

Neuadd breswyl
Severn Point yw neuadd breswyl ddynodedig y Coleg ac mae’n cynnig llety yng nghanol y ddinas. Mae’n cymryd tua 12 munud i gerdded oddi yno i’r Coleg ac mae mewn amgylchedd diogel iawn a chyffyrddus.
Mae’r llety ar gyfer myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn unig, felly mae’n ffordd dda o gyfarfod ffrindiau a chyd-fyfyrwyr CBCDC.
Allow Youtube content?
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
Llety yng nghanol y ddinas
Rydym yn gwarantu llety yn Severn Point i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig, os byddant yn gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.
Mae’r rhent yn cynnwys y biliau i gyd, ac rydym yn cynghori myfyrwyr i lofnodi contract 43 wythnos. Mae hyn yn sicrhau mai chi fydd biau’r ystafell yn ystod y gwyliau, sy’n golygu na fydd angen i chi fynd â’ch eiddo adref.
Rhywle y gallwch ei alw’n gartref
Mae Severn Point yn cynnwys ceginau ac ardaloedd byw o safon uchel, gydag ystafelloedd gwely en-suite sydd â phwyntiau ffôn a data, ac maen nhw 40% yn fwy na maint ystafelloedd arferol y DU.
Mae’r llety wedi’i drefnu yn fflatiau chwe ystafell. Mae fflatiau penodol wedi’u neilltuo ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Golwg ar eich cartref newydd
Ewch ar daith rithwir o amgylch neuadd breswyl Severn Point CBCDC
Yn agos at bopeth y mae arnoch ei angen
Mae Severn Point ac ardal Cathays yn agos iawn at siopau bwyd, meddygon, deintyddion a’r ysbyty, sy’n golygu ei bod yn hawdd teithio ar droed i gael eich hanfodion bob dydd.
| O Severn Point | Pellter i’r prif adeilad - 0.7 milltir |
|---|---|
| O Cathays | Pellter i’r prif adeilad - rhwng 0.3 ac 1 filltir |
| O Severn Point | Pellter i Stiwdios Llanisien - 2.6 milltir |
|---|---|
| O Cathays | Pellter i Stiwdios Llanisien - 2.9 milltir |
| O Severn Point | Amser bws i Stiwdios Llanisien - 18-21 munud (27) |
|---|---|
| O Cathays | Amser bws i Stiwdios Llanisien - 25-30 munud (28/28A/28B) |
| O Severn Point | Amser cerdded - 13 munud |
|---|---|
| O Cathays | Amser cerdded - 6-20 munud |
| O Severn Point | Amser beicio - 3-8 munud |
|---|---|
| O Cathays | Amser beicio - 5-12 munud |
| O Severn Point | Archfarchnad agosaf - Lidl (Rhes Cathays) neu Tesco Extra ac Aldi (Heol Excelsior) |
|---|---|
| O Cathays | Archfarchnad agosaf - Lidl (Rhes Cathays) |
| O Severn Point | Siop agosaf - Tesco (Ffordd y Gogledd) |
|---|---|
| O Cathays |
| O Severn Point | Meddygfa: Meddygfa Ffordd y Gogledd, 182 Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF14 3XQ |
|---|---|
| O Cathays |
Rhent a chontract
Mae’r rhent yn £171.25 yr wythnos, sy'n cynnwys biliau, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 (2026/27 i’w gadarnhau).
Rydym yn awgrymu eich bod yn llofnodi contract 43 wythnos er mwyn sicrhau mai chi fydd biau’r ystafell yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg – sy’n golygu na fydd angen i chi fynd â’ch eiddo i gyd adref.
Y broses o wneud cais
Derbynnir ceisiadau am lety rhwng Ebrill ac Awst, ond rhaid i chi wneud cais cyn diwedd mis Gorffennaf er mwyn cael sicrwydd y bydd gennych ystafell. Pan fydd y broses ymgeisio yn agor, byddwch yn cael dolen i wneud cais. Llenwch y ffurflen llety ar y dudalen hon, a bydd Gwasanaethau Myfyrwyr CBCDC yn neilltuo ystafell i chi ar sail eich dewisiadau.
Ar gyfer ceisiadau hwyr am lety a/neu i rhoi gwybod i ni am anabledd, anfonwch e-bost at: student.services@rwcmd.ac.uk
Bydd Unite Students yn cysylltu â thenantiaid newydd. Yna bydd y broses yn cael ei chwblhau ar-lein gydag Unite Students er mwyn trefnu contractau a blaendal.
Llety diogel
Mae Severn Point yn cael ei staffio gan dîm rheoli ar y safle ac mae ganddo drefniadau diogelwch 24 awr, systemau mynediad electronig, teledu cylch cyfyng a goleuadau ym mhob rhan o’r safle.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Llety preifat

Y Dreth Gyngor a Thrwydded Deledu







