Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Robert Plane sy’n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yw’r Pennaeth Perfformio Chwythbrennau newydd

Robert Plane, sydd wedi bod yn addysgu’r clarinét yn y Coleg am yr ugain mlynedd ddiwethaf, yw Pennaeth Perfformio Chwythbrennau newydd y Coleg.

Bydd Robert, sydd ar hyn o bryd yn Brif Glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ymuno â’r Coleg yn ei swydd newydd ym mis Medi.

'Mae’n rhaid i gydweithredu ac arloesedd fod wrth galon popeth a wnawn,' meddai Robert, wrth sgwrsio am yr hyn yr oedd yn edrych ymlaen at ei wneud.

Dylai ein holl gerddorion chwythbrennau ifanc fod â’r hyder i archwilio llwybrau cerddorol na fyddent efallai wedi meddwl amdanynt yn flaenorol.

Mae Covid-19 wedi dangos pa mor greadigol, dyfeisgar a hyblyg y bydd angen i gerddorion y dyfodol fod.Cyflogadwyedd yw popeth, ac rwy’n gobeithio meithrin dull gweithio gofalgar, cefnogol ac ymestynnol yn yr adran.'
Robert Plane

'Alla’i ddim aros i groesawu’r myfyrwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, staff ac artistiaid gwadd i’n cyfleusterau o’r radd flaenaf cyn gynted ag y gallwn, i weithio er mwyn cyrraedd y safonau uchaf oll ac i gyflawni potensial pob myfyriwr ar draws sbectrwm cyfan o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gerddor.

Ni fydd cyfyngiadau ar fy uchelgais ar gyfer yr adran a’i haelodau.'

Yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau ar symud o ganlyniad i Covid-19 efallai y byddwch wedi gweld Rob ar Twitter neu’r teledu yn perfformio, tra’n cadw pellter cymdeithasol, i’w stryd gyda’i deulu a’i gymdogion sy’n gerddorion proffesiynol. Mae Cerddorfa Stryd Caerdydd, sy’n cynnwys pedwar aelod staff CBCDC, wedi rhannu ei neges o obaith drwy gerddoriaeth yn fyd-eang, gydag ymddangosiadau ar raglen Today Radio 4 a bydd hefyd yn ymddangos ar Ross Kemp: Britain’s Volunteer Army ar y BBC.

Allow Twitter content?

Lorem ipsum doler sit amet Twitter seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Mae’r Coleg hefyd wedi cyhoeddi mai Kate Stokes Davies, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhanddeiliaid gyda’r rheoleiddiwr addysg Cymwysterau Cymru, fydd Cyfarwyddwr Materion Allanol newydd y Coleg.

Storïau eraill