Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn penodi Pennaeth Perfformio Chwythbrennau newydd

Mae’n bleser gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi mai Robert Plane, Prif Glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yw ei Bennaeth Perfformio Chwythbrennau newydd. Bydd Robert, sydd wedi bod yn hyfforddi’r clarinét yn y Coleg am yr ugain mlynedd ddiwethaf, yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi.

Rhannu neges

Categorïau

Chwythbrennau

Dyddiad cyhoeddi

Published on 12/05/2020

Pennaeth Perfformio Chwythbrennau newydd


Bydd swydd Rob yn canolbwyntio ar ddatblygu presenoldeb CBCDC ar y llwyfan rhyngwladol yn ogystal â chryfhau perthnasedd y Coleg i’w gymunedau lleol a’i wreiddiau yng Nghymru.


Dylai pob myfyriwr sy’n dod drwy’r adran fod â’r hyder i archwilio llwybrau cerddorol na fyddent efallai wedi meddwl amdanynt cyn dechrau eu hastudiaethau gyda ni.

Byddwn yn gweithio i gyrraedd y safonau uchaf oll ac i gyflawni potensial pob myfyriwr ar draws sbectrwm cyfan o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn gerddor. Ni fydd cyfyngiadau ar fy uchelgais ar gyfer yr adran a’i haelodau.”

Yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau ar symud o ganlyniad i Covid-19 mae Rob wedi bod yn perfformio cyngherddau, tra’n cadw pellter cymdeithasol, i’w stryd ac ar gyfryngau cymdeithasol gyda’i deulu a’i gymdogion sy’n gerddorion proffesiynol. Mae Cerddorfa Stryd Caerdydd, sy’n cynnwys pedwar aelod staff CBCDC, wedi rhannu ei neges o obaith drwy gerddoriaeth yn fyd-eang, gydag ymddangosiadau ar raglen Today Radio 4 a hefyd yn ymddangos ar Ross Kemp: Britain’s Volunteer Army ar y BBC.

'Mae’n bleser gallu parhau i adeiladau ar y gwaith rhagorol a wnaed gan fy rhagflaenwyr mawr eu parch a dod yn rhan o dîm arwain deinamig y Coleg,Mae’n rhaid i gydweithredu ac arloesedd fod wrth galon popeth a wnawn.

Mae Covid-19 wedi dangos pa mor greadigol, dyfeisgar a hyblyg y bydd angen i gerddorion y dyfodol fod. Cyflogadwyedd yw popeth, ac rwy’n gobeithio meithrin dull gweithio gofalgar, cefnogol ac ymestynnol yn yr adran.'
Robert PlanePennaeth Perfformio Chwythbrennau
'Fel aelod newydd o dîm CBCDC fy hun, rwy’n llawn cyffro ynglŷn â gweithio gyda Rob ar weledigaeth ar gyfer y Coleg sy’n rhoi cerddoriaeth wrth galon ein strategaeth pum mlynedd newydd. Er gwaethaf y cyfyngiadau ar symud, rydw i wedi cael fy rhyfeddu a’m hysgogi gan y teimlad o gymuned y mae ein Coleg yn ei greu ac rwy’n gwybod y bydd Rob yn chwarae rôl allweddol yn y gymuned honno.
Rydym wrth ein bodd y gall ddod â’i gyfoeth o dalent i’r rôl, ac rwy’n gwybod y bydd ei greadigrwydd a’i ddeinameg yn sicrhau bod ein hadran chwythbrennau yn un sy’n estyn allan, yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn apelio ar fyfyrwyr, a’r diwydiant, o’r DU a ledled y byd.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC

Mae’r Coleg hefyd wedi cyhoeddi mai Kate Stokes Davies, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhanddeiliaid gyda’r rheoleiddiwr addysg Cymwysterau Cymru, fydd Cyfarwyddwr Materion Allanol newydd y Coleg.


Nodiadau i Olygyddion

Robert Plane
Robert Plane yw prif glarinetydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a chyn hynny Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a’r Royal Northern Sinfonia. Ochr yn ochr â’r rôl newydd nodedig hon mae ganddo yrfa ryngwladol o fri fel unawdydd, cerddor siambr, artist recordio a chyfarwyddwr gŵyl.

Mae wedi perfformio concertos mewn neuaddau cyngerdd o bwys ledled Ewrop, yn amrywio o’r Barbican yn Llundain a pherfformiad cyntaf yn y Proms yn Neuadd Frenhinol Albert i’r Tonhalle yn Zurich, Auditorio Nacional de Música ym Madrid a’r Konzerthaus yn Dortmund. Gan archwilio’r repertoire ar gyfer y clarinét gyda nifer o’r pedwarawdau llinynnol gorau, agorodd Brahms Experience BBC Radio 3 gyda darllediad byw o Bumawd Brahms gyda Phedwarawd Skampa yn St. George’s Bristol. Canmolodd BBC Music Magazine ei recordiad o Quartet for the End of Time Messiaen gyda Thriawd Piano Gould fel ‘y recordiad modern gorau oll’ o’r campwaith rhyfeddol.

Mae Rob wedi dangos diddordeb brwd mewn cerddoriaeth clarinét o Brydain ar ffurf cyngherddau ac ar ddisg, gyda’i ddehongliad o Goncerto Finzi, a enillodd Wobr Gramophone, a Sonatâu BAX, a oedd ar restr fer ar gyfer Gwobr Gramophone, dau yn unig o gasgliadau mawr o recordiadau gweithiau gan y Rhamantwyr mawr o Loegr. Mae ei albwm diweddaraf ar label Champs Hill Records, Reawakened, yn dod â choncertos clarinét gan Iain Hamilton, Ruth Gipps a Richard Walthew yn ôl i fyw gyda Cherddorfa Symffoni yr Alban y BBC a Martyn Brabbins.
Mae’n brif westai rheolaidd gyda’r prif gerddorfeydd yn Llundain ac ef oedd y clarinetydd unawdol ar gyfer ffilm Disney Maleficent.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), conservatoire cenedlaethol Cymru, yn cystadlu gyda grŵp cymheiriaid o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol am y myfyrwyr gorau, gyda bron i 800 o fyfyrwyr yn dod o bob rhan o’r byd. Gydag enw da cydnabyddedig mewn paratoi artistiaid ifanc dawnus ar gyfer gwaith proffesiynol ym meysydd Actio, Cerddoriaeth, Theatr Gerddorol, Opera, Cynllunio Theatr a Rheoli Llwyfan, bydd ei raddedigion yn mynd ymlaen i fyd cerddoriaeth, theatr a phroffesiynau cysylltiedig ac yn dylanwadu arnynt.

Negeseuon newyddion eraill