Neidio i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth yn Gyntaf

Cerddoriaeth yn Gyntaf yn CBCDC yw ‘Cam 2’ y cwricwlwm. Gan gefnogi plant sydd rhwng Graddau 1 a 5 ar eu hofferyn, caiff ein gwersi a’n dosbarthiadau eu cyflwyno mewn amgylchedd dysgu hwyliog a phwrpasol ar gyfer y celfyddydau perfformio.

Mae dosbarthiadau Cerddoriaeth yn Gyntaf yn fywiog ac yn hwyl. Rydym yn canolbwyntio ar ganu a gallu cerddorol corfforol drwy’r ‘Côr Plant’ a chyd-chwarae drwy’r ‘Ensemble Creadigol’, gyda chyfleoedd tymhorol i rannu gwaith gyda theulu a ffrindiau.

Mae ystod lawn o offerynnau cerddorfaol, ynghyd â phiano, telyn a gitâr, ar gael i’w dysgu fel rhan o'r cwrs Cerddoriaeth yn Gyntaf. Mae prif astudiaeth plentyn yn rhan greiddiol o’i gwrs ac er y bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dewis cael gwersi unigol, ac eithrio pianyddion neu delynorion, efallai y bydd gwersi ar y cyd ar gael hefyd. 

Bydd y plant yn cael eu hasesu’n anffurfiol bob blwyddyn drwy berfformio dau ddarn a graddfeydd ac arpeggios i’r Pennaeth Adran gan dderbyn adborth ac anogaeth ynglŷn âu cynnydd.

Mae ein dull cefnogol

Mae ein dull cefnogol yn ceisio cydio yn chwilfrydedd naturiol plant mewn cerddoriaeth a datblygu mynegiant rhydd a gwaith tîm drwy weithgareddau grŵp sy’n llawer o hwyl. 

Ar yr un pryd, rydym yn adeiladu’n raddol ymdeimlad dysgwyr o elfennau cerddorol craidd megis rhythm, alaw, traw, tempo ac ati, yn ogystal â’u hunangred, gan atgyfnerthu sylfeini cerddorol cadarn a mynd â dysgwyr i’r lefel nesaf yn eu taith gerddorol unigryw eu hunain.

Mae Cerddoriaeth yn Gyntaf yn fwyaf addas ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed sy’n barod am wersi offerynnol 30 munud ac ar gyfer gweithio mewn grwpiau o hyd at 50 o blant yn y ‘Côr Plant’. Cynhelir dosbarthiadau ar foreau ac yn gynnar ar brynhawniau Sadwrn. Mae mynediad naill ai

  • trwy gais, y mae’n rhaid iddo gynnwys cyflwyno recordiad o chwarae’r dysgwr, neu
  • argymhelliad tiwtoriaid Cerddoriaeth Mini y dysgwr.

Mae’r rhan fwyaf o blant yn ymuno â Cherddoriaeth yn Gyntaf ym mis Medi, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Gall rhai dysgwyr hefyd ddechrau ym mis Ionawr neu fis Ebrill, yn amodol ar argaeledd hyfforddiant.

Ffioedd

Mae Cerddoriaeth yn Gyntaf yn costio £450 fesul tymor o ddeg wythnos o fis Medi 2023 i fis Gorffennaf 2024 am gwrs sy’n cynnwys gwersi unigol wythnosol (30 munud). Mae gweithgareddau dewisol yn cynnwys

  • dosbarth theori ABRSM a addysgir (£60 y tymor)
  • astudiaeth ychwanegol (£295 y tymor)

Gall cymorth ariannol fod ar gael yn achlysurol i ddysgwyr Cam 2, holwch am fanylion.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf