Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyfle i Gyfarfod Errollyn Wallen, Artist preswyl ewydd CBCDC

Yn gynharwch y mis hwn, gyda Cherddorfa Symffoni CBCDC yn dathlu ei gwaith, pleser oedd croesawu Errollyn Wallen yn Artist Preswyl y Coleg.

Mae Errollyn sy’n Gymrawd CBCDC, Cyfansoddwr a Cherddor yn ffigur dylanwadol ac yn esiampl llawn ysbrydoliaeth. Cafodd ei galw’n 'fenyw dadeni cerddoriaeth gyfoes Prydain' gan bapur newydd The Observer.

‘Mae ei chyfnod preswyl yn ddechrau siwrnai hir gyda’n gilydd.

Mae Errollyn yn artist sy’n ymgorffori ein gwerthodd fel Coleg. Mae wedi newid y canfyddiad o’r hyn y mae cerddoriaeth yn ei olygu i gymdeithas ac rydym yn edrych ymlaen iddi ysbrydoli gwaith ein cyfansoddwyr yn y dyfodol, ac yn gobeithio y bydd ein gwaith ni yn ei hysbrydoli hithau.’
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth

Dros y tair blynedd nesaf bydd Errollyn yn ymweld yn rheolaidd â’r Coleg ac yn gweithio gyda staff a myfyrwyr gyda’r nod terfynol o gomisiwn ar raddfa fawr yn 2024.

‘Dydyn ni ddim yn chwalu rhwystrau mewn cerddoriaeth … dydyn ni ddim yn gweld rhwystrau’ yw arwyddair ei hensemble cerddoriaeth siambr modern, Ensemble X. Mae hyn, ynghyd â’i hethos, ei dilysrwydd a’i gwir angerdd am bopeth yn ymwneud â cherddoriaeth, yn adlewyrchu ei dull penrhydd a’r rheswm ein bod yn llawn cyffro mai hi yw ein Hartist Preswyl newydd.'

‘Mae cyfathrebu yn ganolog i waith Errollyn - ennyn diddordeb y gynulleidfa, siarad yn uniongyrchol â chalonnau a meddyliau, a chreu gwaith sy’n ymateb i’r gymuned ac yn ei gwella.

Ein gwaith ni yw hyfforddi gwrandawyr proffesiynol ac mae Errollyn yn enghraifft arbennig o rywun sydd ag empathi a gofal dwfn, a dyna’r dylanwad a’r ysbrydoliaeth rydym ni am eu rhoi i’n myfyrwyr wrth iddynt hyfforddi i fod yn gerddorion y genhedlaeth nesaf.'
Kevin PricePennaeth Perfformio Cerddoriaeth
Errollyn Wallen, Chrome

Treuliodd Errollyn amser gyda’r myfyrwyr a’r staff yn dod i adnabod y Coleg a’r gymuned. Yn y cyfamser, drwy gydol tymor yr Hydref, roedd y myfyrwyr wedi bod yn brysur yn perfformio gwaith Errollyn ar draws adrannau cerddoriaeth y Coleg, gan gynnwys ein cyngerdd Cerddorfa Symffoni CBCDC diweddaraf, a berfformiwyd ar gyfer Errollyn yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Gweithio gydag Errollyn

Sut brofiad oedd chwarae cerddoriaeth Errollyn o’i blaen?

Bu Georgina Dadson, gitarydd a myfyriwr gradd meistr yn gweithio gydag Errollyn yn ystod y dosbarth gitâr, yn trafod y ffordd orau i berfformio ei darn:


Errollyn yn gweithio gyda’r myfyrwyr gitâr
‘Wrth siarad am yr hyn sy’n dylanwadu ar ei chyfansoddiadau, pwysleisiodd y diddordeb mawr sydd ganddi mewn sut y mae pob perfformiwr yn dehongli cerddoriaeth yn wahanol iawn; nid oes yr un dau berfformiwr yn swnio'r un fath.

Wrth ddysgu darnau newydd, fe allaf boeni nad ydw i’n gwneud y peth iawn, felly roeddwn i’n teimlo cryn ryddhad wrth glywed cyfansoddwr yn siarad mor rhydd am wychder unigolyddiaeth ymhlith perfformwyr. Gwnaeth i mi deimlo’n gyfforddus ac yn llawn cyffro i chwarae ei cherddoriaeth iddi gan fod ei hysbryd cydweithredol yn galonogol iawn.'
Georgina Dadson

Treuliodd Errollyn amser yn y rihyrsal pres, lle roeddent yn ymarfer Chrome ar gyfer cyngerdd oedd i’w gynnal yn fuan i ddathlu amrywiaeth cerddorol.

Bu’r myfyriwr pres Elisabeth Rogers yn sgwrsio am chwarae o flaen Errollyn:

'Roedd yn brofiad gwych i chwarae i Errollyn a gweld ei hymateb i’n perfformiad a’n dehongliad o’i darn.

Fe wnes i fwynhau sut yr oedd yn teimlo’r gerddoriaeth wrth iddi wrando ar ei chyfansoddiad yn cael ei chwarae, a’r wybodaeth a rannodd ynglŷn â chyd-destun y darn. Roedd hi’n ddiddorol clywed am y meddyliau y tu ôl i’w cherddoriaeth ac o le y daeth y syniad yn wreiddiol.'
Elisabeth Rogers
Errollyn a Tim Rhys Evans yn cymryd rhan yn y sesiwn holi ac ateb gyda Cherddorfa Symffoni CBCDC

'Roedd hi’n ddiddorol iawn ei chlywed yn siarad am ei chefndir a cherddoriaeth a oedd yn rhan o’i theulu a sut mae wedi cymryd ei phlentyndod a’i adlewyrchu mewn darn sydd wedi’i gyfansoddi ar gyfer band pres - rhywbeth a oedd yn newydd iddi hi, o’r hyn yr wyf i’n ei ddeall, ar adeg ei gyfansoddi!'

Roedd ei chyd-fyfyriwr Pres Josephine Allen hefyd yn teimlo ei bod yn ddiddorol iawn i glywed am darddiad y gerddoriaeth, yn arbennig sut yr aeth ati i ysgrifennu Chrome.

'Roeddwn i wastad wedi tybio bod gan gyfansoddwyr weledigaeth glir iawn o’r hyn yw eu cerddoriaeth.

Fodd bynnag, roedd dull Errollyn yn llawer mwy haniaethol ei natur. Siaradodd am fflach a gweledigaeth o gar, ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn anhygoel sut y gallai greu darn o gerddoriaeth mor amrywiol o’r ddau syniad yma.

Roedd hi mor garedig a’i thraed ar y ddaear. Dim ond canmoliaeth oedd ganddi i ni, yn ogystal â chyngor craff a buddiol.’
Josephine AllenBrass student

Mae Errollyn yn ymddangos yn yr erthygl hon a gyhoeddwyd yn y Guardian ym mis Mawrth 2022 am gerddorion Du sy’n gwella wrth iddynt fynd yn hŷn!

Ynddo mae hi’n dweud, ‘Ni fu fy llwybr i lwyddiant ym maes cerddoriaeth glasurol yn un hawdd, ond rydw i wedi cael cymaint o ryddid i gyfansoddi’r gerddoriaeth rydw i eisiau ei chreu. Er nad oes gen i label recordiau rwy’n teimlo mod i wedi gwireddu fy mhotensial mewn cerddoriaeth glasurol mewn ffordd fyddai wedi bod yn amhosib yn y byd pop. Y peth gorau am fy ngyrfa ar hyn o bryd yw bod fy ngherddoriaeth yn cael ei pherfformio’n fyw sawl gwaith yr wythnos ac mae fel petai’n cysylltu â phobl o bob oed a chefndir.’

Rydym yn edrych ymlaen at ymweliad nesaf Errollyn, ond yn y cyfamser gallwch ei dilyn Twitter a Instagram.

Storïau eraill