Neidio i’r prif gynnwys

Cwmni Ieuenctid Richard Burton

Mae'r Ddrama Ifanc wedi ymrwymo i roi cyfle i bob person ifanc 7-20 oed sydd ag angerdd am theatr, gael budd o'r hyfforddiant drama arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo'u profiad neu ddulliau ariannol.

Bydd y cwmni'n cynnwys grŵp bach o actorion, perfformwyr Theatr Gerdd a Gwneuthurwyr Theatr a fydd yn cael rhaglen hyfforddi blwyddyn o hyd gyda llawer o gyfleoedd perfformio. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a thiwtoriaid CBCDC cyfredol, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai a phrosiectau creadigol gan roi'r sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnoch i gael hyfforddiant lefel uwch yn y diwydiannau creadigol.

Ynghlun a’r cwrs

Mae'r rhaglen yn cynnig cyfuniad o ddosbarthiadau sgiliau ochr yn ochr ag ymarferion ar gyfer prosiectau perfformio y byddwch yn eu rhannu â chynulleidfaoedd ar ddiwedd pob tymor.  

Sut i wneud cais

Mae mynediad i Gwmni Ieuenctid Richard Burton trwy glyweliad. Rydym yn bwriadu cynnal clyweliadau'n bersonol yn CBCDCD, ond gellir trefnu clyweliadau ar-lein amgen hefyd.

I wneud cais, llenwch ein ffurflen gais ar-lein:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â yas@rwcmd.ac.uk.

Clyweliadau

Bydd y clyweliad yn dechrau gyda gweithdy grŵp 45 munud i roi cyfle i chi ddangos eich gallu i weithio fel rhan o grŵp. Byddwch yn cael clyweliad mewn grwp back o ddim mwy na 10 o bobl. Rydym am i'n myfyrwyr fod yn:

  • Positif
  • Creadigol
  • Hael
  • Cynhwysol

Yn dilyn gweithdy'r grŵp, gofynnir i chi gyflwyno un araith i'r panel clyweliad ac i aelodau eraill eich grŵp. Ni ddylai'r araith fod yn fwy na dau funud a bydd y panel yn ailgyfeirio eich dehongliad. 

Bydd myfyrwyr llwybr Theatr Gerdd hefyd yn gorfod canu cân ddigyfeiliant o'ch dewis.

Rydym hefyd yn rhoi'r cyngor canlynol i chi:

  1. Darllenwch y ddrama gyfan, dod i adnabod y cymeriadau'n ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn dysgu'r araith yn drylwyr
  2. Dewiswch araith gan gymeriadau sy'n debyg o ran oedran i chi. 
  3. Osgowch ddefnyddio acen heblaw eich un chi, oni bai eich bod yn gwbl ddiogel ynddi 
  4. Osgoi areithiau ffôn
  5. Peidiwch â defnyddio propiau

Gwisgwch ddillad priodol a fydd yn eich galluogi i symud yn hawdd ac yn gyfforddus.

Trwy gydol eich amser gyda ni bydd y panel yn ceisio eich rhoi yn gartrefol ac i wneud y profiad yn un pleserus ac adeiladol. Er na fydd yn bosib i rieni/gwarcheidwaid/ffrindiau fynd gyda chi yn yr ystafell ei hun, mae croeso iddyn nhw aros i chi yn y brif dderbynfa. Byddwch yn cael hysbysiad o ganlyniad eich clyweliad drwy e-bost.

Ffioedd a Chefnogaeth Ariannol

Rydym wedi ymrwymo i roi i bob person ifanc 11-20 oed sydd yn angerddol dros theatr, y cyfle i fanteisio ar yr hyfforddiant ddrama arbenigol y mae CBCDC yn ei ddarparu, er gwaethaf eu profiad neu eu sefyllfa ariannol.

Diolch i Valero a llawer o gyfeilion a chefnogwyr y Coleg, gall ein holl fyfyrwyr ymgeisio am fwrsariaeth prawf modd all eu helpu i dalu ffioedd a gall dalu am hyd at 100% o gyfanswm y costau. Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn sicrhau bod y Stiwdio Actorion Ifanc ar gael i unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb gwirioneddol yn y theatr, gyda thros 50% o fyfyrwyr presennol yn cael cymorth ariannol. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y cymorth hael sydd ar gael.

Ffioedd Cwmni Ieuenctid Richard Burton 2023/24

£606 y tymor (£1,818 y flwyddyn)


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf