
Broetsh am Ragoriaeth ar y Delyn CBCDC

Llongyfarchiadau i’r delynores Bethany Coggon y dyfarnwyd Broetsh am Ragoriaeth ar y Delyn gyntaf Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru iddi gan Lywydd CBCDC, y Fonesig Shirley Bassey, yng nghinio blynyddol y Coleg yr wythnos diwethaf.
Mae’r broetsh, a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Delynores Swyddogol Tywysog Cymru, wedi’i rhoi ar fenthyg yn barhaol gan y Brenin, sy’n Noddwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd yn cael ei ddyfarnu’n flynyddol i’r telynor sy’n cael y marc uchaf yn eu datganiad haf.
Yn 2000, ailsefydlodd Tywysog Cymru ar y pryd rôl y Telynor Swyddogol er mwyn meithrin ac annog talent cerddorol ifanc yng Nghymru a ledled y DU, ac i godi proffil y delyn fel offeryn. Mae gan y Coleg berthynas hir â’r rôl hon, gyda Thelynorion Swyddogol blaenorol yn cynnwys y graddedigion Alis Huws, 2019-2025, a Hannah Stone a ddaliodd y rôl o 2011. Y cymrawd a’r graddedig Catrin Finch oedd y delynores gyntaf i ddal y swydd wedi i’r traddodiad gael ei ailsefydlu.
Yn dilyn esgyniad Ei Fawrhydi Brenin Charles III i’r orsedd yn 2022, cyfeiriwyd at y rôl fel Telynor y Brenin, ac ar hyn o bryd mae’r swydd yn cael ei dal gan un arall o raddedigion y Coleg, Mared Pugh-Evans.
Mae’r wobr nodedig hon yn dathlu rhagoriaeth mewn perfformio ar y delyn ac yn parhau â’r etifeddiaeth o gydnabod cerddorion ifanc rhagorol.