Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Llwyddiant Cynllunio yng Ngwobr Linbury unwaith eto gyda phump o enillwyr CBCDC

Mae hanes rhyfeddol y Coleg o fyfyrwyr yn cyrraedd rownd derfynol ac yn ennill Gwobr Linbury am Gynllunio Llwyfan yn parhau’n ddihafal. Gyda phump o’r derbynwyr eleni yn dod o’r Coleg mae’n golygu bod bron i hanner y 60 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol dros bum mlynedd diwethaf Gwobr Linbury wedi astudio yn CBCDC.

Llongyfarchiadau i raddedigion a chynllunwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC, Ola Kłos, Ania Levy, Bethan Wall a Jodie Yates. 

Ac i Yijing Chen a fu’n fyfyriwr gradd yn y Coleg Brenhinol Lleferydd a Drama ac sydd bellach yn ei hail flwyddyn yn astudio ar gyfer MA yma yn CBCDC.

Beth sy'n diffinio cynllunydd CBCDC?

Dyfernir gwobr fawreddog Linbury, yr unig wobr genedlaethol yn y DU ar gyfer talent cynllunio newydd, bob dwy flynedd ac mae’n cefnogi cynllunwyr i ddatblygu gyrfa gynaliadwy yn y diwydiant creadigol.

Mae pob un o’r pum cynllunydd CBCDC yn ymgorffori ysbryd yr hyfforddiant sydd i’w weld drwy’r Coleg, yn cofleidio cydweithio a dull eofn o fynd â’u celfyddyd i leoedd newydd, gan archwilio’r gwagle a’i berthynas â chynulleidfa er mwn herio ac ymgysylltu.

Mae Sean Crowley, Pennaeth Cynllunio a Chyfarwyddwr Drama yn frwd dros wneud y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio mor hygyrch â phosibl, gan annog pobl na fyddent fel arfer yn meddwl am astudio mewn conservatoire i wneud cais.

‘Mae’r cwrs yn ymwneud yn fawr iawn â gwneud. Mae’n gwrs ymarferol, ac os ydych chi’n artistig ac yn angerddol am gydweithio a chreu yna fe allai fod y cwrs iawn i chi.'

Bydd arddangosfa Gwobr Linbury am Ddylunio Llwyfan yn agor ar 13 Tachwedd yn y National Theatre yn Llundain, a bydd yn cau ar 30 Mawrth 2023.

Llwyddiannau blaenorol CBCDC yng Ngwobr Linbury

Aeth y cynllunwyr hyn ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus gan gynllunio cynyrchiadau ar gyfer y Royal Shakespeare Company, The Royal Court, Royal Ballet, Royal Opera House, National Theatre, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a llawer rhagor. Mae enillwyr a chynrychiolwyr rownd derfynol blaenorol CBCDC yng ngwobr Linbury allan yn y diwydiant yn gwneud eu marc ym maes cynllunio theatr. Ymhlith llawer o rai eraill:


Mae Debbie Duru newydd ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Cynllunio Theatr yng Ngowbrau Black British Theatre. Mae Debbie yn gweithio ar draws meysydd theatr, ffilm, ffasiwn a theledu a chyrhaeddodd rownd derfynol Linbury yn 2019. Cafodd ei henwebu hefyd am Offie am gynllunio gwisgoedd ar gyfer ‘Alice in Wonderland’ yn Theatr Poltergeist, Brixton House.

Ymhlith ei gwobrau lu, mae Gabriella Slade wedi ennill gwobr Tony ac wedi cael ei henwebu am wobr Olivier am ei chynlluniau gwisgoedd ar gyfer Six ac mae ar fin cynllunio cynhyrchiad cwbl newydd o Starlight Express. Cyrhaeddodd rownd derfynol Linbury yn 2013.

Yr amlwobrwyedig Tom Scutt, sydd wedi’i enwebu am wobr Olivier ar gyfer ei waith cynllunio set a gwisgoedd yng nghynhyrchiad hynod lwyddiannus ‘Cabaret’ yn y West End, a fydd yn symud i Broadway cyn bo hir.

Emily Bates a fu’n gweithio fel cynllunydd set iau ar y ffilm ‘Barbie’.

Heb anghofio’r holl raddedigion sydd wedi gweithio ar ‘Doctor Who’ dros y blynyddoedd.

Pam astudio cynllunio yn CBCDC

Canfu Ola Kłos fod astudio yn CBCDC wedi rhoi’r cyfle iddi ddarganfod yr ystod eang o feysydd cynllunio sy’n bodoli ym myd perfformio.

‘Byddwch yn sicr o gael eich ysbrydoli gan eich tiwtoriaid a’r darlithwyr gwadd sydd â’r nod o roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i lwyddo fel cynllunydd/gwneuthurwr,’ meddai.

‘Mae’n lle gwych i fod os ydych wrth eich bodd yn cynllunio/gwneud/creu a bod gennych gariad at gelfyddydau perfformio!’
Ola KłosEnillydd Gwobr Linbury a raddiodd o CBCDC
Ola Kłos, Ngwobr Linbury

Mae Bethan Wall, wnaeth hefyd gyrraedd y rownd derfynol, ac a gefnogwyd gan Ysgoloriaeth Leverhulme, yn cytuno ac yn dweud, ‘Mae’n gwrs cefnogol iawn felly gofynnwch a oes angen unrhyw beth arnoch.’

‘Mae dwyster y cwrs a sut y cewch eich trochi mewn disgyblaeth yn anhygoel ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr hyn rydych am ei wneud a sut i gyflawni hynny.

Fe fyddwn i hefyd dweud ewch amdani! Mae’r adran gynllunio yn llawn o bobl ryfeddol yn gwneud pethau rhyfeddol ac roedd yn wych bod yn yr amgylchedd hwnnw ac yng nghwmni pobl ddawnus drwy’r dydd bob dydd.'
Bethan WallEnillydd Gwobr Linbury a raddiodd o CBCDC

Beth mae ennill Gwobr Linbury yn ei olygu i chi?

Mae Gwobr Linbury yn gyflawniad enfawr ac yn rhoi dechrau gwych i yrfaoedd graddedigion newydd.

Dywedodd y myfyriwr MA presennol, Yijing Chen,

‘Rwy’n credu y bydd yn bont rhwng fy mywyd academaidd a’m gyrfa cynllunio proffesiynol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dreulio cyfnod ar leoliad y mae Gwobr Linbury yn ei gynnig.’
Yijing ChenEnillydd Gwobr Linbury a myfyriwr o CBCDC
‘Mae ennill y Linbury yn rhoi hwb enfawr o egni a hyder i ddal ati.
Mae’n deimlad gwych cael eich cydnabod am y gwaith rydych chi wedi’i wneud gan grŵp o bobl mor ysbrydoledig a phrofiadol.’
Ola KłosEnillydd Gwobr Linbury a raddiodd o CBCDC

Ymddiriedolaeth Linbury

Sefydlodd y Fonesig Anya Sainsbury Wobr Linbury ym 1987 gyda gweledigaeth i gefnogi cynllunio llwyfan arloesol ym Mhrydain a thalentau sy’n dod i’r amlwg. 

Mae’r cyn-falerina gyda’r Cwmni Ballet Brenhinol, Anya Linden, sy’n Gymrawd CBCDC, wedi gweithio’n agos gyda’r Coleg ers blynyddoedd lawer. Mae Ymddiriedolaeth Linbury, sy’n gyfuniad o’i henw cyn priodi a chyfenw ei gŵr John Sainsbury, wedi bod yn hyrwyddo’r celfyddydau ers dros 40 mlynedd.

Mae Ymddiriedolaeth Linbury hefyd wedi cyfrannu at ystod o brosiectau gan gynnwys creu cyfleusterau perfformio o safon fyd-eang CBCDC yn 2011 ac, yn fwyaf diweddar, Ysgoloriaeth Canmlwyddiant Syr Geraint Evans yn 2022.

Storïau eraill