Neidio i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth Mini

Cerddoriaeth Mini yn CBCDC yw ‘Cam 1’ y cwricwlwm. Gan gefnogi camau cyntaf plant mewn cerddoriaeth, cyflwynir ein dosbarthiadau mewn amgylchedd dysgu hwyliog a phwrpasol ar gyfer y celfyddydau perfformio.

Mae dosbarthiadau Cerddoriaeth Mini yn fywiog ac yn hwyl. Rydym yn canolbwyntio ar ganu drwy ‘Lleisiau Mini’ a symud drwy ‘Symudwyr Mini.’ Yn ‘Seiniau, Symbolau ac Adrodd Storïau,’ mae plant yn darganfod offerynnau cerdd gyda’i gilydd, gan ddechrau gydag offerynnau taro syml, gyda chyfleoedd rheolaidd i rannu gwaith gyda theulu a ffrindiau. Bydd llawer o blant hefyd yn dechrau dysgu offeryn cerddorfaol yn ychwanegol at eu dosbarthiadau Cerddoriaeth Mini, a rhoddir arddangosiadau ar y feiolin, fiola, soddgrwth, pBone a recorder fel rhan o’r cwrs. Bydd plant yn dechrau cysylltu seiniau â symbolau gan ddefnyddio propiau fel rhaffau lliwgar a bagiau ffa i baratoi ar gyfer nodiant cerddorol sylfaenol. Yn unigryw, rydym yn defnyddio’r cerfluniau papur llawn dychymyg a’r prosiectau pypedwaith a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr gradd dawnus cwrs ‘Cynllunio ar gyfer Perfformio’ y Coleg fel ysgogiad ar gyfer ein gweithgareddau ‘Adrodd Storïau’, lle mae creadigrwydd yn dod i’r amlwg a phlant yn cael hwyl yn creu a rhannu eu naratifau a seinweddau eu hunain.

Mae ein dull cefnogol yn ceisio cydio yn chwilfrydedd naturiol plant mewn cerddoriaeth a datblygu mynegiant rhydd a gwaith tîm drwy weithgareddau chwarae. Ar yr un pryd, rydym yn adeiladu eu hymdeimlad o elfennau cerddorol craidd megis rhythm, alaw, traw, tempo ac ati gan eu cychwyn ar eu teithiau cerddorol unigryw gyda sylfeini cadarn.

Mae Cerddoriaeth Mini yn fwyaf addas ar gyfer plant oed dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 4 sy’n barod i weithio mewn grwpiau o hyd at 30 o blant. Cynhelir y dosbarthiadau am awr ar ddyddiau Sadwrn ac maent yn agored i bob plentyn oed dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 4, heb unrhyw ofyniad am glyweliad. Efallai y bydd rhieni/gofalwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y dosbarth o bryd i’w gilydd hefyd.

Ffi'r cwrs

Y gost o fis Medi 2023 i fis Gorffennaf 2024 yw £120 fesul tymor o ddeg wythnos. Gellir trefnu pecyn o wersi offerynnol ar y cyd â chyrsiau Cerddoriaeth Mini am gost ychwanegol.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf