
Sut mae ysgoloriaethau’n helpu i siapio dyfodol y celfyddydau yn CBCDC

Ehangu mynediad i’r celfyddydau
Wrth i ni ddod at ddiwedd blwyddyn academaidd arall, rydym yn dathlu ein graddedigion diweddaraf a’r ymroddiad, yr angerdd a’r grefft y maent wedi’u dangos wrth hyfforddi gyda ni.
Llwyddodd llawer o’r myfyrwyr hyn i dderbyn eu lle yma yn y Coleg dim ond oherwydd iddynt dderbyn ysgoloriaeth benodol, a roddodd cefnogaeth hollbwysig iddynt.
Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, rydym wedi gallu darparu cymorth ysgoloriaeth benodol i oddeutu 110 o fyfyrwyr, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cefnogwyr sy’n gwneud hyn yn bosibl.
Gwneud hi’n bosibl dilyn y freuddwyd
I’r fyfyrwraig actio Tanushree Das, caniataodd Ysgoloriaeth Gopal Mahalingam iddi astudio ar y cwrs MA mewn Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau wedi’u Recordio.
Fel myfyriwr rhyngwladol, mae hi wedi disgrifio’r ysgoloriaeth hon fel rhan drawsnewidiol o’i thaith yn CBCDC:
‘Fel rhywun a oedd wedi bod eisiau astudio yn CBCDC ers 2021 ond a gafodd ei hatal oherwydd heriau ariannol, gwnaeth derbyn cefnogaeth ariannol hi’n bosibl i mi ddilyn y freuddwyd hon o’r diwedd.
Gan fy mod yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol nad yw mor gyfoethog, mae cyfleoedd o’r fath yn hanfodol i sicrhau sefyllfa fwy teg. Caniataodd yr ysgoloriaeth hon i mi ddyrannu fy arian yn fwy effeithiol, nid yn unig tuag at ffioedd dysgu, ond hefyd ar gyfer byw, teithio, a threuliau hanfodol eraill ar gyfer datblygiad cyfannol.
Rwy’n wirioneddol ddiolchgar fy mod wedi derbyn y gefnogaeth hollbwysig hon.’Tanushree DasMA mewn Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a Chyfryngau wedi’u Recordio
Poppy Damazer, sydd ym mlwyddyn olaf y cwrs MA Perfformio Opera, yw derbynnydd presennol Ysgoloriaeth RathUnderwood:
‘Rydw i mor ddiolchgar am y gefnogaeth hon. Mae wedi caniatáu i mi barhau â’m hyfforddiant heb orfod poeni am rwystrau ariannol, a gallu canolbwyntio fy amser a’m hegni ar fy nghanu. Yn syml, ni fyddwn yn gallu astudio yma heb y gefnogaeth hael hon. Diolch.’Poppy DamazerMyfyriwr MA Perfformio Opera
Ysgoloriaethau yn newid bywydau
Mae’r myfyriwr ôl-radd llais John Rhys Liddington yn graddio o’r cwrs MMus Llais gyda chefnogaeth ysgoloriaeth Syr Howard Stringer. Diolch i ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans, bydd yn parhau â’i astudiaethau gyda ni yn Ysgol Opera David Seligman CBCDC.
‘Mae derbyn ysgoloriaeth Syr Howard Stringer yn ystod fy ngradd meistr ac ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans yn ystod fy astudiaethau yn yr Ysgol Opera y flwyddyn nesaf wedi bod yn hwb enfawr i’m hyder a’m teimlad o berthyn yn ystod fy nghyfnod yn CBCDC.
Mae fy astudiaethau yma wedi newid fy mywyd yn llwyr, yn gerddorol ac yn bersonol, a heb gefnogaeth yr ysgoloriaethau hyn ni fyddwn byth wedi gallu dechrau astudio yma. Mae bod yn rhan o waddol y rhoddwyr hynod hael a’r artistiaid o fri sydd y tu ôl i’r ysgoloriaethau hyn yn anrhydedd enfawr, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle a’r fraint hon.’John Rhys LiddingtonMyfyriwr Ôl-radd MMus Llais
Llongyfarchiadau enfawr i Poppy a John sy’n graddio’r haf hwn.
Mae ysgoloriaethau penodol yn cynnig cyfle, rhagoriaeth ac ysbrydoliaeth
Mae’r ysgoloriaethau penodol hyn yn golygu y gallwn barhau i gynnig cyfle, rhagoriaeth ac ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr, ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r rheini sy’n gwneud hyn yn bosibl.
Mae dyngarwch wedi chwarae rhan hollbwysig mewn siapio taith y Coleg hyd yma, ac mae’n parhau i fod yn allweddol yn ein dyfodol.
Os hoffech ddysgu mwy am sefydlu ysgoloriaeth benodol, cysylltwch â’n Tîm Datblygu yn Development@rwcmd.ac.uk – byddem wrth ein bodd yn clywed gennyc

Rhoddion blynyddol

Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Chaledi Myfyrwyr
