Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Penodi Tim Rhys-Evans MBE, sylfaenydd Only Men Aloud, yn Gyfarwyddwr Cerdd Newydd

Mae’n bleser gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi bod Tim Rhys-Evans MBE wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cerdd newydd.

Mae Tim yn fwyaf adnabyddus am greu Only Men Aloud ac am fod yn sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Elusen Aloud, sy’n rhedeg Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud. Bydd yn parhau â’i gysylltiad â’r elusen drwy ddod yn Noddwr iddi. Ef hefyd yw crëwr Only Men Aloud.

Only Boys Aloud yn canu yng nghyntedd Carne y Coleg

Mae Tim, a raddiodd gyda gradd MA o’r Coleg ac sy’n gyn-diwtor astudiaethau llais ac yn Gymrawd y Coleg, yn gerddor adnabyddus sy’n gweithio’n rheolaidd yn rhyngwladol fel arweinydd corawl, arbenigwr llais, trefnydd, cyfansoddwr, beirniad a chyflwynydd ar y teledu a’r radio.

'Mae gen i gysylltiad hir â’r Coleg, ac rydw i wrth fy modd fy mod yn ymgymryd â’r rôl Cyfarwyddwr Cerdd. Mae gweld trawsnewidiad y Coleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn bleser pur ac rwy’n llawn cyffro i fod yn chwarae rhan yng ngham nesaf ei ddatblygiad.

Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio mor ganolog i ni fel cenedl a byddaf yn ymroi i sicrhau bod rhagoriaeth wrth galon popeth a wnawn, gan ein galluogi i ddisgleirio hyd yn oed yn fwy ar y llwyfan byd-eang.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerdd CBCDC

Yn ogystal â’r ddau gôr a ffurfiodd o dan faner Aloud a’i gôr cymysg Serendipity, mae Tim hefyd wedi arwain nifer o gorau eraill yn cynnwys Corau Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, ac mae’n falch iawn o fod yn arweinydd presennol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Oherwydd cefndir Tim ym maes opera mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cerdd Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Opera Ieuenctid Gogledd Iwerddon, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel y Côr-feistr Cyswllt ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn 2013 dyfarnwyd MBE iddo am wasanaeth i gerddoriaeth a gwasanaethau elusennol.

Storïau eraill