oed, ond yn hygyrch i bob oedran, mae pob un o’r perfformiadau wedi’u creu i adrodd stori weledol gyda’r defnydd o benawdau creadigol, i gynnig y cyfle i gynulleidfaoedd D/deaf cael profiad gwell.
'Mae ‘di bod yn gyfle gwych i’n disgyblion cydweithio â safle allanol fel Techniquest. I fod yn rhan o’i Haf o Ddyfais ac i ymateb mewn ffordd greadigol i’r byd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) trwy’r cyfrwng pypedwaith wedi bod yn brosiect unigryw a chyffrous i ni.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli chwilfrydedd.'Lucy HallUwch-Ddarluthydd o Gynllunio ar gyfer Perfformiad o’r CBCDC
Wnaeth disgyblion o’r CBCDC rhedeg gweithdy â phlant o ysgol gynradd Mount Stuart ym mis Mehefin i siarad am ddyluniadau am y ‘Puppet Takeover!’, ble wnaeth y plant darparu adborth gwerthfawr o ran nodweddion bach i ychwanegu ar y pypedwaith. Gall ymwelwyr cwrdd â’r creadigaethau, sydd wedi’u seilio ar wahanol ddyfeisiau a darganfyddiadau sy’n berthnasol i wyddoniaeth trwy’r oesoedd, wrth y Safleoedd Pypedau ar yr arddangosfa.
Am Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mae’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn magu a herio’r talentau creadigol gorau o’r byd i gyd, yn galluogi rhagoriaeth, tanio dychymyg a gyrru cyfnewidiad. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru a’i dŷ cynhyrchu mwyaf, rydyn ni’n hyfforddi dros 900 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr y celfyddydau o dros 40 gwledydd, am yrfa gynaliadwy yn y celfyddydau fel rheolwyr o genhedlaeth nesaf o artistiaid.
Mae ein disgyblion yn tansuddedig mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad maen nhw’n cyrraedd, yn herio’r terfynau o beth gall y celfyddydau wneud i wella’r gymdeithas, trwy gydweithio a chreu gwaith newydd ar dros amrywiaeth o osodiadau proffesiynol a chymdeithasol.
Rydyn ni’n safle i bawb; mae uchelgais greadigol a chydweithrediad yn canolog i’n rhagoriaeth.
Am Techniquest
Techniquest yw canolfan darganfod gwyddoniaeth mwyaf Cymru wedi’i leoli yng nghalon Bae Caerdydd. Mae’n darparu profiadau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) am bob oedran a gallu, a llwyfan i addysgu, diddanu a sicrhau bod gwyddoniaeth ar gael i bawb ar draws Cymru.