Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Cerddoriaeth

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Cerddoriaeth

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    13 mis dwys neu 2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    806F (dwys) or 805F (llawn amser) - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Datblygwch yrfa rydych chi’n ei mwynhau gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio i gantorion ac offerynwyr.

Trosolwg o’r cwrs

Cewch gyfle i archwilio dulliau blaengar ac arloesol o’ch crefft yn y cwrs arbenigol hwn ar gyfer cantorion ac offerynwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.

Dan arweiniad cerddorion proffesiynol mewn sesiynau un i un, byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o ddewisiadau repertoire a fydd yn gwella eich sgiliau artistig a thechnegol. Bydd cyfres o ddosbarthiadau perfformio, hyfforddiant, gweithdai a dosbarthiadau meistr yn ategu’r sesiynau hyn, gan gynnig dull amrywiol a chynhwysfawr i’ch hyfforddiant.

Gallwch astudio unrhyw un o’r meysydd hyn fel rhan o’ch cwrs:

  • Pres
  • Gitâr
  • Telyn
  • Organ
  • Piano
  • Offerynnau taro
  • Llinynnol
  • Llais
  • Chwythbrennau

Bydd offerynwyr yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau ensemble, a bydd cantorion yn mynychu ein dosbarthiadau iaith, symud a drama.

Gydag amrywiaeth o opsiynau astudio a gweithgareddau, gellir teilwra eich rhaglen i gyd-fynd â’ch diddordebau, eich cryfderau a’ch llwybr gyrfa. Rydym hefyd yn eich annog i weithio gyda myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini o adrannau eraill – felly mae’r posibiliadau creadigol a chydweithredol yn ddiderfyn.

Mae perfformio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn rhan ganolog o’ch hyfforddiant. Bydd cantorion ac offerynwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o berfformiadau unigol ac ensemble yn ein cyfleusterau o safon fyd-eang.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Byddwch yn cael amrywiaeth eang o ddulliau addysgu i wella eich sgiliau artistig a thechnegol. Mae hyfforddiant un i un (yr hyn rydym yn ei alw’n ‘brif astudiaeth’) yn rhan ganolog o’ch datblygiad fel perfformiwr. Ond byddwch hefyd yn cael gweithdai, dosbarthiadau meistr, cyfeiliant, hyfforddiant a gweithgareddau perfformio unigol a chydweithredol i gefnogi eich astudiaeth.
  • Yn y gweithgareddau perfformio hyn, gallwch ganolbwyntio ar arddulliau neu genres penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt, a byddwch yn cael adborth adeiladol gan eich tiwtoriaid a’ch cyfoedion – sy’n hanfodol i’ch datblygiad fel artist.
  • Byddwch hefyd yn cael nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau cerddoriaeth siambr ac ensembles. Mae’r ensembles sydd ar gael yn cynnwys ensembles cerddorfaol, band, corawl ac operatig.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr blaenllaw, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Mae ein rhaglen astudio yn hyblyg – gallwch lunio eich modiwlau craidd i gyfateb i’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa. Gyda rhai asesiadau, mae rhywfaint o hyblygrwydd hefyd, er mwyn i chi allu profi eich gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau sy’n addas i’ch dull ddysgu.
  • Os ydych chi’n ganwr, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â hyfforddwr llais profiadol a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich llais a dysgu repertoire. Byddwch hefyd yn cael amrywiaeth o ddosbarthiadau ategol yn y prif ieithoedd operatig (Eidalaidd, Almaeneg a Ffrangeg), yn ogystal â sesiynau symud a drama.
  • Os ydych chi’n astudio’r piano, byddwch yn canolbwyntio llawer ar gyfleoedd cydweithredol – fel cyfeiliant caneuon, cerddoriaeth siambr, piano bale a gwaith répétiteur opera. Byddwch yn cael dosbarthiadau darllen ar yr olwg gyntaf a byrfyfyrio hefyd.
  • Os ydych chi’n fyfyriwr yr organ, bydd gennych chi ddosbarthiadau ychwanegol a chyfleoedd cysgodi proffesiynol sy’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cysylltiedig – fel cyfarwyddo corawl, technegau ymarfer a gwaith byrfyfyr. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymarfer ar offerynnau allweddol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau a ffurfio partneriaeth â’r cyfarwyddwr cerddoriaeth yng Nghadeirlan Llandaf.
  • Os ydych chi’n astudio’r piano neu offeryn cerddorfaol, gallwch hefyd gefnogi eich astudiaeth gyda dosbarthiadau Techneg Alexander, dyblu offerynnau ac offerynnau cyfnod.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i greu a churadu eich prosiectau perfformio eich hun, lle gallwch gynnal ymchwil manylach i feysydd sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.
  • Byddwch yn cael llawer iawn o hyfforddiant un i un, ond byddwch hefyd yn cael digon o gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i gydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr meistr a’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau drama. Dim ond rhan o’r cwrs yw creu gwaith newydd, cyffrous – gall y prosiectau hyn gynnig cipolwg ar feysydd cerddorol a drama eraill a’ch galluogi i greu partneriaethau creadigol gydol oes.
  • Mae ein partneriaethau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn cynnig llawer o gyfleoedd i rwydweithio a chreu cysylltiadau yn y diwydiant – sy’n hanfodol, yn ein barn ni, er mwyn datblygu gyrfa bortffolio lwyddiannus.
  • Byddwch yn neilltuo llawer o’ch ail flwyddyn i ddatblygu prosiectau sy’n gysylltiedig â lleoliadau yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan fentor arbenigol, a fydd yn arwain eich gwaith ac yn eich helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Mae artistiaid rhyngwladol adnabyddus yn ymweld â’r Coleg bob blwyddyn i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr. Maent yn gallu cynnig gwybodaeth amhrisiadwy am y diwydiant a’r celfyddydau, sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau. Nid dim ond dod yn fedrus yn dechnegol sy’n bwysig – mae hefyd yn ymwneud â datblygu gyrfa a fydd yn para.
  • Er mwyn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd, byddwch yn cael seminarau a fydd yn eich dysgu sut i sefydlu eich hun fel artist annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn trafod rhwydweithio, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid, cyfryngau cymdeithasol – yr holl feysydd y mae angen i chi wybod amdanynt i ddatblygu a chynnal gyrfa bortffolio lwyddiannus.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybod mwy am astudio cerddoriaeth yn CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf