Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gitarydd yn Glyndebourne: George ar daith

Yn ystod yr hydref diwethaf bu George Robinson, a raddiodd mewn Gitâr o’r Coleg, yn teithio o amgylch y DU gan berfformio ar lwyfan gyda cherddorfa deithiol Glyndebourne.

Trwy gynllun Pit Perfect Glyndebourne gwahoddwyd George i ymuno â’r cwmni, gan berfformio Don Pasquale gan Gaetano Donizetti.

Mae’r cynllun clodfawr yn agored i offerynwyr ôl-radd sydd newydd raddio ac yn cynnig y cyfle iddynt weithio’n broffesiynol gyda Cherddorfa Deithiol Glyndebourne gan ymuno ag un o’i gynyrchiadau’r hydref.

Fel rhan o’r cynllun, cafodd George ei fentora gan aelod o’r gerddorfa. Roedd cyfleoedd eraill yn cynnwys cael gwersi un i un, eistedd mewn rihyrsals a pherfformiadau ychwanegol, ac ymgysylltu â seminarau a sgyrsiau ar fywyd yn y proffesiwn cerddoriaeth; gan ddysgu sut i wneud cysylltiadau o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r Opera yn adrodd hanes yr hen lanc Don Pasquale, a’i fwriad i briodi er mwyn cosbi ei nai, Ernesto, sydd mewn cariad â’r weddw ifanc Norina. Yn y cyfamser, mae Dr Malatesta yn cynllwynio i helpu’r pâr cariadus.

Gellir gweld George yn yr act olaf yn cyfeilio i’r aria Com’e gentil – ‘How lovely’: Wrth iddi ddechrau nosi mae Ernesto yn canu am ei gariad tuag at Norina, wrth iddo aros iddi gyrraedd...

Profiad Pit Perfect George

Gan neilltuo amser yn ei amserlen brysur yn teithio’r DU, bu George yn sôn wrthym am ei brofiad Pit Perfect.

‘Fel gitarydd, prin iawn yw’r cyfle i fod yn rhan o gerddorfeydd ac opera, felly rydw i bob amser wedi manteisio ar unrhyw gyfle i fod yn rhan mewn pethau mwy.’

‘Heb ddull cydweithredol y Coleg, sy’n pwysleisio’r angen i fod yn ystwyth a thaflu fy hun at unrhyw gyfle, fyddwn i ddim wedi ystyried cynllun Pit Perfect Glyndebourne.’
George Robinson

Astudio yn CBCDC

Trwy gydol cyfnod George yn CBCDC cymerodd ran mewn nifer o gyfleoedd cydweithredol, megis chwarae’n rheolaidd gyda’i ddeuawd Llais a Gitâr, gweithio ar draws adrannau, a chwarae gyda Cherddorfa REPCO.

‘Roeddwn i’n ffodus dros ben i allu cydweithio ar draws pob adran o’r Coleg, a llwyddais i wneud llawer o gysylltiadau ledled y DU cyn graddio. Cefais fudd o’r holl gyfleoedd a roddwyd i mi.’
George Robinson

‘Fe wnes i fwynhau fy mhedair blynedd fel myfyriwr gradd yn y Coleg yn fawr iawn. Roeddwn yn gwerthfawrogi bod yn rhan o adran a oedd bob amser eisiau gwneud pethau gyda’n gilydd, boed hynny’n berfformio fel ensemble neu’n cystadlu gyda’n gilydd yng Nghwis Tafarn wythnosol Undeb y Myfyrwyr.'

George (chwith) gyda’i gyd-chwaraewyr ar y llwyfan yn Don Pasquale.

Hoff atgof o’i gyfnod yn CBCDC:

‘Fy hoff atgof o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw’r adeilad a’r teimlad o gymuned sydd yno. Mae gan y Coleg amgylchedd cynhwysol iawn lle mae pawb o’r un meddylfryd a bob amser yn cefnogi ei gilydd.’

‘Rwy’n credu bod y Coleg yn denu math arbennig o unigolion ac rydych yn dod nid yn unig yn gydweithwyr iddynt, ond yn ffrindiau oes.’
George Robinson

Unrhyw gyngor i rywun sy’n ystyried astudio yn CBCDC?

‘Pe gallwn roi un gair o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried astudio yn CBCDC, fe fyddwn i’n dweud byddwch yn rhan ym mhopeth y gallwch. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn deall pwysigrwydd yr hyn rydych yn ei wneud a pham eich bod yno, felly ewch amdani!’

 Diolch am sgwrsio gyda ni George a gobeithio dy fod wedi mwynhau’r cyfnod gyda Glyndebourne.

George gyda’i ffrindiau yn seremoni raddio CBCDC 2018

Storïau eraill