Neidio i’r prif gynnwys

Newyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Penodi Tim Rhys-Evans MBE, sylfaenydd Only Men Aloud, yn Gyfarwyddwr Cerdd Newydd

8 Ionawr 2020 Mae’n bleser gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi bod Tim Rhys-Evans MBE wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cerdd newydd.

Rhannu neges

Categorïau

Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi

Published on 08/01/2020

Mae Tim, a raddiodd gyda gradd MA o’r Coleg ac sy’n gyn-diwtor astudiaethau llais ac yn Gymrawd y Coleg, yn gerddor adnabyddus sy’n gweithio’n rheolaidd yn rhyngwladol fel arweinydd corawl, arbenigwr llais, trefnydd, cyfansoddwr, beirniad a chyflwynydd ar y teledu a’r radio.

Yn ogystal â’r ddau gôr a ffurfiodd o dan faner Aloud a’i gôr cymysg Serendipity, mae Tim hefyd wedi arwain nifer o gorau eraill yn cynnwys Corau Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, ac mae’n falch iawn o fod yn arweinydd presennol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Oherwydd cefndir Tim ym maes opera mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cerdd Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Opera Ieuenctid Gogledd Iwerddon, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel y Côr-feistr Cyswllt ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn 2013 dyfarnwyd MBE iddo am wasanaeth i gerddoriaeth a gwasanaethau elusennol.

'Rydw i wrth fy modd fod Tim yn ymgymryd â’r rôl hon.

Daw â chyfuniad o weledigaeth feiddgar, cyflawniad artistig rhagorol ac agwedd ryngwladol. Mae ganddo hefyd ddealltwriaeth ddwys o draddodiadau cerddoriaeth Cymru ac ymrwymiad dwfn i feithrin potensial ym mhob unigolyn.

Bydd y profiad hwn yn chwarae'n arbennig o gryf yn strategaeth newydd, uchelgeisiol y Coleg i ddatblygu ein gwaith a'n heffaith ledled Cymru ac i ddarparu profiadau trawsnewidiol i gymunedau amrywiol. Bydd Tim yn dod â safbwyntiau ffres ac egni llawn ysbrydoliaeth er mwyn ategu ein harbenigedd presennol, ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef.'
Professor Helena GauntPrifathro Coleg Brenhinol Cymru
'Mae gen i gysylltiad hir â’r Coleg, ac rydw i wrth fy modd fy mod yn ymgymryd â’r rôl Cyfarwyddwr Cerdd. Mae gweld trawsnewidiad y Coleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn bleser pur ac rwy’n llawn cyffro i fod yn chwarae rhan yng ngham nesaf ei ddatblygiad.

Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio mor ganolog i ni fel cenedl a byddaf yn ymroi i sicrhau bod rhagoriaeth wrth galon popeth a wnawn, gan ein galluogi i ddisgleirio hyd yn oed yn fwy ar y llwyfan byd-eang'
Tim Rhys-Evans MBEDirector of Music

Sefydlodd Tim Only Men Aloud yn y flwyddyn 2000 gan ei fod yn poeni bod y traddodiad corau meibion yn dirywio. Arweiniodd y côr i fuddugoliaeth a chydnabyddiaeth ryngwladol drwy ennill cystadleuaeth Last Choir Standing y BBC yn 2008.

O dan ei arweinyddiaeth mae Only Men Aloud wedi dod yn un o’r sefydliadau mwyaf arloesol a deinamig ym myd y celfyddydau, gan ennill llu o wobrau yn cynnwys Gwobr Albwm y Flwyddyn Classical Brit, recordio gyda sêr megis Syr Bryn Terfel, a chanu yn Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Estynnodd Menna Richards, Cadeirydd Elusen Aloud ac Is-Lywydd Coleg Brenhinol Cymru ei llongyfarchiadau cynhesaf i Tim ar ei benodiad, gan ddweud, “Bydd Elusen Aloud yn drist i’w weld yn mynd ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau drwy Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud.

'Bydd Elusen Aloud yn drist i’w weld yn mynd ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau drwy Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud

Mae gweledigaeth ac uchelgais Tim ar gyfer Aloud wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl ifanc ac rydym yn benderfynol y bydd yr elusen yn parhau i newid bywydau.

Rydw i wrth fy modd y bydd Tim yn parhau â’i gysylltiad gydag Aloud drwy ddod yn Noddwr yr elusen ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng Aloud a’r Coleg.

Mae pawb ohonom yn Aloud yn dymuno’r gorau i Tim wrth iddo ddechrau ar ei rôl newydd.'
Menna RichardsChair of The Aloud Charity and Vice-President RWCMD

Mae cred Tim bod canu yn weithgaredd sy’n gwella bywydau yn sail i bopeth y mae’n ei wneud yn broffesiynol. Gwelwyd hyn yn ei waith arloesol gydag OMA, gan gynnal pwysigrwydd traddodiad Corau Meibion Cymru a pharhau ei berthnasedd i gymdeithas fodern.

Aeth â’r syniad hwn ymhellach wrth greu Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud, a sefydlodd Elusen Aloud yn 2012 i wreiddio a datblygu’r gwaith hwn ymhellach.
Mae Tim hefyd wedi lleisio barn am faterion iechyd meddwl, gan rannu ei brofiadau ei hun yng nghyfres ddogfen BBC1, All in the Mind, a enillodd Wobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Ddogfen Orau.

Mae Tim yn hanu’n wreiddiol o Dredegar Newydd ac wedi bod yn canu’r piano ers ei fod yn bum mlwydd oed, gan fireinio ei ddawn gerddorol yn y capel Bedyddwyr lleol a chwarae yn y band pres yn yr ysgol. Erbyn ei fod yn 14 oed roedd wedi ffurfio ei gôr ei hun a’r flwyddyn ganlynol ymunodd â Chôr Ieuenctid Morgannwg Ganol cyn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna ennill gradd Meistr mewn Perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cymru.

Dechreuodd ei yfa fel bariton, gan weithio gyda chorysau cwmnïau sefydledig megis Opera de Lyon yn Ffrainc ac Opera Cenedlaethol Cymru, ond tra’n gweithio gyda Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr y canfu ei wir alwedigaeth.

Derbyniwyd Tim i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2010, dyfarnwyd Doethuriaeth Anrhydeddus iddo gan Brifysgol De Cymru yn 2017, ac fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg eleni, gan ddathlu ei gyfraniad eithriadol i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae Tim hefyd yn Is-lywydd yr elusen ddigartref Shelter Cymru ac yn ymddiriedolwr The Darkley Trust, gan weithio gyda'r celfyddydau ac elusennau digartref yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn gweithredu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol. Mae’n denu artistiaid ifanc o tua 30 o wledydd er mwyn darparu llif cyson o ddoniau sy’n dod i’r amlwg i’r diwydiannau cerddoriaeth a theatr a phroffesiynau cysylltiedig.

Sefydlwyd Elusen Aloud yn 2012 er mwyn ymgysylltu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc ledled Cymru â phŵer canu corawl a thrwy’r gweithgaredd hwn i hybu hunan-gred a hunan-hyder er mwyn annog dyhead, meithrin sgiliau a datblygu teimlad o gymuned. Mae Aloud yn cyflawni’r genhadaeth hon drwy weithgarwch ei dair prif fenter: Only Boys Aloud, Academi OBA ac Only Kids Aloud.

Negeseuon newyddion eraill