Neidio i’r prif gynnwys

Celfyddydau Cynhyrchu

Rydym yn cynnig cyfleoedd i archwilio theatr dechnegol, rheoli llwyfan a dylunio ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed. 

Mae ein cyrsiau a’n dosbarthiadau meistr yn rhoi cyfle i bobl ifanc creadigol gael mewnwelediad gwirioneddol i hyfforddiant ysgol ddrama a’r diwydiannau ‘cefn llwyfan’ ehangach. Cyflwynir dosbarthiadau arbenigol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, mewn sgiliau sy’n cynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, gwisgoedd a chynllunio set.

Cefnogir YPPA gan Bad Wolf.

Dosbarthiadau Meistr Hydref 2025

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ein Dosbarth Meistr YPPA Hydref ar agor ar gyfer archebu!

Mae ein dosbarth meistr cyffrous yn addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sy'n dymuno datblygu'u sgiliau ym myd celfyddydau cynhyrchu.

'Fe wnes i fwynhau’r ysgol haf yn fawr iawn a dysgais gymaint am yrfaoedd cefn llwyfan yn y theatr. Bydd y wybodaeth rydw i wedi ei chael yn fuddiol iawn yn y dyfodol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym. Roedd y sesiynau’n rhai hwyliog a rhyngweithiol'
Cyfranogwr yn yr Ysgol Haf

Ffioedd a chymorth ariannol

Mae Drama Ieuenctid CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bob person ifanc 11-18 oed sydd â diddordeb brwd mewn theatr i elwa gan yr hyfforddiant drama arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u profiad neu fodd ariannol.

Rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar wneud ein cyrsiau’n hygyrch i bob person ifanc sydd â gwir ddiddordeb yn y theatr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol cysylltwch â ni.

Dysgwch fwy am astudio yn RWCMD


Adran archwilio

Newyddion diweddaraf