Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Bethan Elfyn yn cyflwyno Gwenno ac Joe Webb Trio

Trosolwg
Iau 8 Hyd 7.30pm
Prisiau
£22

Tocynnau: £22

Wrthi’n llwytho...

Gwybodaeth

Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn cyflwyno noson o gerddoriaeth wedi’i churadu a’i chyflwyno gan y ddarlledwraig o’r BBC a’r ffan cerddoriaeth, Bethan Elfyn.

Mae Bethan Elfyn wedi treulio ei hoes yn gweithio gyda cherddoriaeth yng Nghymru ar radio rhwydwaith a lleol, yn curadu digwyddiadau, yn ysgrifennu, yn cyflwyno, yn DJio, yn cynhyrchu ac wrth lyw prosiect cerddoriaeth Gorwelion.

Mae Bethan yn falch o fod yn rhan o gyflwyno’r talentau hyn o Gymru gyda Dinas Gerdd Caerdydd yn CBCDC.

Bydd y noson yn cynnwys perfformiad unigol gan Gwenno – cerddor, canwr-gyfansoddwr, artist sain, a chyflwynydd radio sy’n cael ei chydnabod am ei gwaith amlieithog yn Gymraeg, Cernyweg, a Saesneg. Mae hi wedi rhyddhau pedwar albwm unigol clodwiw: ‘Y Dydd Olaf’ (y Wobr Gerddoriaeth Gymreig), ‘Le Kov, Tresor’ (rhestr fer Gwobr Mercury), ac ‘Utopia’, ei halbwm cyntaf yn Saesneg.

Mae Joe Webb yn bianydd jazz, cyfansoddwr ac addysgwr o Gymru. Mae’n arwain y Joe Webb Trio, ac roedd eu halbwm ‘Hamstrings & Hurricanes’ (2024) wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Mercury. Mae wedi teithio gyda Jamie Cullum a Jools Holland, ac yn gynharach eleni, lansiodd ei albwm diwethaf ‘Neath Beat’ yng Ngŵyl AmserJazzTime CBCDC.

Digwyddiadau eraill cyn bo hir