Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyhoeddi Patrick King yn Bennaeth Offerynnau Taro newydd

Mae Patrick King wedi’i benodi’n Bennaeth Offerynnau Taro newydd Coleg Brenhinol Cymru. Mae Pat, Prif Chwaraewr Tympanau gydag Opera Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, wedi bod yn cydlynu’r adran am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rhannu neges

Categorïau

Offerynnau taro

Dyddiad cyhoeddi

Published on 05/02/2019

CBCDC yn Bennaeth Offerynnau Taro newydd


Mae wedi bod yn frwd iawn dros waith allgymorth ers ei fod yn fyfyriwr, ac mae’n gweld offerynnau taro fel y ffordd ddelfrydol i ymgysylltu pobl ifanc mewn gweithgarwch cerddorol.

'Mae Patrick yn flaenllaw iawn ym myd yr offerynnau taro, a bydd ei enw da fel meistr ar ei grefft yn y neuadd gyngerdd, ac mewn amgylchedd addysgol, yn galluogi iddo arwain yr adran a chefnogi dyfodol ein cerddorion ifanc.'
Kevin PriceGyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC
'Gan fod offerynnau taro mor hygyrch maent yn fan cychwyn delfrydol i ddechreuwyr greu cerddoriaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda’r adran allgymorth sydd eisoes wedi’i sefydlu yma.

Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, mae’n gwneud synnwyr i ni ddefnyddio’r ffyrdd gorau y gallwn i ysbrydoli pobl ifanc ac ymgysylltu â nhw – yn arbennig y rheini sydd ddim wedi rhyngweithio gyda cherddoriaeth mewn unrhyw ffordd cyn hyn. Rwy’n bwriadu datblygu ein gwaith allgymorth ymhellach fel y gall myfyrwyr weithio y tu allan i’r Coleg fel llysgenhadon, gan ddysgu sut i rannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u brwdfrydedd er mwyn ysbrydoli pobl ifanc sydd ddim yn gerddorion a’u grymuso i wneud hyn eu hunain.'
Patrick KingBennaeth Offerynnau Taro CBCDC

Mae Patrick wedi bod yn cynnal y cwrs Offerynnau Taro dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan weithio gyda thiwtoriaid megis Owen Gunnell o O Duo.

Mae cyflogadwyedd yn dod yn elfen gynyddol bwysig o addysgu cerddoriaeth wrth i raddedigion ddilyn gwahanol lwybrau i’r ffordd fwy traddodiadol o ymuno â cherddorfa

'Un o’r nifer o bethau rydw i’n eu hoffi am y cwrs hwn yn CBCDC yw ei bod yn gymuned mor glos o staff a myfyrwyr. Mae gan y Coleg deimlad gwirioneddol o dîm ac mae pawb yn cydweithio i greu’r gofod gorau a mwyaf ysbrydoledig i weithio ynddo.

Mae cyflogadwyedd yn dod yn elfen gynyddol bwysig o addysgu cerddoriaeth wrth i raddedigion ddilyn gwahanol lwybrau i’r ffordd fwy traddodiadol o ymuno â cherddorfa.

Mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn edrych ar ddulliau newydd ar gyfer cyflogadwyedd: yn ein proffesiwn sy’n newid mae’n bwysig cydnabod nad yw hyfforddiant yn ymwneud â bod mewn cerddorfa yn unig. Mae O Duo yn enghraifft wych o’r nifer o agweddau ar yrfa fodern ym maes offerynnau taro.'
Owen GunnellTIWTOR, O Duo

Astudiodd Patrick yn y Coleg Cerdd Brenhinol (RCM) ac wedi graddio derbyniodd Wobr y Cyfarwyddwr am gyfraniad cerddorol.

Tra ei fod yn RCM er oedd Prif Chwaraewr Tympanau Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, ac yna aeth ymlaen i yrfa lawrydd a oedd yn cynnwys chwarae gyda phob prif gerddorfa yn y DU gan gynnwys yr LSO, Cerddorfa Symffoni y BBC, LPO, RPO, Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Gyngerdd y BBC a’r Tŷ Opera Brenhinol.

Cyrhaeddodd rownd derfynol yr adran offerynnau taro yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2001, ac enillodd LSO St Lukes Academy, a arweiniodd ar waith llawrydd gyda’r LSO.

Fel addysgwr mae Patrick wedi teithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr a Cherddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac eleni gwahoddwyd ef fel artist gwadd yng Ngŵyl Offerynnau Taro y Coleg Cerdd Brenhinol.

Negeseuon newyddion eraill