Mae safle Severn Point, neuaddau preswyl Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ddiogel a dan reolaeth lwyr, a dim ond 10 munud ar droed o’r Coleg.
Gall y Coleg sicrhau ystafell yn y neuaddau preswyl i’w holl fyfyrwyr newydd (israddedig ac ôl-radd) sy’n cychwyn ym mis Medi ac yn gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.
Mae’r llety yn Severn Point wedi’i rannu i fflatiau chwe ystafell ac yn cynnwys ystafelloedd pwrpasol wedi’u dylunio ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau. Yn ogystal â cheginau ac ystafelloedd byw o ansawdd uchel, mae’r holl ystafelloedd en suite yn cynnwys pwyntiau ffôn a data. Hefyd, mae bloc ar wahân wedi’i neilltuo ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-radd yn unig.
Mae’r rhent yn £135.00 yr wythnos, gan gynnwys biliau, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23. Rydym yn eich cynghori i lofnodi cytundeb 43 wythnos er mwyn sicrhau bod yr ystafell yn eiddo i chi yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg – sy’n golygu na fydd rhaid i chi fynd â’ch eiddo i gyd adref!
Manteision:
- Biliau wedi’u cynnwys yn y pris
- Cyfleusterau golchi dillad
- Hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn
- Wi-Fi a band eang cyflym
- Man storio beics
- Gwasanaeth post i dderbyn parseli ac eitemau y mae’n rhaid llofnodi i’w derbyn
- Yswiriant cynnwys personol yn y pris
- Diogelwch 24 awr a mynediad electronig
Rheolir Severn Point gan Unite Students (Liberty Living yn flaenorol). Os ydych wedi cael cynnig lle i astudio yn CBCDC, peidiwch â gwneud cais i Unite Students yn uniongyrchol – bydd y rhent yn ddrytach. Yn lle hynny, ebostiwch studentservices@rwcmd.ac.uk neu ffoniwch 029 2039 1321.
Llety Preifat
Gall y Coleg helpu i ddod o hyd i lety preifat o ansawdd da i fyfyrwyr y byddai’n well ganddyn nhw aros mewn tŷ na mewn neuadd breswyl.